huwwaters a ddywedodd:Credaf ei fod i'w wneud efo'r ffaith mai Gwyddelod yn symud i Alban dobarth gweithiol anwybodus ydi gwraidd y broblem, fel chi'n gweld rwan mewn rhai dinasoedd. Y dosbarth gweithiol yn ymosodol ar y mewnfudwyr oherwydd eu bod wedi "dygud eu swyddi" a dyle nhw ddim bod yma. Hwne siwr wnaeth ddigwydd i gychwyn efo, a mae'r casineb wedi parhau.
Mae'r sefyllfa yn llawer mwy cymhelth nag Gwyddelod yn dod i fewn i'r Alban ac yn cael eu beio am ddwyn swyddi fel rydym yn ei gael yng ngweddill Prydain yn erbyn Gwyddelod a cenedlau eraill. Mae'r ffrae yn lot mwy iw wneud a Catholigiaeth/Protestaniaeth nag Gwyddelod yn erbyn Albanwyr neu 'Brydeinwyr'. Mae'r rhaniadau crefyddol hanesyddol rhwng Catholigion a Protestaniaid (dwi ddim yn siwr o union hanes y ffraeo rhwng y ddau - cyn belled dwi yn y cwestiwn mae'r 2 yn honi i fod yn Gristnogion a dyna ddylai fod yn bwysig iddynt) sydd iw weld yng Ngogledd Iwerddon heddiw yr un mor amlwg yng Ngorllewin yr Alban.
Dwi wedi clywed digon o pobl yn galw eu gilydd yn "Fenians" - sydd er yn golygu Gweriniaethwr Gwyddelig yn Iwerddon (y 2 rhan) yn cael ei ddefnyddio ar gyfer Catholigion yn unig yn yr Alban, a Huns neu 'Proddie Scum' sef beth mae rhai yn galw Protestaniaid . Ond dydw i heb glywed neb yn dweud unrhyw beth am berson am fod yn Wyddel.
Mae'r 'Cenedlaethodeb' sydd bellach yn rhan o'r peth gyda Rangers/Protestaniaid yn dueddol o fod ar ochr Prydain, a cadw Gogledd Iwerddon yn rhan o'r Deyrnas Unedig a Celtic/Catholgion yn cefnogi'r Werniaeth ac uno Iwerddon yn ddatblygiad o'r ffraeo hanesyddol hwn.
Cofiwch hefyd bod llawer o'r Protestaniad gwreiddiol a gafodd eu rhoi yng Ngogledd Iwerddon yn yr 1600au (dwin meddwl) yn hannu o'r Alban e.e. teulu Ian Paisley o Paisley ayyb felly mae cysylltiad hanesyddol rhwng rhai o'r Alban a'r Teyrngarwyr yng Ngogledd Iwerddon.
Dwi'n rhagweld hwn yn dal cenedlaetholdeb yn nol yn yr Alban wrth i'r Alban efallai symud ymlaen tuag at dorri'n rhydd oddi wrth Prydain.