gan Cardi Bach » Mer 09 Maw 2005 10:13 am
Mae Macsen yn berffaith iawn yma.
Mae Llafur yn weddol hyderus y gwna nhw ennill - ond o faint? Mae grwpiau ffocws yn dangos fod Blair yn hynod amhoblogaidd, yn dangos fod niwed hir dymor wedi cael i wneud, ac yn fwyaf niweidiol i Lafur yn dangos nad y Ceidwadwyr (neu unrhyw blaid arall) sy'n debygol o golli'r etholiad iddyn nhw ond na fydd eu pleidleiswyr eu hunen yn troi mas i bleidleisio.
Mae Ret yn iawn, dy'n nhw'n poeni dim un iot am Blaid neu'r SNP - a pam ddyle nhw ar lefel Brydeinig?
Ond mae yna beryg gwirioneddol eu bod nhw am golli nifer o'u seddi am nad yw'r etholwyr am droi mas i bleidleisio.
Dyna sail eu hymgyrch felly - codi ofn(diawl, dyna sail eu polisiau nhw erbyn hyn). Mae'n arwydd tipical o Lywodraeth sydd heb weledigaeth ac sydd yno ermwyn y grym yn unig, ac ddim ermywn unrhyw syniadaeth neu weledigaeth ideolegol. Os llwyddan nhw i godi digon o ofn fod y Ceidwadwyr am ddod yn ol, yna mi ddaw eu pleidleiswyr craidd mas eto.
Mae hyn yn fwy difrifol nag yr ymddengys ar yr olwg gyntaf, achos mae'n dangos fod y genhedlaeth ganol oed 'afluent' a ddoth a Llafur i rym yn '97 ar yr un llaw, a'r genhedlaeth hyn sydd yn bleidleiswyr craidd a chyda 60% yn pleidleisio, yn colli diddordeb (dyw'r rhai ifanca ddim yn cofio'r Ceidwadwyr mewn grym, ac felly dyw 'scare stories' ddim yn gweithio arnyn nhw). Mae hyn yn argoeli'n ddrwg ar gyfer y tymor hir wrth gwrs.
Mae yna beryg hefyd y bydd y Lib Dems - fel wy wedi gweud mewn edefyn arall - yn cael eu gwasgu mas, er gwaetha eu holl pomp a bombast. Bydd yna bleidlais 'any-one but Labour' a aiff at y Ceidwadwyr, ac felly mewn '3-way marginals', gyda LLafur yn methu cael eu pleidleiswyr mas, a'r etholwyr eraill moyn unrhyw un heblaw am Lafur, mae yna beryg mae Ceidwadwyr gaiff hi.
Mae stori'r Express felly yn greiddiol i holl ymgyrch LLafur - yn wir dyna YW ymgyrch LLafur.
Mi o'n i'n meddwl hefyd fod Howard wedi bod yn hynod ffol yn dewis pigo ffeit ar iechyd gyda'r fenyw 'na a'u hysgwydd, achos mae Llafur yn Lloegr wedi bod yn gymharol lwyddianus gyda rhestrau aros ac ati (os chi'n dewis anwybyddu PFI). Y peth dwetha odd Howard a'r Ceidwadwyr eisiau oedd llusgo'r ddadl ymlaen, achos yr hiraf oedd y ddadl am fynd y mwyaf oedd Llafur yn debygol o elwa, achos y mwyaf o gyfle oedd yno i John Reid i adrodd drosodd a throsodd lwyddiannau y llywodraeth mewn gostwng rhestrau aros, ond, hei-ho, mae'r stori wedi diflannu dros nos! Mae Howard wedi cael eu bum munud o 'sound-bites', ac mae'r wasg wedi symud ymlaen. Mae hyn yn rhyfedd.