Etholiad Cyffredinol 2005

Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri

Cymedrolwr: Mr Gasyth

Rheolau’r seiat
Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri, Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Etholiad Cyffredinol 2005

Postiogan GT » Gwe 28 Ion 2005 9:28 pm

Mae gennym ni fisoedd o hyn o'n blaenau :rolio:
A great man. He could have been Pope!
Blog Menai
Gwasanaeth i'r Gymuned
Rhithffurf defnyddiwr
GT
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2774
Ymunwyd: Maw 20 Ion 2004 11:35 pm
Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Macsen » Gwe 28 Ion 2005 9:47 pm

Mae'r Toriaid yn cwyno bod ni'n rhu PC, ond yn amlwg ddim pam fod y fath gwyno i'w mantais nhw. :rolio:

Yda ni wedi dod i bwynt yn y wlad yma lle nad oes digon o hiliaeth i fodloni'r lleafrifoedd ac felly mae nhw'n ei wneud o fyny? :rolio:

:rolio: x 20
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan GT » Sad 29 Ion 2005 11:40 am

Macsen a ddywedodd:Mae'r Toriaid yn cwyno bod ni'n rhu PC, ond yn amlwg ddim pam fod y fath gwyno i'w mantais nhw. :rolio:

Yda ni wedi dod i bwynt yn y wlad yma lle nad oes digon o hiliaeth i fodloni'r lleafrifoedd ac felly mae nhw'n ei wneud o fyny? :rolio:

:rolio: x 20


Political correctness gone mad fel y byddai'r Daily Mail yn ei ddweud.

Tybed beth fydd gan y bobl hawliau anifeiliaid i'w ddweud? :winc:

Tybed, hefyd, os mai ar Fai 5 fydd yr etholiad? Gweler
A great man. He could have been Pope!
Blog Menai
Gwasanaeth i'r Gymuned
Rhithffurf defnyddiwr
GT
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2774
Ymunwyd: Maw 20 Ion 2004 11:35 pm
Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Cwlcymro » Sad 29 Ion 2005 2:49 pm

Anti-semantic??? Be?

Ydi'r gymuned Iddewol mor paranoid bo nhw'n gweld ymosodiad mewn poster sydd yn HOLLOL AMLWG yn ymosod ar bolisiau Howard a Letwin?
Wales? Whales? Do you mean 'da fish, or them singing bastards?
Cwlcymro
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2874
Ymunwyd: Sul 15 Meh 2003 1:12 pm
Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Cymro13 » Sul 30 Ion 2005 8:27 pm

jest ffordd y toriaid i daro nol at llafur gan bo nhw methu meddwl am rhywbeth gwell
Rhithffurf defnyddiwr
Cymro13
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1279
Ymunwyd: Sad 01 Tach 2003 2:36 pm
Lleoliad: Y Bydysawd

Postiogan Madrwyddygryf » Sul 30 Ion 2005 8:58 pm

Ia dwi'n gwybod be ti'n meddwl CwlCymro. Ond mi sylweddolais bod Letwin a Howard yn Iddewon. Yn y hysbys mae nhw gyda corff fel moch. Ond nid yw Iddewon fod i bwyta cig moch.

Ar y pwynt arall dwi'n poeni bydd yr etholiad yma yn mynd i droi'n hyll os yw mewnfudo yn mynd i fod yn prif bwnc.
Rhithffurf defnyddiwr
Madrwyddygryf
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2230
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 6:32 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan Cwlcymro » Llun 31 Ion 2005 2:12 pm

Madrwyddygryf a ddywedodd:Ia dwi'n gwybod be ti'n meddwl CwlCymro. Ond mi sylweddolais bod Letwin a Howard yn Iddewon. Yn y hysbys mae nhw gyda corff fel moch. Ond nid yw Iddewon fod i bwyta cig moch.


Does na ddim byd yn yr hysbyseb am fwyta moch. Does gan Iddewon ddim byd yn erbyn moch byw nagoes?

Polisi Howard a Lewtwin ydi'r busnas torri trethi. Ma "Pigs Might Fly" yn frawddeg gyffredin yn Saesneg, does na absolwtli DDIM BYD gwrth-semantic yn yr hysbyseb.

Pwy sy'n cwyno? Toriaid ta Iddewon? (Ta Iddewon Toriaidd!!?)
Wales? Whales? Do you mean 'da fish, or them singing bastards?
Cwlcymro
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2874
Ymunwyd: Sul 15 Meh 2003 1:12 pm
Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Cath Ddu » Llun 31 Ion 2005 11:06 pm

Cwlcymro a ddywedodd:Does na ddim byd yn yr hysbyseb am fwyta moch. Does gan Iddewon ddim byd yn erbyn moch byw nagoes?

Polisi Howard a Lewtwin ydi'r busnas torri trethi. Ma "Pigs Might Fly" yn frawddeg gyffredin yn Saesneg, does na absolwtli DDIM BYD gwrth-semantic yn yr hysbyseb.

Pwy sy'n cwyno? Toriaid ta Iddewon? (Ta Iddewon Toriaidd!!?)


Wel yn ol ti;

Cwlcymro a ddywedodd:
Ydi'r gymuned Iddewol mor paranoid.....


Dwi'n credu fod yna rhywbeth pur anghynes yn dy bwynt am Iddewon Toriaidd hefyd a dweud gwir. Dwi'n dueddol i gytuno mae di-chwaeth yn hytrach na hiliol oedd y posteri - dwi'n yn sicr am dy gyfraniadau di i'r drafodaeth serch hynny.
Cath Ddu
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1963
Ymunwyd: Iau 22 Gor 2004 2:23 pm

Postiogan Hogyn o Rachub » Maw 01 Chw 2005 9:58 am

Eitha amlwg fod y Toriaid yn ceisio gwneud mor a mynydd o hyn; ond dw i'm yn gwybod pam. Fel ddudodd Cwlcymro, doedd 'na ddim byd gwrth-semitaidd am y postar. Efallai bod y gymuned Iddewig braidd yn paranoid am hyn :?: wn i ddim achos 'sgen i ddim wir wybodaeth amdan y gymuned hwnnw; fyddai hawl cwyno pe bai'r poster yn wrth-semitaidd, ond dydi o ddim, felly fedar neb gwyno.
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Y Rachub Rydd Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4939
Ymunwyd: Gwe 25 Hyd 2002 7:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub

Postiogan Cath Ddu » Maw 01 Chw 2005 11:08 am

Hogyn o Rachub a ddywedodd:Eitha amlwg fod y Toriaid yn ceisio gwneud mor a mynydd o hyn; ond dw i'm yn gwybod pam. Fel ddudodd Cwlcymro, doedd 'na ddim byd gwrth-semitaidd am y postar. Efallai bod y gymuned Iddewig braidd yn paranoid am hyn :?: wn i ddim achos 'sgen i ddim wir wybodaeth amdan y gymuned hwnnw; fyddai hawl cwyno pe bai'r poster yn wrth-semitaidd, ond dydi o ddim, felly fedar neb gwyno.


Dywed di.

Dwi'n credu fod y posteri yn waeth nac unrhywbeth ddywedwyd gan Ann Robinson, Janet Street Porter neu Lenny Henry am y Cymry. Dwi'n credu fod ymateb aelodau o'r 'mudiad cenedlaethol' wedi bod ychydig yn llai goddefgar yn yr achosion hyn.

O ran y posteri - Michael Howard fel Fagin neu Letwin a Howard fel moch, oes yna ddim cwestiwn bach yn codi am hyn yn eich golwg? Mae hefyd angen edrych ar y cyd-destun. Dim ond blwyddyn yn ôl bu'n rhaid i Gadeirydd y Blaid Lafur ymddiheuro am ddisgrifio Oliver Letwin fel Fagin. Mae yna batrwm fan hyn, patrwn hyll o 'atgoffa' pobl o dras Howard a Letwin. Mae'r delweddau yn fy atgoffa o bosteri y Natsiaid yn y dauddegau oedd yn ymosod ar wleidyddion o dras Iddewig.

Diddorol gweld aelodau PC yn dweud fod y math yma o ymgyrchu yn OK.

Cofiwch hefyd mae plaid Tony Blair sy'n gyfrifol am y posteri hyn, yr un Tony Blair a ddywedodd yn Ebrill 1997;

Tony Blair a ddywedodd:They (Ceidwadwyr) will attack me and they will attack you, they are negative; they are nasty; they are personalised.


Mae'r uchod yn disgrifio'r posteri hyn yn dda iawn hyd yn oed os nad ydych yn credu fod yna elfen waeth yn gweithredu'n y cefndir.

Tydi grym yn chwalu delfrydau.
Cath Ddu
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1963
Ymunwyd: Iau 22 Gor 2004 2:23 pm

Nesaf

Dychwelyd i Materion Prydain

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 28 gwestai