Toriaid, heddiw

Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri

Cymedrolwr: Mr Gasyth

Rheolau’r seiat
Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri, Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Toriaid, heddiw

Postiogan Realydd » Llun 17 Ion 2005 10:49 pm

£4bn o tax cuts.
Realydd
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1779
Ymunwyd: Maw 08 Meh 2004 1:20 pm

Postiogan Dyn Gwyn Gwirion » Llun 17 Ion 2005 10:57 pm

Ia, biti dydy nhw ddim mewn pwer... :rolio:
Le pain de la mer dans le nuit,
The sweet, sweet sea bread of the sea,
Le grands garcons est dans la boucherie,
The big boys are in the butchers. - R & M
Rhithffurf defnyddiwr
Dyn Gwyn Gwirion
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 739
Ymunwyd: Maw 22 Ebr 2003 8:19 pm
Lleoliad: Bangor / Caerdydd

Postiogan Realydd » Llun 17 Ion 2005 11:02 pm

Os wneith y toriaid ddim gwella llawer ar eu pleidlais y tro dwytha, yna pa ddyfodol sydd yna i ymgyrchu dros leihau trethi? Yw pobl Prydain yn ddigon hapus i dalu mwy o drethi neu ydy nhw heb gael eu pinsio ddigon gan Brown eto?

Dipyn o hit or a miss yw'r polisi yma dwi'n meddwl. Hoffwn i weld trethi'n lleihau wrth gwrs...
Realydd
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1779
Ymunwyd: Maw 08 Meh 2004 1:20 pm

Postiogan bartiddu » Llun 17 Ion 2005 11:41 pm

Os enillith y Toriaid yr etholiad dwi'n gweld bod nhw am gynnig referendwm i pobol Cymru os ydynt am gadw'r cynulliad, bydd yr Albanwyr yn cael yr un fath referendwm?
Rhithffurf defnyddiwr
bartiddu
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2285
Ymunwyd: Sad 21 Chw 2004 12:22 am
Lleoliad: Pentrwyn Cynwyl

Postiogan GT » Llun 17 Ion 2005 11:51 pm

bartiddu a ddywedodd:Os enillith y Toriaid yr etholiad dwi'n gweld bod nhw am gynnig referendwm i pobol Cymru os ydynt am gadw'r cynulliad, bydd yr Albanwyr yn cael yr un fath referendwm?


Na.
A great man. He could have been Pope!
Blog Menai
Gwasanaeth i'r Gymuned
Rhithffurf defnyddiwr
GT
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2774
Ymunwyd: Maw 20 Ion 2004 11:35 pm
Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Realydd » Maw 18 Ion 2005 12:05 am

yw'r cyfansoddiad yn bwysicach i chi na phopeth arall?
Realydd
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1779
Ymunwyd: Maw 08 Meh 2004 1:20 pm

Postiogan Cwlcymro » Maw 18 Ion 2005 1:30 pm

4ydd o Dachwedd a ddywedodd:Mr Letwin said it had been suggested that it would be courageous to promise to cut taxes by "so much on such and such a day".

But he said: "It wouldn't be courageous at all. It would be very easy. I would say it, you would cheer, and no one out there would believe us at all. There have been too many broken promises on tax from too many politicians.
.


Ddoe a ddywedodd:Conservative leader Michael Howard has promised £4bn in tax cuts


Desbryt?
Wales? Whales? Do you mean 'da fish, or them singing bastards?
Cwlcymro
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2874
Ymunwyd: Sul 15 Meh 2003 1:12 pm
Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Macsen » Maw 18 Ion 2005 2:50 pm

Realydd a ddywedodd:Os wneith y toriaid ddim gwella llawer ar eu pleidlais y tro dwytha, yna pa ddyfodol sydd yna i ymgyrchu dros leihau trethi? Yw pobl Prydain yn ddigon hapus i dalu mwy o drethi


Ydi, mae nhw'n ddigon hapus i dalu mwy o drethi. Mae nhw wedi sylwi bod trethi uchel yn gwella yr wlad mae nhw'n byw ynddo'n gyffredinol.

Mae'r Toriaid heddiw mewn stad ofnadwy, a tydi o'm yn mynd i wella wrth i'r blynyddoedd fynd yn ei blaen a'i holl aelodau farw. Mi gafon nhw ei cyfle, a mi oedden nhw'n gachu. Mae Llafur yn gwneud yn lot gwell hyd yma. Y Lib Dems bydd y gwrthblaid go iawn cyn hir, os nad ydyn nhw'n barod.
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan Mr Gasyth » Maw 18 Ion 2005 3:57 pm

Realydd a ddywedodd:Os wneith y toriaid ddim gwella llawer ar eu pleidlais y tro dwytha, yna pa ddyfodol sydd yna i ymgyrchu dros leihau trethi? Yw pobl Prydain yn ddigon hapus i dalu mwy o drethi neu ydy nhw heb gael eu pinsio ddigon gan Brown eto?

Dipyn o hit or a miss yw'r polisi yma dwi'n meddwl. Hoffwn i weld trethi'n lleihau wrth gwrs...


O'i cymharu a llawer o wledydd Ewrop mae pobl Prydain yn talu cyfran eithaf bach o'u cyflog mewn treth, efallai mai dyma pam mae llawer o'n gwasanaethau cyhoeddus yn gymharol wael hefyd. Tydw i ddim yn meddwl fod llawer o bobl ym Mhrydain yn teimlo eu bod nhw'n cael eu gor-drethu, ac yn sicir byddai'n well gan y rhan fwya weld ysgolion, ysbytai a thrafnidiaeth gyhoedus well cyn torri trethu.

Despyretion ydi mynd am addewid o dorri trethi, ac arwydd o ddiffyg polisiau call ac adeiladol. Ma'r Toriaid wedi gorffen am byth dwi'n meddwl - Blair wdi dwyn eu dillad. dim ond o'r chwith mae posib ymosod ar Lafur bellach hef fynd i'r dde eithafol anetholadwy.

yw'r cyfansoddiad yn bwysicach i chi na phopeth arall?


Mae dyfodol Cymru fel gwlad a chenedl sydd gyda rhyw fesur o leia o hunan-lywodraeth yn bwysicach i mi na dim arall yndi. Hyd yn oed petai gan y Toriaid bolisiau gwerth chweil heblaw am eu hawydd i ddiddymu Cymru - byddai hynny'n ddigon i ganslo allan y polisiau da i gyd.

Fase ti'n fodlon gweld diddymu Cymru er mwyn cael toriad treth Realydd?
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Postiogan Realydd » Maw 18 Ion 2005 4:15 pm

Macsen a ddywedodd:Ydi, mae nhw'n ddigon hapus i dalu mwy o drethi. Mae nhw wedi sylwi bod trethi uchel yn gwella yr wlad mae nhw'n byw ynddo'n gyffredinol.


Beth am i ti gynnig ychydig o esiamplau?
Realydd
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1779
Ymunwyd: Maw 08 Meh 2004 1:20 pm

Nesaf

Dychwelyd i Materion Prydain

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 37 gwestai