PIRA yn cynnig llofruddio llofruddwyr Robert McCartney

Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri

Cymedrolwr: Mr Gasyth

Rheolau’r seiat
Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri, Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Cath Ddu » Iau 10 Maw 2005 12:15 am

GT a ddywedodd:51.72%


Ar sail hyn fe fyddwn yn dyfalu mae dal eu tir wnaeth SF yn 2004. Be ti'n feddwl?
Cath Ddu
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1963
Ymunwyd: Iau 22 Gor 2004 2:23 pm

Postiogan GT » Iau 10 Maw 2005 12:27 am

Cath Ddu a ddywedodd:
GT a ddywedodd:51.72%


Ar sail hyn fe fyddwn yn dyfalu mae dal eu tir wnaeth SF yn 2004. Be ti'n feddwl?


'Dwi ddim yn meddwl y gellir bod yn siwr.

Fel mater o ddiddordeb syrthiodd pleidlais yr SDLP o 17% i 15.9% rhwng 03 a 04, cynyddodd pleidlais y DUP o 25.6% i 32% a cwympodd pleidlais yr UUP o 22.7% i 16.6%.

Yn amlwg roedd y canlyniadau yn well i'r DUP a SF, ac mae'n awgrymu bod y gogwydd tymor canolig yn parhau.
A great man. He could have been Pope!
Blog Menai
Gwasanaeth i'r Gymuned
Rhithffurf defnyddiwr
GT
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2774
Ymunwyd: Maw 20 Ion 2004 11:35 pm
Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Cath Ddu » Iau 10 Maw 2005 12:35 am

GT a ddywedodd:
Cath Ddu a ddywedodd:
GT a ddywedodd:51.72%


Ar sail hyn fe fyddwn yn dyfalu mae dal eu tir wnaeth SF yn 2004. Be ti'n feddwl?


'Dwi ddim yn meddwl y gellir bod yn siwr.

Fel mater o ddiddordeb syrthiodd pleidlais yr SDLP o 17% i 15.9% rhwng 03 a 04, cynyddodd pleidlais y DUP o 25.6% i 32% a cwympodd pleidlais yr UUP o 22.7% i 16.6%.

Yn amlwg roedd y canlyniadau yn well i'r DUP a SF, ac mae'n awgrymu bod y gogwydd tymor canolig yn parhau.


Anodd cytuno - fe gollodd yr SDLP John Hume. Dan yr amgylchiadau y syndod efallai oedd na wasgwyd hwy yn bellach. Efallai fod y canlyniad yn datgan gwirioneddau am y DUP - on gwell gennyf aros hyd etholiad 2005 cyn datgan os yw Pisley wedi newid trefn gwleidyddiaeth Unoliathol.
Cath Ddu
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1963
Ymunwyd: Iau 22 Gor 2004 2:23 pm

Postiogan GT » Iau 10 Maw 2005 12:41 am

Cath Ddu a ddywedodd:
GT a ddywedodd:
Cath Ddu a ddywedodd:
GT a ddywedodd:51.72%


Ar sail hyn fe fyddwn yn dyfalu mae dal eu tir wnaeth SF yn 2004. Be ti'n feddwl?


'Dwi ddim yn meddwl y gellir bod yn siwr.

Fel mater o ddiddordeb syrthiodd pleidlais yr SDLP o 17% i 15.9% rhwng 03 a 04, cynyddodd pleidlais y DUP o 25.6% i 32% a cwympodd pleidlais yr UUP o 22.7% i 16.6%.

Yn amlwg roedd y canlyniadau yn well i'r DUP a SF, ac mae'n awgrymu bod y gogwydd tymor canolig yn parhau.


Anodd cytuno - fe gollodd yr SDLP John Hume. Dan yr amgylchiadau y syndod efallai oedd na wasgwyd hwy yn bellach. Efallai fod y canlyniad yn datgan gwirioneddau am y DUP - on gwell gennyf aros hyd etholiad 2005 cyn datgan os yw Pisley wedi newid trefn gwleidyddiaeth Unoliathol.


Collwyd Hume yn 03 cofier. Ni safodd yn Foyle ar gyfer etholiadau'r cynulliad.

'Dwi'n meddwl y bydd y DUP yn cryfhau eu gafael ar yr etholaeth Unoliaethol, ac mae'n bosibl na fydd seddi ar ol gan yr UUP ag eithrio De Belffast (ac mae pwysau yma o gyfeiriad yr SDLP - byddai adfywiad i'r SDLP yn ddrwg iddynt hwy yma) ac erwau goludog Gogledd Down.

Ond fel y dywedi, amser a ddengys.
A great man. He could have been Pope!
Blog Menai
Gwasanaeth i'r Gymuned
Rhithffurf defnyddiwr
GT
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2774
Ymunwyd: Maw 20 Ion 2004 11:35 pm
Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Dylan » Iau 10 Maw 2005 12:31 pm

Ydi'r IRA yn byw ar rhyw blaned arall bellach neu be'? Mae'r cynnig yma yn hollol chwerthinllyd, ac yn cadarnhau'r argraff mai'r cwbl ydynt bellach ydi siwdo-gangstars ceiniog a dimau. Ffyliaid gwirion. Mae'u hamser nhw wedi hen hen fynd.
Rhithffurf defnyddiwr
Dylan
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3282
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 7:59 pm
Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Caernarfon

Nôl

Dychwelyd i Materion Prydain

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 39 gwestai