Diweithdra oherwydd technoleg

Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri

Cymedrolwr: Mr Gasyth

Rheolau’r seiat
Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri, Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Diweithdra oherwydd technoleg

Postiogan Dielw » Mer 23 Maw 2005 8:44 pm

Yden ni am gyrraedd sefyllfa rwbryd lle bod pawb yn ddiwaith achos bod technoleg yn gallu gwneud popeth? Pwy fasa'n rheoli'r cyfoeth?
One day this chalk outline will circle this city

Survival... Recovery... Prevention la la la
Rhithffurf defnyddiwr
Dielw
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 960
Ymunwyd: Iau 30 Hyd 2003 4:08 pm
Lleoliad: heheheee... urgh

Postiogan lleufer » Mer 23 Maw 2005 8:56 pm

Mae'n rhaid bod rhywun ar gael i greu, cynnal a rheoli'r dechnoleg, hefyd bosib bydd wastad garfan o'r gymdeithas na all fforddio byw ar y dechnoleg, yna bydd carfan yn siwr o fod yn troi eu cefn ar y dechnoleg a gwrthod ei ddefnyddio fel rhan o'u bywydau pob dydd...

Falle bydd popeth yn troi o gwmpas a byddwn i gyd yn mynd yn ol at y 'Good Life' hunan gynhaliol syml di-dechnoleg...wn im,

Mae'n beth anodd i'w broffwydo.
<a href="http://www.flickr.com/photos/lleufer"> FLICKRO! </a>
Rhithffurf defnyddiwr
lleufer
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 413
Ymunwyd: Llun 13 Medi 2004 5:32 pm
Lleoliad: Uwchlaw Bae Ceredigion

Postiogan dafydd » Mer 23 Maw 2005 9:34 pm

Does dim un technoleg sydd yn bodoli er mwyn ei bwrpas ei hunan, na fase'n cynnal ei hun chwaith.

Un o brif bwrpasau technoleg yw cefnogi gwaith (o bob math). Os oedd neb yn gweithio fase dim angen y dechnoleg yn y lle cynta (sgil-effaith yw defnyddio technoleg ar gyfer hamdden). Ac os yw natur gwaith yn newid mi fydd pobl yn ffeindio pethau newydd i wneud. Er enghraifft mae cyflogaeth y diwydiant amaeth wedi disgyn yn ngwledydd dwyreiniol o dros 50% i tua 2% dros gan mlynedd er fod y boblogaeth wedi cynyddu - ond dyw 48% o'r boblogaeth ddim ar y dôl.
Rhithffurf defnyddiwr
dafydd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2146
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:21 pm
Lleoliad: Anfeidredd

Re: Diweithdra oherwydd technoleg

Postiogan Realydd » Mer 23 Maw 2005 11:11 pm

Dielw a ddywedodd:Yden ni am gyrraedd sefyllfa rwbryd lle bod pawb yn ddiwaith achos bod technoleg yn gallu gwneud popeth? Pwy fasa'n rheoli'r cyfoeth?


Robotiaid. Fe gymra nhw drosodd y byd oddi ar bobl. Fydd nhw'n llawer mwy clefer na ni.
Realydd
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1779
Ymunwyd: Maw 08 Meh 2004 1:20 pm


Dychwelyd i Materion Prydain

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 43 gwestai