Ym Mawrth 1992 roedd y polau yn dangos ar gyfartaledd bod Llafur ar y blaen o 5%. Ar y diwrnod enilliodd y Toriaid o 7.6% cwymp o 12.6% i Lafur.
Ym Mawrth 1997 roedd y polau ar gyfartaledd yn dangos Llafur ar y blaen o 27%. Ar Fai 1 roeddynt ar y blaen o 13%, gostyngiad o 14%.
Yn Ebrill 2001 roedd Llafur ar y blaen o gyfartaledd o 19.6%. Y bleidlais ar Fehefin 7 oedd 9.3% - cwymp o 13.6%.
'Roedd y pol diwethaf yn eu rhoi nhw ar y blaen o tua 6%. Rwan 'dwi ddim yn meddwl eu bod nhw am golli o 8% fel y byddai'r ffigyrau uchod yn awgrymu. Ond hwyrach y bydd oriau man y bore Mai 6 yn fwy diddorol na mae fawr neb yn ei dybio.