Be sydd angen yn ein tafarndai, yw lager sydd wedi ei fragu efo cynhwysion ‘pur’ yn unig, (dwr, burum, hops a ‘malt yn bennaf) – ac efo dim cemegion a chrap arall – dyma yw y broblem efo bron gyd o’r lager yn ein tafarndau – ffiz cemegol.
Dyw bragu lager ddim efo traddodial hir ym Mrhydain, ac ma bron gyd o’r lager yma o gwmniau tramor. Sa’n dda os byddai un o’r cwmniau yma, neu cwmni prydeining, yn bragu lager ‘pur’ fel geir yn gyffredin ar y cyfandir, sydd ar gael yn gyffredin ar tap.
Er nad oes traddodiad hir o fragu lager yma (er oedd Wrexham lager yn un o’r rhai gynta falle, gan pobl o wlad Siec?) – hwn di y ddiod mwya poblogaidd o bell ffordd, llawer mwy na ein chwerw traddodiadol. Dwi’n meddwl fod yna farchnad potensiol anferth am lager draft o safon uchel.