Cardi Bach a ddywedodd:Cath Ddu a ddywedodd:Cardi Bach a ddywedodd:Beth fyddai eich polisi wedyn ar drethu eraill megis Capital Gains, 'interest' banc, ayb?
Mae hyn yn ddatblygiad ar y syniad o gyfiawnder cymdeithasol.
Wy ddim yn nodi yma mod i o blaid neu yn erbyn y flat rate, ond mae'n ddibynol ar y trethu eraill.
Yng Ngwlad Pwyl mae'r holl drethi wedi ei rhoi ar yr un gyfradd. Felly treth incwm o 18%, TAW o 18%, Treth Gorfforaeth o 18%.
Mae llóg banc eisioes yn cael ei drin fel rhan o dy incwm felly bid yw'r pwynt hwn yn codi.O ran Capital Gains (ti'n mynd i licio hyn) ond mae' dreth hon yn tax break i'r cyfaethog. Mae modd gwneud taxable gain o £8,000 y flwyddyn heb dalu treth - esiampl arall o'r system bresennol yn cosbi'r tlawd a gwobrwyo'r cyfaethog. Dylid trethu capital gain yn yr un modd ar flat tax ar incwm.
O'n i'n meddwl mai £6,000 oedd y capital gains? Ond semantics yw hynny.
O ran llog banc, o'n i dan yr argraff mai'r unig arian oedd yn exempt oed pethau fel ISA's ac fod llog ar mwy nag un cyfrif yn cael ei drethu. Allen i fod yn rong - dyw safio arian ddim yn un o'n gryfdere i
Off top fy mhen £8,100 yw'r lefel lle ti'n cychwyn talu Capital Gains tax yn flynyddol. Gall cwpwl cyfaethog a chlyfar dderbyn £16,200 yn flynyddol yn hollol rhydd o unrhyw dreth - a hynny dan y system honedig deg bresennol.
Ti'n camddeall fy mhwynt re. llogau banc. Dweud oeddwn i (gweler y bold) fod llog banc yn cael ei drin fel rhan o dy incwm ac felly eisioes yn cael ei drethu fel rhan o dy incwm - felly fe fyddai'n synhwyrol fod y llog hwn yn rhan o'r dreth ti'n dalu dan flat tax. Fe fyddai ISA's ar holl tax exempt savings yn mynd gan fod treth flat yn isel ac yn rhesymol ni fyddai angen annog pobl i safio. Ar hyn o bryd tax breaks i'r cyfforddus ei byd yw ISA'a ayb
Erthygl ddifyr yn y Telegraph eto heddiw - ti'n talu mwy o gyfraniadau YG fel canran o dy gyflog os yn ennill £30,000 y flwyddyn na'r hyn ti'n dalu o ennill £60,000. Mae rhywun sy'n derbyn cyflog o £100,000 yn talu canran llai fyth. Byddai ffwlbri o'r math hwn hefyd yn diflannu gyda 'flat tax'.