Realydd a ddywedodd:Difyr. Beth yw'r rhesymeg tu ol i hynna GT? A beth ti'n ddyfalu wneith ddigwydd i'r bleidlais i Llafur a'r Toriaid?
'Dwi ddim yn gwybod mwy na ti - nid oes gennyf fynediad i bolio preifat na dim byd felly, ond byddai synnwyr cyffredin yn cefnogi fy haeriad. Bydd gogwydd yn erbyn Llafur, ni all y Ceidwadwyr ennill (dim pleidleisiau yn Nwyrain poblog yr etholaeth). Felly dylai'r Blaid elwa o'r gogwydd yn erbyn Llafur. Hefyd mae aelodau seneddol PC yn tueddu i wneud yn well yn eu hail etholiad cyffredinol na'r gyntaf.