Llongyfarchiadau i fudiadau gwrth natsiaidd Iwerddon

Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri

Cymedrolwr: Mr Gasyth

Rheolau’r seiat
Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri, Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Cath Ddu » Llun 17 Ion 2005 10:48 pm

GT a ddywedodd:A bod yn deg, nid wyf yn meddwl bod cefnogwyr yr un o bleidiau 'traddodiadol' Iwerddon yn ystyried SR nag IRA'r 40au yn arwyr. 'Roedd y llwybrau wedi hen rannu erbyn hynny.

Cytuno'n llwyr - dyna fy mhwynt. Afiechyd aelodau Sinn Fein yw parhau i fawrygu dynion fel Russell.

GT a ddywedodd:
Tybed, o ddifri, pam mor addas oedd hi i Siarl fynychu'r digwyddiad hwn?

Addas iawn. Coffau dynion Bomber Command oedd y digwyddiad hwn, ac fel y gwyddost (ti'n darllen digon fe dybiaf) roedd 'casualty rates' Bomber Command yn erchyll. Credaf mai dim ond y dynion hynny oedd yn U-Boats yr Almaen ddioddefodd 'casualty rate' uwch.

Credaf mai bwriad y digwyddiad oedd coffau aberth y dynion hyn yn ystod WWII. Fel ti'n dweud, gyda amser fe ddaeth yn weddol amlwg fod ymgyrchoedd Bomber Command wedi bod yn aneffiethiol o ran chwalu diwydiant yr Almane ac digaloni y boblogaeth OND yn 1940-44 dwi'n credu y byddai dadl o'r fath wedi bod yn anodd iawn i'w chyflwyno.

Bwriad Siarl oedd talu teyrnged i aelodau o luoedd arfog Prydain oedd yn ymladd yn erbyn gwladwriaeth Hitler. Yn achos Sean Russell clodforio dyn fu'n cyd-weithio gyda Almaen y Natsiaid oedd Mary Lou a Sinn Fein.

Does dim cymhariaeth.
Cath Ddu
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1963
Ymunwyd: Iau 22 Gor 2004 2:23 pm

Postiogan GT » Llun 17 Ion 2005 10:59 pm

The commemoration coincided with the 60th Anniversary year of the appointment of Sir Arthur T (Bomber) Harris as C in C of Bomber Command,

Meddwl am y rhan yma oeddwn i fwy na dim arall. 'Roedd y dyn yn gyfrifol am ladd 600,000 o bobl di niwed. A lwyddodd Sean Russell i ladd unrhyw un?
A great man. He could have been Pope!
Blog Menai
Gwasanaeth i'r Gymuned
Rhithffurf defnyddiwr
GT
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2774
Ymunwyd: Maw 20 Ion 2004 11:35 pm
Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Cath Ddu » Llun 17 Ion 2005 11:05 pm

GT a ddywedodd:
The commemoration coincided with the 60th Anniversary year of the appointment of Sir Arthur T (Bomber) Harris as C in C of Bomber Command,

Meddwl am y rhan yma oeddwn i fwy na dim arall. 'Roedd y dyn yn gyfrifol am ladd 600,000 o bobl di niwed. A lwyddodd Sean Russell i ladd unrhyw un?

Dwi'n ymwybodol o hyn ac wedi cydnabod yn fy neges flaenorol fod gweithredoedd Bomber Command yn ymddangos yn gangymeriad anferth o ystyried yr hyn da ni'n ymwybodol ohono heddiw. Serch hynny, er fod y dyddiad yn anffodus nodaf eto mae y bwriad oedd coffau aberth y dynion hynny fu'n gwasanaethu yn Bomber Command. Yn hyn o beth credaf fod presenoldeb Siarl yn fwy na rhesymol.

O ran Russell - do, fe fu'n gyfrifol am ladd a gorchymyn lladd. Yn foesol wrth gwrs does dim gahaniaeth rhwng 1 neu 600,000. Siawns fod hynny'n amlwg? Wedi'r cyfan tydi Duw ddim yn cadw sgor.
Cath Ddu
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1963
Ymunwyd: Iau 22 Gor 2004 2:23 pm

Postiogan GT » Llun 17 Ion 2005 11:21 pm

Mae un cyfle mewn 365 mai anffodus oedd yr amseriad. Mae yna 364 cyfle mewn 365 ei fod yn fwriadol.

'Dwi'n gofyn y cwestiwn Sean Russell o ddifri (a 'dwi ddim yn gwybod yr ateb). A laddwyd unrhywun pan roedd yn arwain yr IRA? Yn sicr, doedd o ddim yn gyfnod llewyrchus iddynt.

Cath Ddu a ddywedodd:Yn foesol wrth gwrs does dim gahaniaeth rhwng 1 neu 600,000. Siawns fod hynny'n amlwg? Wedi'r cyfan tydi Duw ddim yn cadw sgor.

Os felly pam gwneud Natsiaeth yn gold standard drygioni?

Might as well be hung for a sheep as a lamb.

Pe bai SR wedi lladd heddwas fyddai hynny'r un peth a lladd 600,000 o bobl di niwed? Pwy a wyr? Mae diwynyddiaeth yn faes cymhleth. Jest y peth i Garnet. :winc:
A great man. He could have been Pope!
Blog Menai
Gwasanaeth i'r Gymuned
Rhithffurf defnyddiwr
GT
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2774
Ymunwyd: Maw 20 Ion 2004 11:35 pm
Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Cath Ddu » Maw 18 Ion 2005 12:18 am

GT a ddywedodd:'Dwi'n gofyn y cwestiwn Sean Russell o ddifri (a 'dwi ddim yn gwybod yr ateb). A laddwyd unrhywun pan roedd yn arwain yr IRA? Yn sicr, doedd o ddim yn gyfnod llewyrchus iddynt.

Dwi'n gwld dy ddefnydd o'r gair llewyrchus yn oeraidd braidd. Ai dweud wyt ti fod y chwedegau hyd y nawdegau yn gyfnod llewyrchus?

Do fe laddodd Sean Russell. Yr oedd yn aelod o GHQ yr IRA cyn ac yn ystod y Rhyfel Cartref a bu iddo ladd a gorchymyn lladd. Yn ei gyfnod fel arweinydd yr IRA fe fu i'r mudiad ddechrau ymgyrch yn Lloegr. Yn ystod yr ymgyrch hon, a awdurdodwyd ganddo, yn 1939 fe gafwyd digwyddiadau megis bomb yn Coventry a laddodd bump.

O ran y ddadl ddiwinyddol - onid na ladd yw'r gorchymyn? Dwi ddim yn credu mai llada blismon ac fe fyddi'n OK ond lladda 600,000 a duw a dy helpo!

Pam fod y Natsiaid yn gold standard? Y rhesymeg tu ol i'r lladd dwi'n credu, yr hiliaeth, y creulondeb a'r diffyg hunaniaeth. Braidd yn amlwg fe fentraf.

Postiogan GT » Maw 18 Ion 2005 8:44 am

Cath Ddu a ddywedodd:Dwi'n gwld dy ddefnydd o'r gair llewyrchus yn oeraidd braidd. Ai dweud wyt ti fod y chwedegau hyd y nawdegau yn gyfnod llewyrchus?

Llewyrch = ffyniant :?:

Cath Ddu a ddywedodd:Do fe laddodd Sean Russell. Yr oedd yn aelod o GHQ yr IRA cyn ac yn ystod y Rhyfel Cartref a bu iddo ladd a gorchymyn lladd. Yn ei gyfnod fel arweinydd yr IRA fe fu i'r mudiad ddechrau ymgyrch yn Lloegr. Yn ystod yr ymgyrch hon, a awdurdodwyd ganddo, yn 1939 fe gafwyd digwyddiadau megis bomb yn Coventry a laddodd bump.

Diolch. Dyna hynny wedi ei sefydlu. 'Dwi'n gwybod nemor ddim o hanes y dyn.

Cath Ddu a ddywedodd:O ran y ddadl ddiwinyddol - onid na ladd yw'r gorchymyn? Dwi ddim yn credu mai llada blismon ac fe fyddi'n OK ond lladda 600,000 a duw a dy helpo!

Wel, fel hyn mae rhai yn edrych ar bethau, ond nid yw'n ddehongliad cyffredin iawn. Rhesymeg y ddadl yma ydi bod bachgen dwy ar bymtheg oed sydd wedi ei gonscriptio i fyddin Prydain, neu sy'n ymladd efo partisans Tito yr un mor euog na Hitler os yw'n digwydd lladd rhywun. Rhesymeg y Peace Pledge ydi hyn mae gen i ofn. Galli (gyda chyfiawnhad) ddadlau ei fod yn ddiwynyddol gywir - ond ychydig o enwadau crefyddol sy'n mynd mor bell.

Cath Ddu a ddywedodd:Pam fod y Natsiaid yn gold standard? Y rhesymeg tu ol i'r lladd dwi'n credu, yr hiliaeth, y creulondeb a'r diffyg hunaniaeth. Braidd yn amlwg fe fentraf.

Eto, 'dwi'n cael problemau yma.

'Dydi ystyr hunaniaeth yn y cyd destun yma ddim yn gwbl glir i mi. Yn ddi amau roedd y Natsiaid yn hynod greulon, ond oedden nhw fwy felly na neb arall erioed? Mae cystadleuaeth eithaf chwyrn yma mae gen i ofn. Sy'n dod a ni at hiliaeth. Roedd y Natsiaid yn hiliol dim cwestiwn. Ond mae hiliaeth yn broblem sy'n ymestyn ymhell, bell y tu hwnt i'r blaid a'r cyfnod dan sylw. Fedri di ddim gwneud rhywun yn 'gold standard' drygioni am ei fod yn hiliol - neu Bernad Manning fyddai ymgorfforiad drygioi heddiw :winc: .

Byddwn yn awgrymu bodgraddfa ac amrediad eu gweithredoedd yn rhywbeth i wneud efo eu statws - a'r ffaith iddynt golli wrth gwrs.
A great man. He could have been Pope!
Blog Menai
Gwasanaeth i'r Gymuned
Rhithffurf defnyddiwr
GT
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2774
Ymunwyd: Maw 20 Ion 2004 11:35 pm
Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Garnet Bowen » Maw 18 Ion 2005 9:31 am

GT,
Tydw i ddim yn credu ei bod hi'n ddoeth cymharu Sean Russell a Bomber Harris yn yr achos yma. Nid condemnio Sinn Fein am fawrygu llofrudd ydw i. Gweithred ddi-bwrpas fyddai dewis condemnio un o'u harwyr am fod yn lofrudd, tra bo llofruddion yn aelodau blaenllaw o'r blaid erbyn hyn, a wedi bod trwy gydol ei hanes.

Condemnio Sinn Fein am gefnogi natsi ydw i. Yr hiliaeth sy'n fy mhoeni i. Mae 'na rai Gwyddelod gweriniaethol sydd wedi meddwi ar y syniad o fod yn ddioddefwyr. Mae hyn yn ei dallu nhw i'r hiliaieth sydd wedi bodoli drwy gydol eu hanes, a sy'n dal i fod yn broblem yn yr "Iwerddon Newydd". Drwy feddwl am eu hunain fel yr unig dioddefwyr - naratif sy'n ymestyn o'r newyn mawr, i'r rhyfel cartref, a'r frwydr dros y gogledd - mae nhw'n gwadu dioddefaint pobloedd eraill. Mae'r ffaith fod Russell wedi cyngrheirio gyda un o'r llywodraethau mwyaf atgas yn holl hanes dynoliaeth yn medru cael ei anwybyddu, am ei fod o wedi ymladd dros "yr achos". Mae dioddefaint y Gwyddelod yn cael blaenoriaeth dros ddioddefaint yr Iddewon, fel dros ddioddefaint pawb arall.

(Troednodyn bach difyr ynglyn a cerfluniau. Mae cerflun Russell wedi sefyll yn Nulyn ers y 1950au, sy'n golygu ei bod hi wedi cymeryd dros hanner canrif i'r fandaliaid benderfynnu gweithredu. 24 awr wedi i gerflun Bomber Harris gael ei ddadorchuddio, roedd wedi cael ei baentio gan brotestwyr. A fel mae hi'n digwydd, mae 'na gerflun i Chamberlain yn Epping.)
Rhithffurf defnyddiwr
Garnet Bowen
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2085
Ymunwyd: Mer 29 Hyd 2003 11:45 am
Lleoliad: Y Fro Gymraeg

Postiogan Cwlcymro » Maw 18 Ion 2005 1:25 pm

Cath Ddu a ddywedodd:Yn foesol wrth gwrs does dim gahaniaeth rhwng 1 neu 600,000. Siawns fod hynny'n amlwg? Wedi'r cyfan tydi Duw ddim yn cadw sgor.

Wrth gwrs fod ladd 600,000 yn llawer gwaeth na lladd un. Mi wti wedi diffodd bywyd 599,999 yn fwy o bobl, wedi dinistrio bywyd 599,999 yn fwy o deuleuoedd, wedi amddifadu 599,999 yn fwy o blant. Ella nad ydi Duw yn cyfri, ond ma pobl yn.
Wales? Whales? Do you mean 'da fish, or them singing bastards?
Cwlcymro
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2874
Ymunwyd: Sul 15 Meh 2003 1:12 pm
Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Sioni Size » Maw 18 Ion 2005 2:35 pm

Oes gen ti unryw brwaf fod Sean Russell yn natsi?
Roedd am ddefnyddio'r almaenwyr i ddymchwel gafael Lloegr ar Iwerddon. Dydi hyn ddim yn ei wneud yn natsi.
A oedd Sean Russell yn ymwybodol o wir erchylltra'r hyn oedd yn digwydd o dan Hitler? Yr un mor ymwybodol ac ydym ni rwan? Profwch hyn a mi fedrem oll gondemnio Sean Russell am feddwl mwy am Wyddelod na gweddill dynol ryw. Yn hytrach na ni Brydeinwyr sydd wedi byhafio mor altruistaidd at bobl y byd ar hyd ein hanes.
Rhithffurf defnyddiwr
Sioni Size
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2302
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 11:43 pm
Lleoliad: Pen Llyn

NôlNesaf

Dychwelyd i Materion Prydain

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 10 gwestai