Mae'r perma-tanned Robert Kilroy-Silk wedilawnsio Veritas bore 'ma, plaid newydd sy'n mynd i "neud be mae'r etholwyr am iddynt neud". Ddim di clywed hynny o'r blaen, na?
Gwyliais i'r cynhadledd wasg bore ma ac roedd Kilroy yn llawn pazazz a glam o'i ddyddiau fel half-arsed chat show host (cyn y digwyddiad anffodus o ddisgrifio'r byd Arabaidd fel rhywle llawn barbariaid etc...) a rhwng dweud ei fod e am wrando ar be mae pobol eisiau, roedd e'n parhau i DDWEUD be mae pobol eisiau. Bechod arno fo, mae'n sownd yn ei fyd bach power-crazy ei hun. Mae ei blaid yn ffrynt i fwstio'i ego ac i barhau gyda'i agenda adain dde o senoffobia, brawychiad a chodi bwganod ar ddarllenwyr culfrydig daily mail y wlad.
Doniol, eniwei. Bydd mwy o goments bisâr yn dod o'i geg e dros y misoedd nesa i fyny i'r etholiad cyffredinol, dwi'n siŵr.
O.N. na ddylai fe nawr sefyll lawr fel aelod y senedd Ewropeaidd gan ei fod wedi'i ethol o dan agenda UKIP? Chwarae teg, os unrhyw beth mae Veritas yn ymddangos fel plaid fwy radical ac eithafol na UKIP.
Mae un o aelodau'r blaid Veritas hefyd yn eistedd ar gynulliad Llundain, a gafodd ei ethol o dan blaid UKIP. Na ddylai fe hefyd sefyll lawr nawr? Oes gynsail wedi'i setio am y fath sefyllfa? Ydyn nhw'n dilyn esiampl aelodau'r senedd Brydeinig pan ry' nhw'n newid plaid, ac felly ddim yn sefyll lawr o'i seddi?