Hugh Orde yn cyhuddo Sinn Fein (APEL PWYSIG YNGLYN A BUSNES

Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri

Cymedrolwr: Mr Gasyth

Rheolau’r seiat
Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri, Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan GT » Sul 20 Chw 2005 11:33 pm

Mi wnaf fi gynnig ateb i ti pan ti'n tynnu dy gelwydd yn ol.

'Dwi ddim wedi dadlau o blaid trais, na SF, na Gerry Adams. Chwilia trwy fy holl gyfraniadau os wyt ti eisiau.
A great man. He could have been Pope!
Blog Menai
Gwasanaeth i'r Gymuned
Rhithffurf defnyddiwr
GT
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2774
Ymunwyd: Maw 20 Ion 2004 11:35 pm
Lleoliad: Caernarfon

Postiogan GT » Sul 20 Chw 2005 11:36 pm

Cath Ddu a ddywedodd:
GT a ddywedodd:Cadwa dy gelwydd ar gyfer dy ymgyrch yng Nghonwy.


Un esiampl os gwelwch yn dda? :?


'Does gen i'r un. 'Dwi ddim yn awgrymu dy fod wedi dweud celwydd fel rhan o dy ymgyrch etholiadol. Dweud ydw i mai arfer gwleidyddion ydi gafael mewn rhyw sylw mae un o'u gwrthwynebwyr yn ei ddweud a chymryd arnynt mai sylw arall - mwy dadleuol o lawer sydd wedi ei wneud. Byddwn yn gobeithio dy fod yn llai parod i bardduo yn y cigfyd nag wyt yma.
A great man. He could have been Pope!
Blog Menai
Gwasanaeth i'r Gymuned
Rhithffurf defnyddiwr
GT
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2774
Ymunwyd: Maw 20 Ion 2004 11:35 pm
Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Cath Ddu » Llun 21 Chw 2005 12:06 am

GT a ddywedodd:

'Dwi ddim wedi dadlau o blaid trais, na SF, na Gerry Adams. Chwilia trwy fy holl gyfraniadau os wyt ti eisiau.


Mae dy holl gyfraniadau yn amlwg yn dod o berspectif yr angen i 'ddeall' SF/IRA tra'n condemnio'r safbwynt Prydeinig/Unoliathol. 'Deall' / esgusodi?

Gyda bodolaeth yr SDLP oes angen 'deall' agweddau SF? Pam fod Cenedlaetholwyr o Gymry yn ymdrechu i ddeall SF tra'n anwybyddu'r SDLP? Dwi di gofyn hyn dro ar ol tro ond heb ateb. Serch hynny, pan ddaw'r cyfle i greu dadl gyfreithiol bron i ddangos fod Gerry ddim yn ddau wynebog ti'n llawn cyfraniadau. Pam? Onid teg yw i mi ddadansoddi dy gyfraniadau dan yr amgylchiadau fel cefnogaeth/esgusodi SF?

Serch yr uchod, oes yna unrhyw bwynt parhau i ddadlau? Wedi'r cyfan da ni ddim yn debygol o gytuno!
Cath Ddu
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1963
Ymunwyd: Iau 22 Gor 2004 2:23 pm

Postiogan GT » Llun 21 Chw 2005 12:20 am

Nid wyf yn cefnogi trais, ac mae rhai o'r sylwadau ti'n eu gwneud uchod yn awgrymu hynny, ac nid yw hynny'n deg. Ddylet ti ddim cyhuddo pobl o gefnogi trais heb dystiolaeth digonol.

'Dwi ddim chwaith yn condemnio safbwyntiau Prydeinig / Unoliaethol (er nad wyf yn cytuno efo nhw). Mae'r safbwynt Unoliaethol yn ddealladwy.

Mae gen i ofn bod rhaid deall safbwynt SF. Does yna ddim dyfodol i'r SDLP. Dyma'r unig blaid yn y Gogledd nad yw ei safbwynt yn gwneud unrhyw synnwyr bellach.

'Dwi ddim yn llawn cyfraniadau ar faterion Gwyddelig. Byddaf yn osgoi'r pwnc fel arfer. Mae gen ti, at ei gilydd, wybodaeth eithaf trylwyr am wleidyddiaeth Iwerddon ac mae dy gyfraniadau fel rheol yn gyson ac wedi eu seilio mewn ffeithiau; ond roedd y sylw a ddechreuodd y ffrae rhyngom yn simplistig. Anaml y byddi'n euog o hyn. Bum yn ddigon gwirion i roi fy mhig i mewn.

Gyda llaw, eglurais safbwynt Ian Paisley ar rhyw fater neu'i gilydd mewn edefyn arall yn ddiweddar. Wnaeth yna neb fy ngalw'n Brit.
A great man. He could have been Pope!
Blog Menai
Gwasanaeth i'r Gymuned
Rhithffurf defnyddiwr
GT
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2774
Ymunwyd: Maw 20 Ion 2004 11:35 pm
Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Cath Ddu » Llun 21 Chw 2005 11:29 pm

GT a ddywedodd:Nid wyf yn cefnogi trais,


A ddaru fi ddim dweud dy fod ti - dweud y bu i mi dy fod yn esgusodi trais

GT a ddywedodd:Mae gen i ofn bod rhaid deall safbwynt SF.


Pam? Achos fod ganddynt fyddin gudd yn bygwth trais?

GT a ddywedodd:Does yna ddim dyfodol i'r SDLP. Dyma'r unig blaid yn y Gogledd nad yw ei safbwynt yn gwneud unrhyw synnwyr bellach.


1. Pam?
2. Dim yn edrych felly heddiw

GT a ddywedodd:'Dwi ddim yn llawn cyfraniadau ar faterion Gwyddelig. Byddaf yn osgoi'r pwnc fel arfer. Mae gen ti, at ei gilydd, wybodaeth eithaf trylwyr am wleidyddiaeth Iwerddon ac mae dy gyfraniadau fel rheol yn gyson ac wedi eu seilio mewn ffeithiau; ond roedd y sylw a ddechreuodd y ffrae rhyngom yn simplistig. Anaml y byddi'n euog o hyn.


Self praise GT is no praise.

Dwi chwaith ddim yn credu fod y ddau ddyfyniad yn simplistig i neb arwahan i SF apologists
Cath Ddu
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1963
Ymunwyd: Iau 22 Gor 2004 2:23 pm

Postiogan GT » Llun 21 Chw 2005 11:58 pm

Cath Ddu a ddywedodd:A ddaru fi ddim dweud dy fod ti - dweud y bu i mi dy fod yn esgusodi trais


'Dydw i ddim.

Cath Ddu a ddywedodd:Pam? Achos fod ganddynt fyddin gudd yn bygwth trais?


Pam stwffio byddin gudd i mewn? 'Dwi'n egluro pam yn syth wedyn.

Cath Ddu a ddywedodd:1. Pam?
2. Dim yn edrych felly heddiw


Os caf amser blogiaf am y Stoops yn ystod y dyddiau nesaf ar Flog Menai. Mae pethau ychydig yn gymhleth yma ar hyn o bryd felly efallai na chaf gyfle tan yr wythnos nesaf - ond does yna ddim mwy o ddyfodol iddynt heddiw nag oedd mis yn ol.

Cath Ddu a ddywedodd:Self praise GT is no praise.


Os oeddwn i'n canmol unrhywun, ti'r oedd hwnnw. Gobeithio nad wyt yn awgrymu mai GT ydi Cath Ddu ydi Boris ydi _ _ _ :?

Cath Ddu a ddywedodd:Dwi chwaith ddim yn credu fod y ddau ddyfyniad yn simplistig i neb arwahan i SF apologists


Gallai'n hawdd fod wedi dod o'r Daily Mail. Idiotrwydd simplistig :winc:
A great man. He could have been Pope!
Blog Menai
Gwasanaeth i'r Gymuned
Rhithffurf defnyddiwr
GT
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2774
Ymunwyd: Maw 20 Ion 2004 11:35 pm
Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Cath Ddu » Maw 22 Chw 2005 12:16 am

GT a ddywedodd:'Dydw i ddim.


Wyt, mae'r ffaith nad wyt yn ymwybodol o'r peth hyd yn oed yn waeth

Cath Ddu a ddywedodd:Self praise GT is no praise.


Dwi'n credu fod hawlio nad wyt ti byth yn simplistaidd yn dangos rhyw hunan hyder eithafol

Cath Ddu a ddywedodd:Dwi chwaith ddim yn credu fod y ddau ddyfyniad yn simplistig i neb arwahan i SF apologists


Dwi'n sticio at fy nadl. Ti'n swnio fel erthygl olygyddol o'r Guardian, sydd fel y gwyddost yn cynnwys aelod o SF a chyn aelod o'r PIRA fel aelod o staff. Credaf y byddwn yn fwy cyfforddus gyda'r Daily Mail na phobl sy'n esgusodi lladd at bwrpas gwleidyddol dros achos sydd a chefnogaeth lleiafrif yn nwy ran Iwerddon.

O ran yr SDLP - dwi ddim yn cytuno. Y prif reswn dros broblemau y blaid oedd y modd y bu i'r ddwy lywodraeth roi pwyslais gormodol ar SF fel y partner allweddol - fe all hyn newid yn enwedig os bydd llywodraeth y Weriniaeth yn newid cyfeiriad.

Dim bod yn ymosodol yw fy mwriad yn yr holl gyfraniadau hyn GT, dim ond datgan fod dy safbwyntiau yn wrthun ac yn esgusodi / ymdrechu i ddeall yr hyn nad oes modd ei gyfiawnhau.

Hyd yn oed yn achos Robert McCartney all y sglyfath Gerry Adams ddim gweld ei ffordd yn glir i alw ar werinaethwyr i weithio gyda'r heddlu i ddwyn achos yn erbyn y llofruddwyr - ond i ti mae'n rhaid deall SF. Apologist yw'r disgrifiad gorau o agwedd o'r fath - dim byd personnol GT - dim ond fy marn.

Croeso i ti anwybyddu hyn oll, wedi'r cyfan ti'n anhebygol o gael dy ddylanwadu gan Dori fel fi!
Cath Ddu
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1963
Ymunwyd: Iau 22 Gor 2004 2:23 pm

Postiogan GT » Maw 22 Chw 2005 12:29 am

OK, mi wnawn ni pethau dy ffordd di. Edrychwn ar pethau trwy lygaid plentyn. 'Dwi'n apologist tros PIRA a ti yn apologist tros arteithwyr proffesiynol yn Abu Grahb. Dim byd personol, dim ond fy marn (plentynaidd) i.

Cath Ddu a ddywedodd:Dwi'n credu fod hawlio nad wyt ti byth yn simplistaidd yn dangos rhyw hunan hyder eithafol


Eh? Lle 'dwi'n dweud hynny?

'Dwi ddim am ddadlau am y gweddill. Mae unrhyw ddadl y gwnaf am gael ei hateb efo lol am apologist terfysgol - yn hytrach na dadl aeddfed.
A great man. He could have been Pope!
Blog Menai
Gwasanaeth i'r Gymuned
Rhithffurf defnyddiwr
GT
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2774
Ymunwyd: Maw 20 Ion 2004 11:35 pm
Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Realydd » Maw 22 Chw 2005 12:44 am

Rydw i'n pryderu braidd am y broses heddwch yng Ngogledd Iwerddon. Mae nhw wedi rhoi'r UUP a'r SDLP i fewn, a rwan y DUP a Sinn Fein ond does dim llawer o lwyddiant wedi bod hefo'r cyfuniadau hyn.

Gwell fod rhyw fath o broses heddwch yno yn lle gweld yr IRA yn bomio pobl ddiniwed ym Mhrydain.
Realydd
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1779
Ymunwyd: Maw 08 Meh 2004 1:20 pm

Postiogan Cath Ddu » Maw 22 Chw 2005 12:51 am

GT a ddywedodd:OK, mi wnawn ni pethau dy ffordd di. Edrychwn ar pethau trwy lygaid plentyn. 'Dwi'n apologist tros PIRA a ti yn apologist tros arteithwyr proffesiynol yn Abu Grahb. Dim byd personol, dim ond fy marn (plentynaidd) i.


Y broblem efo dy ddadl yw nad wyf erioed wedi datgan unrhyw farn ar y mater yn Abu grahb. Ti ar y llaw arall yn neidio ar bob cyfle i esgusodi ac egluro safbwynt SF. Mae'r ddadl uchod yn dangos pa mor analluog wyt ti i ddadlau dy achos ar y pwynt hwn - tybd pam?

GT a ddywedodd:Mae unrhyw ddadl y gwnaf am gael ei hateb efo lol am apologist terfysgol - yn hytrach na dadl aeddfed.


Dim problem, ond aeddfed neu ddim credaf fod yr edefyn hwn yn dangos elfen hynod amddiffynnol ar dy ran - a da o beth hynny.

Dwi yn bersonnol wedi cael llond bol o ddadleuon ffug ddeallusol gan ti a dy debyg yn amddiffyn gweithredoedd ac ymddygiad y byddai'n cael ei gondemnio'n llwyr gennyt yng Nghymru fach. Pam y 'double standards'?

Dwi nol i'r cwestiwn ti'n gwrthod ei ateb - pam fod cenedlaetholwyr o Gymru bob amser yn fodlon amddiffyn / deall / esgusodi SF?
Cath Ddu
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1963
Ymunwyd: Iau 22 Gor 2004 2:23 pm

NôlNesaf

Dychwelyd i Materion Prydain

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 19 gwestai

cron