Treth 'Flat Rate'

Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri

Cymedrolwr: Mr Gasyth

Rheolau’r seiat
Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri, Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Cardi Bach » Iau 12 Mai 2005 4:13 pm

Cath Ddu - o ran diddordeb, ac ymddiheuriadau os wyt ti wedi dweud hyn yn rhywle, ond ar ba lefel o incwm y byddet ti'n gosod treth 'flat rate'? yn enwedig a dy fod ti'n son am gyfiawnder cymdeithasol.
Rhithffurf defnyddiwr
Cardi Bach
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 2694
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 7:54 am
Lleoliad: Gal

Postiogan Realydd » Iau 12 Mai 2005 4:18 pm

jac a ddywedodd:Medraf gytuno gyda rai o dy awgrymiadau ynglyn a sut i wella economi Cymru ond 'flat rate tax'!! Beth yn union wyt ti'n awgrymu - fod pawb yn talu'r un lefel o dreth incwm? Os felly dwi'n cymryd nad wyt ti yn credu yn y cysyniad o gyfiawnder cymdeithasol.

Fel dwi'n deall mae flat rate yn golygu fydd llawer o bobl ddim yn talu treth incwm o gwbl gan fod o ond yn cychwyn o ryw lefel arbennig. Fedra i ddim gweld dim byd mwy teg na fod pawb yn talu'r un gyfradd o dreth incwm- mae person ar £50,000 yn mynd i gyfrannu llawer mwy o dreth mewn termau absoliwt ar dreth wastad na person ar £20,000 beth bynnag felly pam y dyhead yma o hyd i gosbi pobl sydd wedi gweithio'n galed i gyraedd swyddi mwy cyfrifol?
Realydd
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1779
Ymunwyd: Maw 08 Meh 2004 1:20 pm

Postiogan S.W. » Iau 12 Mai 2005 4:25 pm

Realydd a ddywedodd:

Felly ydw in iawn i feddwl bydd llai o arian cyhoddus ar gael? Felly beth fydd yn digwydd i bethau fel y GIG? Bydd yn rhaid i pobl dalu am wasanaeth preifat? Os oes yn rhaid iddynt wario ar rhywbeth preifat beth fydd pwynt yr holl arbedion ma oherwydd ni fyddant mewn gwirionedd yn bodoli?

A Cath Ddu, holi dwi am y Treth Raddfa 'FFlat' ma gan nad ydw in ei ddallt on iawn. Nid bod yn dwp nag yn naddoglyd! :rolio:
Rhithffurf defnyddiwr
S.W.
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3262
Ymunwyd: Sad 15 Tach 2003 11:02 am

Postiogan Cardi Bach » Iau 12 Mai 2005 4:29 pm

Realydd a ddywedodd:
jac a ddywedodd:Medraf gytuno gyda rai o dy awgrymiadau ynglyn a sut i wella economi Cymru ond 'flat rate tax'!! Beth yn union wyt ti'n awgrymu - fod pawb yn talu'r un lefel o dreth incwm? Os felly dwi'n cymryd nad wyt ti yn credu yn y cysyniad o gyfiawnder cymdeithasol.

Fel dwi'n deall mae flat rate yn golygu fydd llawer o bobl ddim yn talu treth incwm o gwbl gan fod o ond yn cychwyn o ryw lefel arbennig. Fedra i ddim gweld dim byd mwy teg na fod pawb yn talu'r un gyfradd o dreth incwm- mae person ar £50,000 yn mynd i gyfrannu llawer mwy o dreth mewn termau absoliwt ar dreth wastad na person ar £20,000 beth bynnag felly pam y dyhead yma o hyd i gosbi pobl sydd wedi gweithio'n galed i gyraedd swyddi mwy cyfrifol?

Dyna wy'n gofyn Realydd - ar ba lefel 'arbennig' y bydd y dreth yn dechre?
Bydd yr ateb yn ddiddorol i weld pa mor 'gyfiawn' yw 'cyfiawnder cymdeithasol' Cath Ddu (nid mod i wedi fy argyhoeddi fod flat rate yn gyfiawn).
Pa lefel bydde ti Realydd yn gosod y flat rate?
Rhithffurf defnyddiwr
Cardi Bach
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 2694
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 7:54 am
Lleoliad: Gal

Postiogan Mr Gasyth » Iau 12 Mai 2005 4:32 pm

Cardi Bach a ddywedodd:Pa lefel bydde ti Realydd yn gosod y flat rate?

Ar ba bynnag lefel bydd Cath Ddu yn ddweud dybien i :winc:
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Postiogan huwwaters » Iau 12 Mai 2005 4:40 pm

Mae'n annheg iawn codi 'flat rate' ar bobl.

Fel dwi'n deall mae flat rate yn golygu fydd llawer o bobl ddim yn talu treth incwm o gwbl gan fod o ond yn cychwyn o ryw lefel arbennig. Fedra i ddim gweld dim byd mwy teg na fod pawb yn talu'r un gyfradd o dreth incwm- mae person ar £50,000 yn mynd i gyfrannu llawer mwy o dreth mewn termau absoliwt ar dreth wastad na person ar £20,000 beth bynnag felly pam y dyhead yma o hyd i gosbi pobl sydd wedi gweithio'n galed i gyraedd swyddi mwy cyfrifol?

Mae'n sbwriel llwyr fod pobl sydd efo cyflog mwy yn golygu eu bod yn gweithio'n galetach? Be am athrawon? Eu cyflog cychwyn fel rheol mewn ysgol uwchradd yw tua £18,000, ond wrth iddynt fynd yn hyn neu fynd yn bennaeth gall gynyddu at £35,000? Dylai athro weithio yr un mor galed a'r llall? Y gwahaniaeth mewn cyflog? Cyfrifoldeb neu modd o gadw staff.

Mae'r ffaith bod na lot o bobl ar nawdd-cymdeithasol ddim yn golygu y dylid cael gwared ohono, ond addysgu pobl yn fwy diwylliedig fel eu bod efo breuddwydion ac amcanion mewn bywyd, i wneud rhywbeth o'u hunain. Byddai hyn felly yn arwain, at fwy o bobl eisiau gweithio i GIG ac yn y blaen.

Dwi di deud o blaen ar y Maes. Addysg yw gwraidd popeth. Sortiwch hwne allan, a mi wnewch chi sortio problemau'r wlad fwy neu lai.
Huw
Rhithffurf defnyddiwr
huwwaters
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2850
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 9:16 pm

Postiogan Hedd Gwynfor » Iau 12 Mai 2005 4:54 pm

Wps. Edefyn anghywir sori :wps:
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Postiogan SbecsPeledrX » Iau 12 Mai 2005 5:04 pm

Hedd Gwynfor a ddywedodd:Dwi'n amau fod y polisi yma yn mynd yn erbyn Deddf yr Iaith gymraeg. Byddai modd i ti ddanfon unrhyw ohebiaeth ymlaen at Dafydd Morgan Lewis yn swyddfa'r gymdeithas. Wnai drefnu fod y gymdeithas yn cysylltu gyda'r Cyngor hefyd, ac efallai trefnu ychydig o gywiro :winc: os na fyddant yn gwrando. Efallai byddai'n syniad hefyd i ti gysylltu gyda Bwrdd yr iaith ynglyn a hyn!

Be? :?
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
SbecsPeledrX
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 3057
Ymunwyd: Llun 13 Ion 2003 12:32 pm
Lleoliad: Treffynnon

Postiogan Realydd » Iau 12 Mai 2005 5:35 pm

huwwaters a ddywedodd:Mae'n sbwriel llwyr fod pobl sydd efo cyflog mwy yn golygu eu bod yn gweithio'n galetach?

Rydw i'n cydnabod fod rhai pobl weithiau mewn swyddi dydyn nhw just ddim yn ei haeddu- felly mae diffyg meritocratiaeth yn bodoli ac mae'n waeth mewn rhei gweithfeydd nac eraill. Pwy ti'n nabod/faint o bs ti'n siarad NID beth ti'n wybod/pa mor ddawnus sy'n catapultio rhai pobl i swyddi sy'n bell o'u gallu personol. Mae enghreifftiau lu o hyn yn digwydd o fewn ardaloedd Cymraeg a rhai maesydd yn waeth na'i gilydd- y cyfryngau a awdurdodau lleol yn eitha drwg am hyn medde nhw. Jobs for the boys ac ati.

Er fod marc cwestiwn mawr dros sut mae rhai pobl yn cael eu dyrchafu mewn rhai gweithfeydd, rydw i'n dal y gobaith mai yn y mwyafrif o achosion fod pobl yn cael eu dyrchafiad yn haeddianol.

Beth bynnag dwi'n meddwl fod ni'n mynd oddi ar y trywydd rwan. Mae nifer fawr o bobl sydd ar gyflogau da e.e. doctoriaid, deintyddion, cyfreithwyr, cyfrifwyr, milfeddygon etc. wedi cyraedd lle mae nhw ar ol gweithio'n galed dros nifer o flynyddoedd a mae'n drist gweld fod sosialwyr ein cymdeithas yn mynnu cosbi'r gwaith caled yma hefo trethi. Treth wastad yw'r ffordd deg o drethu incwm- pawb yn talu'r un %.
Realydd
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1779
Ymunwyd: Maw 08 Meh 2004 1:20 pm

Postiogan Realydd » Iau 12 Mai 2005 5:45 pm

Cardi Bach a ddywedodd:Pa lefel bydde ti Realydd yn gosod y flat rate?

Mae ymchwil gan yr Adam Smith Institute yn dweud y byddai treth wastad o 22% ar incwm o £12,000 i fyny yn bosibl.

http://www.adamsmith.org/pdf/flattaxuk.pdf
Realydd
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1779
Ymunwyd: Maw 08 Meh 2004 1:20 pm

Nesaf

Dychwelyd i Materion Prydain

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 7 gwestai