Hela a chwn

Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri

Cymedrolwr: Mr Gasyth

Rheolau’r seiat
Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri, Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Realydd » Llun 21 Chw 2005 2:37 pm

dal i ddisgwyl i huwcyn1982 ateb y cwestiynau a godais ddoe

yn y cyfamser, beth am i rai ohonoch roi cynnig ar rhain:

1. yw ci yn lladd llwynog yn greulon?
2. yw llwynog yn lladd wyn bach yn greulon?
Realydd
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1779
Ymunwyd: Maw 08 Meh 2004 1:20 pm

Postiogan salmal » Llun 21 Chw 2005 2:38 pm

Gwahanglwyf Dros Grist a ddywedodd:
Lodes Fech Glen a ddywedodd:Dydw i ddim yn meddwl bod gan berson sydd yn byw yn ganol y ddinas ddim hawl barnu y ffordd mae Cefn Gwlad yn cael ei rhedeg.


Oes mae 'na, yn yr un ffordd ag mae gan bobl o gefn gwlad yr hawl i farnu faint o lygredd sy'n cael ei achosi gan ddinasoedd. Mae'n fater o adnabod beth sy'n mynd o le a gweithredu i unioni hynna. S'dim pwynt ceisio creu gwlad ranedig - mae pleidlais a hawl i fynegi barn gan bawb.


Yn union, dwi'n cytuno fan'na.
Pob tro dwi'n trio trafod hela efo bobl sy'n ffermio, dwi wasdad yn gal yr ateb "O dwyt ti ddim yn gwybod unrhywbeth am hela am dy fod yn byw yn y dre. Sgen ti ddim hawl i ddeud dy fod yn ei erbyn achos rwyt ti'n gwybod dim am ffermio a cefn gwlad". Neu rywbeth tebyg i hynny eniwe. Ma hynne yn fy ngwylltio i gymaint. :x :x :x
Rhithffurf defnyddiwr
salmal
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 77
Ymunwyd: Iau 04 Tach 2004 9:35 pm

Postiogan Mr Gasyth » Llun 21 Chw 2005 2:39 pm

salmal a ddywedodd:
Mwnci Banana Brown a ddywedodd:Born to Hunt


hwnna ydi'r wefan mwya trist a pathetic dwi rioed di bod iddo :x :x :x


pam?
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Postiogan salmal » Llun 21 Chw 2005 2:44 pm

Mr Gasyth a ddywedodd:
salmal a ddywedodd:
Mwnci Banana Brown a ddywedodd:Born to Hunt


hwnna ydi'r wefan mwya trist a pathetic dwi rioed di bod iddo :x :x :x


pam?


achos mae o yn trist a pathetig, achos di bobl call ddim yn mynd rownd efo ryw fleece neu siaced efo 'born to hunt' arno. mae o fatha rywbeth fase ti'n neud yn oes y cerrig - hela am fwyd. mae;n hen bryd i bobl dyfu fyny, mae na bethe pwysicach yn y byd i bobl na hela, gobeithio.

'oh honestly, i don't know...' :(
Rhithffurf defnyddiwr
salmal
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 77
Ymunwyd: Iau 04 Tach 2004 9:35 pm

Postiogan salmal » Llun 21 Chw 2005 5:06 pm

Realydd a ddywedodd:1. yw ci yn lladd llwynog yn greulon?
2. yw llwynog yn lladd wyn bach yn greulon?


Na nid yr uchod sydd yn greulon - dyw'r llwynogod na'r cwn yn gwybod gwell. Be sydd yn greulon yw fod bobl yn mynd allan efo'u cwn yn arbennig i'w gael nhw i ladd llwynogod ac yn gael gymaint o hwyl yn gweld y llwynog yn gael ei rhigo i fyny ac yn marw yn ara deg ac yn dioddef. Ma hynne yn afiach.
Rhithffurf defnyddiwr
salmal
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 77
Ymunwyd: Iau 04 Tach 2004 9:35 pm

Postiogan Cwlcymro » Maw 22 Chw 2005 12:21 pm

I ddechra, i gal unrhyw ddadleuon o ragfarn o'r ffordd yndw mi ydwi yn lysieuwr.
Ond does genai ddim problam efo pawb arall yn ffermio, bwyta cig, pysgota, saethu adar etc. Dewis personol ydio genai i beidio bwyta cig, dwi'm yn meddwl fod gan neb hawl i fforsio neb arall i gytuno nefo fi, felly fyddai byth yn pregethu wrth ffrinida a teulu.

Yn ail dwi'n byw yn y wlad a ma na gae a ffermydd i bob cyfeiriad o'r ty.
Ond tan i fi ddod i'r coleg doeddwn i ddim yn nabod UNRHYWUN oedd yn cefnogi hela. NEB. Cachu ydi'r busnas "pobl y ddinas ddim yn deall ni yng nghefn gwlad" ma. Mae yn fy ngwylltio i yn gacwn gweld y bobl ma ar y teledu yn dweud fod y wlad yn ei cefnogi nhw, a fod San Steffan yn biased yn erbyn ni bobl cefn gwlad. BOLYCS LLWYR. Dim ond un rhan o gefn gwlad sy'n cefnogi hela, a'r cynhara y gwneith y Countryside Aliance gyfadda hynny y gora.

Ar y funud ma na broblam llygod yn ein ty ni yn coleg. Da ni wedi rhoi traps i lawr. Er y bysa'n well genai gael gwared o'r llygod heb ei lladd, dwi'n gwybod fod hynny yn amhosib a felly dwi'n barod i dderbyn ei lladd fel "pests". Ma helwyr yn defnyddio yr un ddadl dros hela.
Ma llwynogod yn gallu bod yn "pests" dwi'm am ddadla yn erbyn hynny. Ond dim helwyr ydi'r "pest control" a dim hela ydi'r ffordd. Ma na helwyr sy'n bridio'r petha ffor ffycs sake! Dwi'n adnabod heliwr go iawn, sy'n dod o deulu o helwyr. (Helwyr go iawn = rhei efo gwn sy'n lladd er mwyn amddiffyn praidd dim er mwyn cael ychydig o hwyl) Mi oddo wrth ei fodd efo'r ddeddf newydd, gadael y "pest control" i'r arbenigwyr.

Does na ddim cymhariaeth O GWBWL efo diwilliant Cymreig. Dydi diwilliant Cymreig ddim yn greulon i unrhywbeth.

Ella fod na betha gwell y bysa gwleidyddion wedi gallu ei gwneud efo'r amser, ond y gwir ydi fod y ddeddf hon yn hysbyseb WYCH o ddemocratiaeth. Ma Llafur wedi cael ei hethol ddwywaith efo'r ddeddf ar ei maniffesto a ma Ty'r Cyffredin wedi pledleisio o'i plaid UNARDDEG o weithia. Os na fysa'r ddeddf wedi dod i rym, pa fath o ddemocratiaeth fysa gyna ni?

Mi odd ymladd ceiliogod, "badger baiting", ymladd cwn a hela llwynogod i gyd yn arfar bod yn "draddodiad" a rhan o'n diwilliant ni. Diolch byth ein bod ni wedi gwareiddio dduda i.
Wales? Whales? Do you mean 'da fish, or them singing bastards?
Cwlcymro
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2874
Ymunwyd: Sul 15 Meh 2003 1:12 pm
Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Realydd » Maw 22 Chw 2005 12:36 pm

Cwlcymro a ddywedodd:Ella fod na betha gwell y bysa gwleidyddion wedi gallu ei gwneud efo'r amser, ond y gwir ydi fod y ddeddf hon yn hysbyseb WYCH o ddemocratiaeth.


:o

Anghytuno'n llwyr. Nid yw'r ddeddf yn plesio neb. Mae'r ddeddf yn anodd iawn i'w plismona. Mae'r ddeddf yn hysbyseb drychinebus o ddemocratiaeth, meddylia am yr holl amser ac arian cyhoeddus sydd wedi cael ei wastraffu i ddelio hefo'r mater yma.
Realydd
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1779
Ymunwyd: Maw 08 Meh 2004 1:20 pm

Postiogan Cwlcymro » Maw 22 Chw 2005 12:42 pm

Dwi'n cytuno fod hi'n anodd i'w phlismona, ond ma'r un yn wir am y rhan fwya o ddeddfau.

Dim cynnwys y ddeddf sy'n hysbyseb o ddemocratiaeth ond y ffaith ei bod hi wedi ei phasio er ymdrechion helwyr a Thy'r Arglwyddi.

Ty'r Arglwyddi wastiodd y pres drwy ei gyrru nol drosodd a throsodd gan wybod y bysa'r llywodraeth yn defnyddio Deddf y Senedd yn y pen draw.

Y gwir plaen ydi fod Llafur wedi addo ddeddfu yn erbyn hela mewn dau etholiad, fod Llafur wedi ennill y ddau etholiad a felly fod ganddy nhw 'mandate' clir i weithredu. Mi driodd yr helwyr (canran fach o boblogaeth Prydain) ei dinistrio drwy Dy'r Cyffredin, mi drio nhw ei ddinistrio drwy dorri'r gyfraith, mi drio nhw ei ddinistrio drwy 'intimidation' a mi fetha nhw ar bob cownt.
Wales? Whales? Do you mean 'da fish, or them singing bastards?
Cwlcymro
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2874
Ymunwyd: Sul 15 Meh 2003 1:12 pm
Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Realydd » Maw 22 Chw 2005 12:46 pm

Cwlcymro a ddywedodd:Y gwir plaen ydi fod Llafur wedi addo ddeddfu yn erbyn hela mewn dau etholiad, fod Llafur wedi ennill y ddau etholiad a felly fod ganddy nhw 'mandate' clir i weithredu.


Tybed beth fyddai dy agwedd os buasai Llafur, neu blaid arall, yn ennill etholiad cyffredinol hefo maniffesto'n gaddo sgrapio pethau Cymraeg...
Realydd
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1779
Ymunwyd: Maw 08 Meh 2004 1:20 pm

Postiogan Cwlcymro » Maw 22 Chw 2005 12:53 pm

Fyswn i ddim yn ei gefnogi, ond fyswn i ddim yn ei alw'n an-ddemocratic.

Fedrio di ddim cymharu hela efo'r Gymraeg. Iaith ydi un, traddodiad barbarbaidd sy'n achosi poen di angen ydi'r llall.
Wales? Whales? Do you mean 'da fish, or them singing bastards?
Cwlcymro
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2874
Ymunwyd: Sul 15 Meh 2003 1:12 pm
Lleoliad: Caernarfon

NôlNesaf

Dychwelyd i Materion Prydain

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 37 gwestai