GT a ddywedodd:
Mae'n rhaid bod y 'twpsun' hwn yn fwy dwl na'r rhan helyw. Mae'n ymddangos i mi mai dadlau tros ddefnyddio nwy dagrau yn ogystal a nwy mwy gwenwynig oedd Winston.
Ti'n anghywir. Dadlau dros ddefnyddio nwy yn hytrach na bomiau mae'r dyfyniad.
GT a ddywedodd:Beth bynnag, mae'r dyfyniad hwn o'r Ail Ryfel Byd yn dangos yn weddol glir nad oedd gan Churchill broblem foesol efo nwy gwenwynig, nac efo bomio sifiliaid.
Dwi'n falch dy fod ti'n fodlon cynnwys safbwynt Churchill mewn cyd-destun rwan. Mae'r memo ti wedi ei ddyfynnu yn fama yn gwneud pwynt teg - pam dylsa milwyr Prydain lynnu at reolau rhyfel, pan fo milwyr yr Almaen yn eu torri nhw? Mae Churchill yn gofyn i rywun edrych ar oblygiadau defnyddio nwy gwenwynig. Nid rhywbeth dwi'n gytuno ac o, ond o ddarllen y dyfyniad uchod, safbwynt y medra i cyd-ymdeilo ac o. Dwi'n awgrymu fod cynnig dyfyniadau call fel hyn yn ffordd deg o ysgogi trafodaeth, tra fod dy "gwis" bach di ar ddechrau'r edefyn yn ddim byd ond
mud-slinging plentynaidd.
GT a ddywedodd:Garnet Bowen a ddywedodd:Dwi'n meddwl ei bod hi'n or-symleiddiad i ddeud fod "y dde" wedi gwrthwynebu y Natsiaid yn fwy na "y chwith". Ti'n syrthio i'r un trap a pobol eraill ar y bwrdd yma, o weld digwyddiadau hanesyddol drwy lygaid cyfoes. Mi oedd 'na bobl dda, ddewr, a phobl ddrwg, llwfr, ar y dde a'r chwith yn Ewrop y 1930au.
'Dwi'n meddwl y cei bod y Chwith at ei gilydd yn erbyn Hitler mewn gwleidyddiaeth Prydeinig, ac roedd y Dde ar y gorau gydag agweddau amwys tuag ato.
Ella wir. Ymateb i ddatganiad Specs "petai o'n almaenwr byddai'n Nazi" oeddwn i. Mi oedd Pogon yn gywir i nodi fod ceidwadwyr Almaenaidd wedi gwneud lot mwy i wrthysefyll Hitler na'r asgell chwith, a oedd yn rhy brysur yn ymladd efo'u gilydd.