cig dolig

Gwell cwrw Cymru na llaeth Lloegr?

Cymedrolwr: Jeni Wine

Rheolau’r seiat
Lle i drafod pob dim sy'n ymwneud â Bwyd a Diod. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

pa dderyn fydd yn eich ymasgaroedd y Nadolig hwn?

twrci
29
60%
gwydd
13
27%
chwadan
1
2%
cyw iâr
2
4%
ffesant
1
2%
yr un - dwi'n llysieuwr
2
4%
 
Cyfanswm pleidleisiau : 48

Postiogan finch* » Llun 06 Rhag 2004 12:35 pm

Eleni glywes i am y Turducken gynta pan yn edrych ar fwydlen cinio nadolig gwaith. Mae'n debyg fod y resipi gwreiddiol yn dod o Louisianna a bod y boi wedi ffeindio 9 aderyn o Snipe (giach/gafr y gors) i fynny at y Twrci. Ffycin rednecks.
Jeff Tarango - There must be two, three thousand people here!
Michael Stich - Well is it two or three?
Rhithffurf defnyddiwr
finch*
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2090
Ymunwyd: Gwe 03 Medi 2004 12:38 pm
Lleoliad: Yn cuddio

Postiogan Fatbob » Llun 06 Rhag 2004 1:10 pm

Ferswin Americanaidd o hen rysait Brydeinig yw'r Turducken, dwi'm yn siwr be yn union odd yn y rysait wreiddiol ond ma rhyw gof da fi taw cig alarch oedd y prif gig.
How many times do I have to tell you? You don't put a bra in a dryer! It warps!
Rhithffurf defnyddiwr
Fatbob
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 478
Ymunwyd: Maw 21 Hyd 2003 1:38 pm
Lleoliad: Yn y peiriant golchi.

Postiogan Chwadan » Llun 06 Rhag 2004 1:18 pm

Dai dom da a ddywedodd:Hang on, hang on, dwi'n slightly confused. Beth yw chwadan? Partridge neu beth?

Be ti'n feddwl di'r llun bach ciwt o dan fy enw? Albatros?
Rhithffurf defnyddiwr
Chwadan
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2578
Ymunwyd: Sul 16 Maw 2003 12:24 am
Lleoliad: :dailoelL

Postiogan finch* » Llun 06 Rhag 2004 1:29 pm

Fatbob a ddywedodd:Ferswin Americanaidd o hen rysait Brydeinig yw'r Turducken, dwi'm yn siwr be yn union odd yn y rysait wreiddiol ond ma rhyw gof da fi taw cig alarch oedd y prif gig.


Dynna beth glywes i ar lafar hefyd ond doedd dim ar y we amdano fe heblaw am yr Ianks yn ei hawlio fel pryd 'traddodiadol' :rolio: . Beth glywes i oedd ei fod e'n bryd mewn glewddau canoloelol gyda hyd at 15 aderyn wedi'u stwffio tu fewn i'w gilydd o ddryw reeit lan at alarch.
Jeff Tarango - There must be two, three thousand people here!
Michael Stich - Well is it two or three?
Rhithffurf defnyddiwr
finch*
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2090
Ymunwyd: Gwe 03 Medi 2004 12:38 pm
Lleoliad: Yn cuddio

Postiogan Dai dom da » Llun 06 Rhag 2004 5:19 pm

Be ti'n feddwl di'r llun bach ciwt o dan fy enw? Albatros?


Cyw iar we ni'n meddwl wedd e. :winc:
Rhithffurf defnyddiwr
Dai dom da
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3036
Ymunwyd: Gwe 05 Maw 2004 11:21 am
Lleoliad: Blaenffos / Caerfyrddin

Postiogan Gwahanglwyf Dros Grist » Maw 23 Hyd 2007 1:06 pm

Newydd archebu gwydd deuddeg pwys (5.5 cilogram yn fras) ar gyfer y Dolig cynta' bant o gartre. Oes gan unrhyw dips ar ei goginio?
I think I'll call myself Donald Twain.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwahanglwyf Dros Grist
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 8063
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 3:30 pm
Lleoliad: Rhyw burdan di-derfyn

Postiogan sian » Maw 23 Hyd 2007 1:27 pm

Gwahanglwyf Dros Grist a ddywedodd:Newydd archebu gwydd deuddeg pwys (5.5 cilogram yn fras) ar gyfer y Dolig cynta' bant o gartre. Oes gan unrhyw dips ar ei goginio?


Cwor! Faint gostiodd honno i ti? Un ffresh?
Sai erioed wedi cael gwydd. Seimllyd medden nhw. Siwr bod angen i ti wagio'r sâm o'r tun bob hyn a hyn.
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Postiogan Hogyn o Rachub » Maw 23 Hyd 2007 2:09 pm

Wah! Oes rhaid i ni cael unrhyw gyfeiriadau at y Dolig mor fuan! Dw i newydd weld yr hysbyseb 'Dolig cynta wythnos diwethaf, dw i'm yn meddwl fedrai gowpio efo Dolig estynedig arall!
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Y Rachub Rydd Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4939
Ymunwyd: Gwe 25 Hyd 2002 7:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub

Postiogan Gwahanglwyf Dros Grist » Maw 23 Hyd 2007 2:11 pm

sian a ddywedodd:
Gwahanglwyf Dros Grist a ddywedodd:Newydd archebu gwydd deuddeg pwys (5.5 cilogram yn fras) ar gyfer y Dolig cynta' bant o gartre. Oes gan unrhyw dips ar ei goginio?


Cwor! Faint gostiodd honno i ti? Un ffresh?
Sai erioed wedi cael gwydd. Seimllyd medden nhw. Siwr bod angen i ti wagio'r sâm o'r tun bob hyn a hyn.


Dim syniad 'da fi. Wedi rhoi blaendal lawr yn y siop cigydd.

Ond o edrych ar y we, mae'n edrych fel y bydd e'n go ddrud! :ofn:
I think I'll call myself Donald Twain.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwahanglwyf Dros Grist
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 8063
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 3:30 pm
Lleoliad: Rhyw burdan di-derfyn

Postiogan osian » Maw 23 Hyd 2007 8:14 pm

sian a ddywedodd:Sai erioed wedi cael gwydd. Seimllyd medden nhw.


Ew na, gwydd yn hyfryd, o bosib fy hoff gig i, mond unwaith y flwyddyn wrth gwrs.
Rhithffurf defnyddiwr
osian
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 627
Ymunwyd: Mer 20 Meh 2007 2:40 pm
Lleoliad: o flaen sgrin

NôlNesaf

Dychwelyd i Bwyd a Diod

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 6 gwestai

cron