Wnaeth yna unrhyw un ddarllen am y boi yna gafodd flwyddyn o garchar am dwyllo'r DHSS? Eto mae twyllo'r awdurdodau treth yn fwy o broblem o lawer o ran faint o bres a gollir i'r canghellor. Eto pam mor aml y byddwn yn clywed am dwyllwr treth yn cael ei garcharu.
'Rwan, 'dwi'n deall mai pobl busnes ydi mwyafrif llethol y twyllwyr hyn ac mae rhywun (fyddai hi ddim yn deg ei enwi cofiwch) wedi dweud wrthyf bod y rhan fwyaf o'r rhain yn cefnogi'r Toriaid. Ymhellach mae unig gefnogwr y blaid Geidwadol (bellach) ar y fforwm hwn wedi dod yn agos iawn at dorri'r deddfau hil tros y ddeuddydd diwethaf.
Eironig braidd bod cymaint o gefnogwyr plaid 'cyfraith a threfn' yn ei chael mor hawdd i dorri'r gyfraith eu hunain.