Yn dilyn helynt y Blaid Lafur yr wyhtnos diwethaf dwi'n meddwl fod Brown wedi colli ei gyfle i fod yn Brif Weinidog. Yn amlwg dyw Blair ddim isho fe i gymryd yr awennau a sai'n beio fe - Os taw Gordon Brown a fyddai wedi cymeryd drosodd y Blaid Lafur nol yn 1994 byddde fe byth di para mor hir a hyn ac efallau bydden ni'n styc da Iain Duncan Smith neu Michael Howard fel Prif Weinidog.
Dyw Brown ddim y person iawn i fod yn 'Brif Weinidog' ac ma Blair yn gwbod hyn a dyna pam mae'n ceisio aros mor hir a galle fe i aros tan fod rhywun gwell yn dod i'r brig i rhoi sialens iawn i Brown.
O ran Tony Blair ma da fe berffaith hawl i ddal ymlaen mor hir a ma fe moen - fe yw'r Prif Weindog Llafur mwy llwyddiannus erioed, fe lwyddodd i ddal mlaen i bwer am 3 etholiad cyffredinol. Efallau dyle fe fod wedi ymateb tebyg i beth nath John Major nol yn 1995 "Put up, or shut up". Neu ar y llaw arall jyst dweud ffwcio chi gyd ac ymddiswyddo yn y fan a'r lle