Taflu allan o'r senedd dros y gwir

Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri

Cymedrolwr: Mr Gasyth

Rheolau’r seiat
Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri, Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Ray Diota » Gwe 18 Maw 2005 9:57 am

Treforian a ddywedodd:Rhaid i'r blaid gadw'u gafael ar y boi yma.
Gwych iawn, llongyfarchiadau iddo fo.


Lle ma fe'n mynd i fynd? :?
Partner newydd Capten Beany?

Get in there Mistar Preis!
iaaasu moses!
Rhithffurf defnyddiwr
Ray Diota
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4570
Ymunwyd: Gwe 19 Rhag 2003 3:52 pm
Lleoliad: Bow Street: It's like armageddon!

Postiogan Mr Gasyth » Gwe 18 Maw 2005 10:34 am

Doedd dim byd am hyn ar newyddion neihiwr, na hyd yn oed Wales Today.
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Postiogan Hogyn o Rachub » Gwe 18 Maw 2005 12:23 pm

Da iawn wir, ond mae'n rhaid i'r Blaid dropio hyn efo rhyfel Irac. Sori, ond dydi cwyno amdano ddim am ennill lot o bleidleisiau. Fydda'n well gen i'n ei weld yn cael ei daflud allan mewn dadl am addysg neu'r iaith neu pwerau ychwanegol neu iechyd.

Sori fod yn annifyr, ond dyna fy marn onast i.
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Y Rachub Rydd Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4939
Ymunwyd: Gwe 25 Hyd 2002 7:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub

Postiogan Hedd Gwynfor » Gwe 18 Maw 2005 12:33 pm

Hogyn o Rachub a ddywedodd:Da iawn wir, ond mae'n rhaid i'r Blaid dropio hyn efo rhyfel Irac. Sori, ond dydi cwyno amdano ddim am ennill lot o bleidleisiau. Fydda'n well gen i'n ei weld yn cael ei daflud allan mewn dadl am addysg neu'r iaith neu pwerau ychwanegol neu iechyd.

Sori fod yn annifyr, ond dyna fy marn onast i.


Od. ddaeth Saes o'r pentref ataf ddou a dweud y byddai'n pleidleisio dros Blaid Cymru am y tro cyntaf erioed, oherwydd gwrthwynebiad y Blaid i Rhyfle Irac. Roedd wedi plesio'n arw gyda Adam Price a Dafydd Iwan ddywedodd. Ond wrth gwrs dyw hyn ddim yn brawf naill ffordd neu'r llall, ond fi'n credu ei fod yn bendant YN issue ymysg y bobl!
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Postiogan Mr Gasyth » Gwe 18 Maw 2005 12:36 pm

Hogyn o Rachub a ddywedodd:Da iawn wir, ond mae'n rhaid i'r Blaid dropio hyn efo rhyfel Irac. Sori, ond dydi cwyno amdano ddim am ennill lot o bleidleisiau. Fydda'n well gen i'n ei weld yn cael ei daflud allan mewn dadl am addysg neu'r iaith neu pwerau ychwanegol neu iechyd.

Sori fod yn annifyr, ond dyna fy marn onast i.


Cytuno, hen hasnes ydi Rhyfel Irac bellach a ni fydd pobl yn pleidleisio arno yn yr etholiad.

Rhaid i'r Blaid symyd ymlaen.
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Postiogan Iesu Nicky Grist » Gwe 18 Maw 2005 1:16 pm

Hedd Gwynfor a ddywedodd:
Hogyn o Rachub a ddywedodd:Da iawn wir, ond mae'n rhaid i'r Blaid dropio hyn efo rhyfel Irac. Sori, ond dydi cwyno amdano ddim am ennill lot o bleidleisiau. Fydda'n well gen i'n ei weld yn cael ei daflud allan mewn dadl am addysg neu'r iaith neu pwerau ychwanegol neu iechyd.

Sori fod yn annifyr, ond dyna fy marn onast i.


Od. ddaeth Saes o'r pentref ataf ddou a dweud y byddai'n pleidleisio dros Blaid Cymru am y tro cyntaf erioed, oherwydd gwrthwynebiad y Blaid i Rhyfle Irac. Roedd wedi plesio'n arw gyda Adam Price a Dafydd Iwan ddywedodd. Ond wrth gwrs dyw hyn ddim yn brawf naill ffordd neu'r llall, ond fi'n credu ei fod yn bendant YN issue ymysg y bobl!


Ffacinhel bois, ma'r rhyfel dal yn bwnc llosg, a diolch byth bo gwleidyddion fel Mr Price yn bodoli. Ma'n ddyn dewr i fedru herio'r agenda wleidyddol Brydeinig, lle ma hanes o fwynhau celu'r gwir a brwsho cachu dan y mat, gan geisio dileu'r atgof o fomio'r shit mas o foreigners du. Ma' Mr Price eisiau sicrhau bod pwrpas i'w swydd, a bod e'n ran o system sy'n gyfiawn, cyfartal ac atebol. Ma'n ffacin ridicilys mai ef yw'r "loose cannon" yn "herio" Blair yn y wasg hynod ddi-ragfarn. Tr'eni bod e'n ran o leiafrif yn San Steffan.
Yn enw'r Tad, y Mab, a Juha Kankkunen
Rhithffurf defnyddiwr
Iesu Nicky Grist
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2744
Ymunwyd: Iau 08 Ebr 2004 10:27 am
Lleoliad: sied go'd

Postiogan Ray Diota » Gwe 18 Maw 2005 1:28 pm

Hogyn o Rachub a ddywedodd:Da iawn wir, ond mae'n rhaid i'r Blaid dropio hyn efo rhyfel Irac. Sori, ond dydi cwyno amdano ddim am ennill lot o bleidleisiau. Fydda'n well gen i'n ei weld yn cael ei daflud allan mewn dadl am addysg neu'r iaith neu pwerau ychwanegol neu iechyd.

Sori fod yn annifyr, ond dyna fy marn onast i.


Dwi'n deall dy bwynt di'n iawn... ond, o ran ennill fôts, dwi'n meddwl bod PC a Price yn iawn i barhau â hyn...

1) dwi'n meddwl bod y drwgdeimlad am ymddygiad Blair a'r Rhyfel yn gryfach, ac yn fwy o vote-winner, ymysg sosialwyr De Cymru nag unrhywle arall ym Mhrydain...

2) os dechre... ma raid i ti weld y jobyn trwyddo i'r pen... shwt se fe'n edrych se ni'n gadel iddo fe fynd nawr...

3) ma fe'n sylw yn y cyfryngau 'Prydeinig' na fydde Price na PC yn ei gael fel arall...
iaaasu moses!
Rhithffurf defnyddiwr
Ray Diota
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4570
Ymunwyd: Gwe 19 Rhag 2003 3:52 pm
Lleoliad: Bow Street: It's like armageddon!

Postiogan Hogyn o Rachub » Gwe 18 Maw 2005 2:15 pm

Dw i'm yn meddwl bod o'n vote-winner o gwbl, a dw i'n dueddol o feddwl bydd pobl yn meddwl bod y Blaid yn fod yn rhy 'opportunistic' yn hnyn o beth, a dydw i'm yn meddwl ei fod yn bwnc llosg pan mae'n dod i etholiad ac ennill pleidleisiau.

Dw i'n meddwl fyddan well gan bobl ein gweld ni'n siarad am iechyd ac addysg a tai fforddiadwy yn hytrach na gweld AP yn cael ei daflud allan o'r siambr am ryfel Irac.

Gan ddweud hynny, WRTH GWRS y dylem ni o hyd ddatgan ein gwrthwynebiad i'r rhyfel, ond dylan ni ganolbwyntio ar bethau eraill yn fwy.
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Y Rachub Rydd Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4939
Ymunwyd: Gwe 25 Hyd 2002 7:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub

Postiogan Garnet Bowen » Gwe 18 Maw 2005 2:20 pm

Hogyn o Rachub a ddywedodd:Da iawn wir, ond mae'n rhaid i'r Blaid dropio hyn efo rhyfel Irac. Sori, ond dydi cwyno amdano ddim am ennill lot o bleidleisiau. Fydda'n well gen i'n ei weld yn cael ei daflud allan mewn dadl am addysg neu'r iaith neu pwerau ychwanegol neu iechyd.

Sori fod yn annifyr, ond dyna fy marn onast i.


Paid a ymddiheuro am ddeud dy farn. Ella bod mwyafrif aelodau'r maes yn anghytuno, ond dwn i ddim pam mor gynrychioladol ydy nhw o etholwyr Cymru. Dwi'n siwr yr enillith y blaid ambell i bleidlais brotest, ond ar pa gost? Taswn i'n etholwr yng ngorllewin Caerfyrddin, mi fyswn i'n gofyn cwestiynnau difrifol am ymgyrch Adam Price. Faint o waith dros ei etholaeth fydda fo wedi medru ei wneud efo'r amser a'r adnoddau mae o wedi eu defnyddio yn trio - ac yn methu - uchelgyhuddo Blair?

Ac ar lefel genedlaethol, mae ymgyrch Adam Price yn atgyfnerthu y ddelwedd o Blaid Cymru fel plaid sy'n poeni am bob dim ond Cymru. Efo rhyw fymrun o waith caled, ac ymgyrch wedi ei thargedu at y bobl iawn, fe allai Plaid Cymru enill buddugoliaeth hanesyddol eleni - cadw'r 4 sedd bresenol, ac adenill Mon, gan roi'r canlyniad gora erioed iddyn nhw. Oni fyddai hi wedi bod yn well tasa Adam wedi canolbwyntio ar hyn dros y flwyddyn dwytha, yn hytrach na'r ymgyrch yn erbyn y rhyfel?
Rhithffurf defnyddiwr
Garnet Bowen
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2085
Ymunwyd: Mer 29 Hyd 2003 11:45 am
Lleoliad: Y Fro Gymraeg

Postiogan Iesu Nicky Grist » Gwe 18 Maw 2005 2:38 pm

Hogyn o Rachub a ddywedodd:Dw i'm yn meddwl bod o'n vote-winner o gwbl, a dw i'n dueddol o feddwl bydd pobl yn meddwl bod y Blaid yn fod yn rhy 'opportunistic' yn hnyn o beth, a dydw i'm yn meddwl ei fod yn bwnc llosg pan mae'n dod i etholiad ac ennill pleidleisiau.

Dw i'n meddwl fyddan well gan bobl ein gweld ni'n siarad am iechyd ac addysg a tai fforddiadwy yn hytrach na gweld AP yn cael ei daflud allan o'r siambr am ryfel Irac.

Gan ddweud hynny, WRTH GWRS y dylem ni o hyd ddatgan ein gwrthwynebiad i'r rhyfel, ond dylan ni ganolbwyntio ar bethau eraill yn fwy.


Ti'n colli'r pwynt. Fi'n deall "rheolau" gwleidyddiaeth ym Mhrydain, a'r "ras am bleidleisiau" ond dyma'n bwynt i - ma bois fel Mr Price yn ceisio newid llawer mwy na just atgoffa pobl o'n rhyfel d'wetha (bydd mwy, paid poenu), ma'n ceisio gwedd newid agwedd dinasyddion at ddemocratiaeth - sy'n uffarn o job heb help gwasg ffyddlon Blair. Medrwn ni ddim anwybyddu rhyfel Irac oherwydd bod etholiad yn dod lan - dyle fe fod i'r gwrthwyneb, fel ma Adam yn ceisio'i wneud. Fi'n deall dy bwynt di hefyd, taw edrych ar bolisiau cartref yw'r nod adeg etholiad cyffredinol, ac wy finne'n credu 'ny hefyd - ma angen trafodaethau call a rhesymegol arnom, ond ma'n rhaid cofio bod y rhyfel yn ymwneud a'n gwleidyddiaeth ni ym Mhrydain - ma fe'n codi cwestiynnau sylfaenol am ein democratiaeth. Na, sain gweld e'n dod yn briff focus i'r etholiad achos ma'r Blaid Lafur 'da'r cyfrynge tu ol nhw, ond ma'n dda bo AP yn sefyll yn gadarn yn ol ei eirie. Ffac, gwleidydd sy'n meddu ar foese...ma gobeth bo CADW'n rhoi grant i'r ffycar prin.
Yn enw'r Tad, y Mab, a Juha Kankkunen
Rhithffurf defnyddiwr
Iesu Nicky Grist
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2744
Ymunwyd: Iau 08 Ebr 2004 10:27 am
Lleoliad: sied go'd

NôlNesaf

Dychwelyd i Materion Prydain

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 31 gwestai