Mercher 9 Mawrth 2005
10.30am, Ty'r Cyffredin
Mi fydd Amnest Rhyngwladol yn cynnal protest yn annog Aelodau Seneddol i daflu allan y Mesur Atal Terfysgaeth ac i ategu hawliau dynol.
Mi fydd ystafell ffrynt yn cael ei rhoi mewn cawell fel stỳnt i'r wasg, yna i mewn i'r senedd i lobio ASau.
Mae'r mesur ar hyn o bryd wedi'i phasio i Dy'r Arglwyddi ac fe ddisgwylir iddo ddod yn ôl i Dy'r Cyffredin gyda newidiadau ar Fawrth 8/9.
Mae gwrthwynebiad Amnest Rhyngwladol i'r Mesur yn cael amrediad eang.
Yn bennaf, dangosir consyrn at yr hawl mi fydd gan y llywodraeth i drechu rôl yr heddlu, yr awdurdodau erlyn a'r farnwriaeth heb unrhyw system effeithiol o wiriad a chydbwyso.
O dan y Mesur, mi fydd gan y llywodraeth pwerau eithafol digynsail i wneud "gorchmynion rheoli", gan gynnwys "carchariad yn y tŷ" a thagio.
Mi fuasai'r fath o orchmynion yn trethu cyfyngiadau ar hawliau a rhyddid sylfaenol a warantwyd gan gyfreithiau hawliau dynol domestig a rhyngwladol.
Os cyflwynwyd, buasai'r Mesur Atal Terfysgaeth yn tanseilio hawliau dynol pobl yn syfrdanol, gan gynnwys eu hawliau i gael:
* eu bywyd preifat a theuluol wedi parchu
* rhyddid o feddwl, cydwybod a chrefydd
* rhyddid o fynegiad
* rhyddid o ymgynulliad a chydgysylltu
* rhyddid i symud o gwmpas
* achos llys teg
* libart a sicrwydd o'ch person.
Am ragor o wybodaeth neu i ddarganfod sut i lobio eich Aelod Seneddol ewch i http://www.amnesty.org.uk
Neu cliciwch yma i ffacsio eich AS yn uniongyrchol a gofyn iddynt i wrthod y Mesur Atal Terfysgaeth.