Cwlcymro a ddywedodd:Fyswn i ddim yn ei gefnogi, ond fyswn i ddim yn ei alw'n an-ddemocratic.
Fedrio di ddim cymharu hela efo'r Gymraeg. Iaith ydi un, traddodiad barbarbaidd sy'n achosi poen di angen ydi'r llall.
Roedd adeg pan oed Deddfu yn erbyn y Gymraeg ar y sail ei bod yn iaith anaturiol, 'backward', anfoesol, oedd yn gyfrifol am dlodi Cymru - ella y daw eto, does wybod dyddiau hyn. Mae'r gymhariaeth yn un glos iawn.
Da ni'n byw mewn democratiaeth ryddfrydol i fod, nid democratiaeth bur. 'Live and let live' ydi democratiaeth ryddfrydol, 'tyrranny of the majority' ydi democratiaeth bur.
Mae'r llinell o un i'r llall yn prysur cael ei chroesi ym Mhrydain, a dwi'n ofni y daw dydd pan fydd pobl yn edrych yn ol ac yn difaru na wnaethon nhw sefyll ochr yn ochr a'r helwyr dros ryddid yr unigolyn tra roedd cyfle i wneud hynny.