Cath Ddu a ddywedodd:A dwi'n dal at y pwynt. Tydi 4,000 o sampl mewn etholaeth o 54,000 ddim yn debygol o fod yn llai cywir na sampl o 1,000 traws Gwalia fach
Heb ddilorni ymdrechion y Gath (mae cael 4,000 ymateb i holiadur yn gryn gamp), mae'n bosibl i'r sampl o 1,000 tros Gymru fod yn gywirach na'r un o 4,000 yng Nghonwy.
Heb fod a'r ffigyrau o fy mlaen 'dwi'n meddwl bod sampl o fil (o unrhyw nifer - boed 50,000 neu holl boblogaeth yr UDA) efo
margin for error o tua 3%. Mae sampl o 500 yn rhoi
margin for error o tua 8% (ac felly yn ei wneud fwy neu lai yn ddiwerth). (Dyma gyda llaw pam mai 1,000 ydi samplau polau piniwn fel rheol - 'does yna ddim pwynt gwario llawer iawn mwy o arian i gael mymryn mwy o gywirdeb). Dylai sampl o 4,000 o 54,000 (
petae pob peth arall yn gyfartal) fod yn gywirach na sampl o 1,000 o holl boblogaeth Cymru - ond ddim o llawer iawn.
Fodd bynnag mae'r frawddeg
petae pob peth arall yn gyfartal yn bwysig iawn yma. 'Dwi'n gwybod dim oll am fethedoleg samplo'r Gath, felly fedra i ddim mentro barn ynglyn a sut mae'r Gath wedi cynllunio ei holeb. Mae nifer o bethau a allai effeithio'n sylweddol iawn ar gywirdeb yr holeb. Un enghraifft - byddai cynnwys y geiriau
Plaid Geidwadol Cymru ar yr holeb yn debygol o effeithio yn sylweddol ar bwy fyddai yn ei hanfon yn ol. Byddai Ceidwadwr yn dueddol i'w dychwelyd tra byddai Llafurwr yn fwy tebygol o'i rhoi ar waelod caets y bwji neu ysgrifennu celwydd arni. Mae'n debygol y byddai Ceidwadwyr yn poeni mwy am fewnlifiad na neb arall.