Taflu allan o'r senedd dros y gwir

Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri

Cymedrolwr: Mr Gasyth

Rheolau’r seiat
Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri, Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Ti 'di beni? » Maw 22 Maw 2005 11:09 am

Garnet a ddywedodd:Mae'n siwr bod cael Prif Weinidog fel aelod seneddol yn eithaf cachu. Tydi o byth yn mynd i gynnal syrjyri er mwyn gwrando arna chdi'n cwyno am y speed bumps tu allan i'r ty, nacdi?


Anhebyg iawn. Mae gan TB ddyletswydd i'w etholwyr, felly mae rhaid iddo gynnal syrjyris a ymateb i lythyrau.

Hefyd, bydd lythyr gan y PM i'r cyngor lleol am speed bumps yn cael ymateb dipyn cyflymach na llythyr gan AS di nod, ti'm yn meddwl?

Mantais yw cael gweinidog fel AS, yn sicr.

Beni
Rhithffurf defnyddiwr
Ti 'di beni?
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 315
Ymunwyd: Sul 21 Maw 2004 4:09 pm
Lleoliad: Arnofio yn y bae...

Postiogan Griff-Waunfach » Mer 23 Maw 2005 7:08 pm

Garnet Bowen a ddywedodd:
Griff-Waunfach a ddywedodd:
Garnet Bowen a ddywedodd: Taswn i'n etholwr yng ngorllewin Caerfyrddin, mi fyswn i'n gofyn cwestiynnau difrifol am ymgyrch Adam Price. Faint o waith dros ei etholaeth fydda fo wedi medru ei wneud efo'r amser a'r adnoddau mae o wedi eu defnyddio yn trio - ac yn methu - uchelgyhuddo Blair?


Dweden i braidd dim gan mai dwyrain caerfyrddin i'w ei etholaeth ef ac nid orllewin caerfyrddin (sedd Nick Ainger, Llafur)


Ymddiheuriadau lu. Wnai byth gangymeriad mor dwp eto.


Gwd!
Rhithffurf defnyddiwr
Griff-Waunfach
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 940
Ymunwyd: Mer 03 Maw 2004 11:28 am
Lleoliad: Aberystwyth

Postiogan gronw » Mer 23 Maw 2005 9:18 pm

Garnet Bowen a ddywedodd:Taswn i'n etholwr yng ngorllewin Caerfyrddin, mi fyswn i'n gofyn cwestiynnau difrifol am ymgyrch Adam Price. Faint o waith dros ei etholaeth fydda fo wedi medru ei wneud efo'r amser a'r adnoddau mae o wedi eu defnyddio yn trio - ac yn methu - uchelgyhuddo Blair?

Mae llawer iawn o aelodau seneddol yn gweithio fel "ymgynghorydd" rhan amser a "rheolwr busnes" rhan amser, pob math o bethe "rhan amser" am lot o arian sydd ddim byd i neud gyda'u gwaith fel cynrychiolydd honedig y bobl, nac er lles i neb ond eu poced nhw'u hunain. O leiaf mae Adam Price yn gweithio dros yr hyn mae e - a llawer iawn o bobl eraill - yn meddwl sy'n hollbwysig i lywodraeth yng ngwledydd Prydain a dyfodol y Byd.
Rhithffurf defnyddiwr
gronw
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1397
Ymunwyd: Mer 03 Rhag 2003 7:12 pm

Postiogan Hedd Gwynfor » Mer 23 Maw 2005 10:20 pm

Mae Adam yn gwbod yn iawn sut i gael sylw'r cyhoedd yn y sir. Yn y Carmarthen Journal heddiw, roedd ganddo erthygl gyfan ynglyn a'r gyllideb:

YMA

Roedd hefyd stori da ar y ffaith iddo gael ei daflu allan o San Steffan:

YMA
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Nôl

Dychwelyd i Materion Prydain

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 44 gwestai