Newyddion arbennig o dda ddoe gan y 'law lords' ynghylch carchar Belmarsh.
Mae nhw wedi datgan ei fod yn erbyn hawliau dynol y carcharorion yno i gael eu dal yn erbyn eu ewyllys heb achos. Mae'r deddfau gwrth-deroristaidd yma wedi bod yn anghywir o'r dechrau, ac fel mae'n cael ei weithredu yn amlwg gyda Blemarsh, mae'n rhagfarnllyd, yn hiliol, ac yn anfoesol.
Roedd yr Arglwydd (sic) Hoffmann yn feirniadol iawn o'r deddfau gwrth-deroristaidd, gan ddatgan mai'r deddfau yma eu hun oedd y bygythiad mwyaf i'r wladwriaeth.
Mae sawl un wedi cael eu dal o dan y ddeddf yma bellach o does dim un wedi cael eu cyhuddo o fod yn derfysgwr, a mae pob un wedi cael eu gadael yn rhydd. Pob un wedi eu carcharu yn amhenodol, heb unrhyw gyhuddiad na tystiolaeth wedi eu gosod ger eu bron. mae 16 yn dal i gael eu carcharu, heb fod un sgrap o dystiolaeth yn cael ei ddangos i brofi euogrwydd am unrhywbeth.
Cymarodd yr Arglwydd (sic) Scott y sefyllfa gyda Ffrainc yn ystod y chwyldro, a Rwsia Stalin.
Mae'r hen drefn yn cael ei droi ar ei phen!
Mae sefydliad archaic o bobl pomp a seremoni yn sefyll lan dros y mwya anghenus tra fo llywodraeth 'asgell-chwith ryddfrydol' yn damshgil dros hawliau pawb heblaw am eu tebyg!
Beth ma'r byd yn dod i!