gan nicdafis » Sul 16 Ion 2005 3:45 pm
Mae rhaid i rai ohonon ni weithio am ein bywoliaeth.
Ti'n iawn, does dim gwahaniaeth rhwng Harry ac unrhyw dyn ifanc di-addysg arall sy'n meddwl bod gwisgo fel Nazi yn dipyn o hwyl a dim byd arall. Nid y ffaith ei fod e'n dwp sy'n fy moddran i, ond y ffaith ein bod ni i gyd i fod i edrych i fyny i'r fath dwpsin, bod ein cynrychiolwyr yn y Bae mor barod i sugno Pidyn Brenhinol yn ein henw ni, a bod yr holl aflendid erchyll yn cael eu cyllido mas o'n trethi ni.