Llongyfarchiadau i fudiadau gwrth natsiaidd Iwerddon

Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri

Cymedrolwr: Mr Gasyth

Rheolau’r seiat
Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri, Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Llongyfarchiadau i fudiadau gwrth natsiaidd Iwerddon

Postiogan Cath Ddu » Gwe 14 Ion 2005 1:21 am

Ymddengys fod cerflun o Sean Russell, aelod o'r IRA gyfarfu gyda'r Natsiaid er mwyn trefnu ymgyrch yr IRA yn Iwerddon yn ystod rhyfel 1939 - 45 wedi cael ei falu gan ymgyrchwyr gwrth hiliaeth Gwyddelig. Yn benodol fe dorrwyd pen y cerflun oedd mewn parc yn Nulyn.

Yn ol canolfan Simon Wisenthal fe ddylid cadw y cerflun maluriedig fel arwydd o gydnabyddiaeth Cenedlaetholdeb Gwyddelig o'r cysylltiadau wnaethpwyd rhwng yr IRA a llywodraeth Hitler. Fel y dywedodd un o staff y ganolfan, Shimon Samuels;

"It's a blot on the history of Irleand, but blots have to see the public light. [This action] is an opportunity for Ireland to confront it's past. We are not iconclasts but I think the destruction of something like this has a meaning and we would ask for it [the statue] to be left there as a lesson of what Irish neutrality was all about"

Yn ol y mudiad gwrth natsiaidd sy'n hawlio cyfrifoldeb am y weithred;

"We could no longer tolerate the shameful presence of a memorial to the Nazi collaborator...Russell sought to overthrow the Goverment of the Free State whilst aiming to ferment terror and sabotage in the North of Ireland. In Belfast IRA volunterers were ordered to help the Luftwaffe to bomb their own city at a cost of 2,000 dead and thousand made homeless"

Gwych yw gweld y Gwyddelod yn cydnabod fod ganddynt hanes yn hytrach na'r myth o ormes parhaol Prydeinig sy'n amlwg wedi ei lyncu 110% gan gyfranwyr cenedlaetholgar (a di-drais debyg) o fewn Maes e.
Cath Ddu
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1963
Ymunwyd: Iau 22 Gor 2004 2:23 pm

Re: Llongyfarchiadau i fudiadau gwrth natsiaidd Iwerddon

Postiogan S.W. » Gwe 14 Ion 2005 9:22 am

Cathddu, roeddwn yn dueddol o gytuno a dechrau dy neges di ynglyn a Sean Russell. Nid wyf yn ymwybodol iawn o hanes Sean Russell ond yn sicr o hynny rwyf wedi ei glywed a'r hyn yr wyt wedi ei ddweud amdano mae'n ffigwr anffodus dros ben yn hanes Cenedlaetholdeb a'r mudiad Gweriniaethol yn Iwerddon.

Ond wedyn ti'n mynd ati mewn modd Pogonaidd i droi hynny mewn rhyw modd 'tenious' dros ben i ymosod ar y syniad o Genedlaetholdeb yn gyffredinol yn Iwerddon ac i geisio manipiwleiddio yr hyn sydd yn ran o hanes trist Iwerddon ac yn ddiweddarach Gogledd Iwerddon.

Cath Ddu a ddywedodd:
Gwych yw gweld y Gwyddelod yn cydnabod fod ganddynt hanes yn hytrach na'r myth o ormes parhaol Prydeinig sy'n amlwg wedi ei lyncu 110% gan gyfranwyr cenedlaetholgar (a di-drais debyg) o fewn Maes e.

Mae digwyddiadau fel ymosodiadau (gan y ddwy ochr i'r ddadl rhaid nodi) yn hanes, mae manipiwlediddio ffiniau etholiaethol Gogledd Iwerddon gan yr Unoliaethwyr gyda cefnogaeth llywodraeth Prydain yn hanes, mae ymgyrchoedd hawliau sifil (oedd yn cynnwys pobl Catholig a Protestanaidd) yn erbyn gormes Prydain a'u cynghreiriaid yng Ngogledd Iwerddon yn rhan o hanes y wlad a'r dalaith.

Neu wyt ti yn credu mae myth oedd y rhain i gyd?

A mae Sean Russell yn rhan o hanes y wlad hefyd. Nid oedd yn symbolaidd o'r mudiad gweriniaethol yn Iwerddon (nid yw hynny'n cynnwys yr elfen derfysgol yn unig rhaid nodi), mae hynny fel nodi bod Osama Bin Laden yn 'typical muslim', Hitler yn 'typical o Almaenwyr', a Ennoc Powell yn 'typical Tory' (ti fydde'n gwybod os yw'r olaf yn gywir!)
Rhithffurf defnyddiwr
S.W.
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3262
Ymunwyd: Sad 15 Tach 2003 11:02 am

Re: Llongyfarchiadau i fudiadau gwrth natsiaidd Iwerddon

Postiogan Garnet Bowen » Gwe 14 Ion 2005 9:25 am

Cath Ddu a ddywedodd:Gwych yw gweld y Gwyddelod yn cydnabod fod ganddynt hanes yn hytrach na'r myth o ormes parhaol Prydeinig sy'n amlwg wedi ei lyncu 110% gan gyfranwyr cenedlaetholgar (a di-drais debyg) o fewn Maes e.

Cytuno'n llwyr. Mi fysa 'na rai yn dadlau mai peth eithaf diniwed ydi mytholeg cenedlaethol, rhywbeth sy'n bodoli ym mhob gwlad, a sy'n helpu i lunio hunaniaeth y bobl. Ond mae'r ffaith fod Iwerddon wedi methu a mynd i'r afael a hiliaeth ei gorffenol yn achosi problemau cymdeithasol difrifol heddiw. Fel y dywed cymeriad Forrest Whittacker yn 'The Crying Game' - "Dublin, the only city in Europe where they openly call you nigger."
Rhithffurf defnyddiwr
Garnet Bowen
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2085
Ymunwyd: Mer 29 Hyd 2003 11:45 am
Lleoliad: Y Fro Gymraeg

Re: Llongyfarchiadau i fudiadau gwrth natsiaidd Iwerddon

Postiogan S.W. » Gwe 14 Ion 2005 9:47 am

Garnet Bowen a ddywedodd:

Sylwer hefyd bod y mudiad 'Unite against Facism' yn Iwerddon amryw o aeldau Sinn Fein yn eu plith! Ac yn bersonol dwin llongyfarch Unite Against Facism a Sinn Fein yn hyn o beth!
Rhithffurf defnyddiwr
S.W.
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3262
Ymunwyd: Sad 15 Tach 2003 11:02 am

Re: Llongyfarchiadau i fudiadau gwrth natsiaidd Iwerddon

Postiogan Garnet Bowen » Gwe 14 Ion 2005 12:29 pm

S.W. a ddywedodd:Mae digwyddiadau fel ymosodiadau (gan y ddwy ochr i'r ddadl rhaid nodi) yn hanes, mae manipiwlediddio ffiniau etholiaethol Gogledd Iwerddon gan yr Unoliaethwyr gyda cefnogaeth llywodraeth Prydain yn hanes, mae ymgyrchoedd hawliau sifil (oedd yn cynnwys pobl Catholig a Protestanaidd) yn erbyn gormes Prydain a'u cynghreiriaid yng Ngogledd Iwerddon yn rhan o hanes y wlad a'r dalaith.

Neu wyt ti yn credu mae myth oedd y rhain i gyd?

Dwi ddim yn meddwl fod Cath Ddu yn awgrymu nad ydi'r pethau yma wedi digwydd. Nid defnyddio'r gaith "myth" i ddisgrifio rhywbeth chwedlonol, na ddigwyddodd, mae'r Gath, ond ei ddefnyddio i ddisgrifio y camargraff hanesyddol sy'n ffurfio rhan o hunaniaeth pob gwlad. Pwynt y gath ydi fod y sefydliad Gwyddelig yn dethol a dewis y rhannau hynny o'i hanes sydd yn adlewyrchiad da ohonyn nhw. Mae nhw'n dewis disgrifio eu hunain fel gwlad o dan ormes. Ond y gwir ydi fod y Gwyddelod wedi cynorthwyo nifer o wladwriaethau mwyaf gormesol y G20, gan gynnwys Sbaen Franco, ac Almaen Hitler, ac fod hyn wedi arwain at gymdeithas sydd - erbyn heddiw - yn caniatau i grwpiau lleiafrifol gael eu gormesu yn Iwerddon.
Rhithffurf defnyddiwr
Garnet Bowen
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2085
Ymunwyd: Mer 29 Hyd 2003 11:45 am
Lleoliad: Y Fro Gymraeg

Postiogan S.W. » Gwe 14 Ion 2005 2:25 pm

Dwin deallt be ti'n ddweud Garnet ond mae Cath Ddu trwy awgrymu bod Sean Russell trwy gydweithio i rhyw lefel a'r Blaid Natsiaidd yn ystod yr Ail Ryfel Byd yn golygu bod y 'Wladwriaeth Wyddeig Rydd' yn creu darlun fflas ohoni ei hun yn ystos yr un cyfnod.

Ond, 1 swyddog yn yr IRA oedd y gwr yma, cofia bod yr IRA yn y 1930au yn fudiad anghyfreithlon hyd yn oed yn y wlad honno felly roedd hyd yn oed y Gwyddelod wedi nodi mae terfysgwr oedd Sean Russell. Roedd y wlad newydd fod mewn Rhyfel Cartref - y llywdoraeth yn erbyn y rhai welodd cadw'r Gogledd allan fel brad. A ymladd dros y gwrthwynebwyr oedd Russell.

Does gen i ddim problem gyda'r ffaith bod pobl wedi mynd ati i ddinistrio ei gerflyn os oedd yn euog am yr hyn a nodir (dydw i heb astudio Russell o gwbl felly dwim yn gwbod amdano) chwarae teg iddynt ond mae nodi bod ei weithgaredd o yn golygu bod y llywodraeth ar y pryd yn euog yn anghywir - rhywbeth dwin synnu bod y gath wedi ei wneud!

Roedd gan Prydain cydweithwyr Natsiaidd yn eu plith - nid yw hynny'n golygu bod y llywdraeth honno wedi ymladd o blaid Natsiaeth nag ydy!
Rhithffurf defnyddiwr
S.W.
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3262
Ymunwyd: Sad 15 Tach 2003 11:02 am

Postiogan Garnet Bowen » Gwe 14 Ion 2005 4:02 pm

S.W. a ddywedodd:
Roedd gan Prydain cydweithwyr Natsiaidd yn eu plith - nid yw hynny'n golygu bod y llywdraeth honno wedi ymladd o blaid Natsiaeth nag ydy!

Wrth gwrs, mae gan Prydain/Lloegr ei mytholeg ei hun, ac mae hwnw yn troi o gwmpas ein buddugoliaeth ni yn yr Ail Ryfel Byd - plucky underdog, spirit of the blitz, blood sweat and tears ayyb. Ond mae rhai o elfennau cywilyddus yr hanes hwnw - sef ymateb y sefydliad Saesnig i dwf Hitleriaieth - yn rhan anatod o'r myth. Problem y Gwyddelod ydi eu bod nhw wedi rhoi cymaint o bwyslais ar un elfen o'r myth cenedlaethol, sef y hyn a fu'n rhaid iddyn nhw ei ddioddef, fel eu bod nhw'n anwybyddu'r boen y mae eraill wedi, ac yn, ei ddioddef, chyfraniad rhai Gwyddelod at y dioddefaint yma. Nid ffigwr unigryw mo Russell.
Rhithffurf defnyddiwr
Garnet Bowen
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2085
Ymunwyd: Mer 29 Hyd 2003 11:45 am
Lleoliad: Y Fro Gymraeg

Postiogan Cath Ddu » Gwe 14 Ion 2005 9:46 pm

S.W. a ddywedodd:Dwin deallt be ti'n ddweud Garnet ond mae Cath Ddu trwy awgrymu bod Sean Russell trwy gydweithio i rhyw lefel a'r Blaid Natsiaidd yn ystod yr Ail Ryfel Byd yn golygu bod y 'Wladwriaeth Wyddeig Rydd' yn creu darlun fflas ohoni ei hun yn ystos yr un cyfnod.

Dwi'n credu fod Garnet wedi cyfleu yr hyn oeddwn yn feddwl trwy ddefnyddio'r gair 'myth' ac dwi'n derbyn dy gerydd (2r?). Serch hynny, nid yw'r uchod yn wir gan i mi ddyfynu y Mudiad Gwrth Natsiaidd yn datgan fod Russel am chwalu llywodraeth y Weriniaeth yn 1940 - nid jyst gogledd Iwerddon. Darllena fy nghyfraniad unwaith eto ac dwi'n amheus pe byddet yn gweld sylw negyddol gennyf am y Weriniaeth.
Cath Ddu
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1963
Ymunwyd: Iau 22 Gor 2004 2:23 pm

Postiogan S.W. » Sad 15 Ion 2005 11:24 am

Dwin meddwl Cath Ddu mae ti sydd wedi fy ngam ddeallt i, dwin deallt bod Russell am chwalu y Wladwriaeth Wyddelig Rydd (nid oedd yn Weriniaeth tan ar ol i'r Ail Ryfel Byd ddod i ben), felly dyna dwi'n ei feddwl trwy ddweud nad yw hi'n deg i gyhuddo'r Weriniaeth o greu'r myth am eu gweitgareddau. Maen bosib dadlau efallai (a dwin cymryd mae dyma ti'n feddwl) bod pobl yn dewis anwybyddu pobl fel hwn gan edrych ar yr IRA a mudiadau eraill tebyg ond mae hynny'n anochel mewn unrhyw hanes.

Chwarae teg i'r Mudiad Gwrth Natsiaeth yn yr Iwerddon am ymateb i hyn, ond gobeithio na chaiff ei gam ddefnyddio i ymosod ar Weriniaethwyr oherwydd fel nodais i mae'r mudiad hwn yn denu cefnogwyr o'r ochr Weriniaethol ac Unoliaethol ymysg pobl y Gogledd.
Rhithffurf defnyddiwr
S.W.
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3262
Ymunwyd: Sad 15 Tach 2003 11:02 am

Postiogan Cath Ddu » Sad 15 Ion 2005 9:59 pm

S.W. a ddywedodd:
Dwin meddwl Cath Ddu mae ti sydd wedi fy ngam ddeallt i, dwin deallt bod Russell am chwalu y Wladwriaeth Wyddelig Rydd (nid oedd yn Weriniaeth tan ar ol i'r Ail Ryfel Byd ddod i ben), felly dyna dwi'n ei feddwl trwy ddweud nad yw hi'n deg i gyhuddo'r Weriniaeth o greu'r myth am eu gweitgareddau. Maen bosib dadlau efallai (a dwin cymryd mae dyma ti'n feddwl) bod pobl yn dewis anwybyddu pobl fel hwn gan edrych ar yr IRA a mudiadau eraill tebyg ond mae hynny'n anochel mewn unrhyw hanes.

Dwi'n cytuno gyda'r neges uchod o ran ei bwriad. Serch hynny mae'n rhaid i mi ofyn eto SW, lle yn union dwi'n cyhuddo'r Weriniaeth?

Ti'n llygaid dy le fod pobl yn anwybyddu pobl megis Russell (a rhai llawer gwaeth) wrth drafod y mudiad Gwerinaethol yn Iwerddon yn ystod yr ugeinfed ganrif.
Cath Ddu
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1963
Ymunwyd: Iau 22 Gor 2004 2:23 pm

Nesaf

Dychwelyd i Materion Prydain

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 19 gwestai