Cath Ddu a ddywedodd:Difyr gweld Hedd yn camu'n ôl o'i ddadl ei hun, trio sgorio pwynt yn fy erbyn ac yna panic llwyr o weld diwedd y daith
Ddim yn dy ddeall yma! Dwi ddim o'r farn y dylai bod HAWL gan unigolyn i optio allan o drethi arbennig heb dderbyn y canlyniadau. Be fyddai hyn yn golygu i'r iaith Gymraeg? Mae Cymru Cymraeg yn unig fyddai'n gorfod talu am arwyddion dwyieithog? Byddai sefyllfa o'r fath yn sathru ar hawliau lleiafrifoedd yn llwyr!
Ar y llaw arall, dwi'n credu fod gan berson yr hawl i ddewis peidio talu treth arbennig os yw'n anghytuno'n chwyrn gyda polisi penodol (e.e. CDU Unedol Ceredigion neu Ryfel Irac) OND rhaid iddo dderbyn y canlyniadau wedyn!
Os ti'n timlo mor gryf dros hyn Cath, pam na ei di wrthod talu ffi y BBC, ac oblegyd gwynebu dirwy mawr neu garchar?
Hen Rech Flin a ddywedodd:Onid oes cytundeb i raddau rhwng gwleidyddiaeth craidd yr asgell de a gwleidyddiaeth craidd y cenedlaetholwr mae “hunan” lywodraeth ydy’r nod gan ddechrau efo’r hunan a bod ymyrraeth llywodraethol uwch yn dechrau ar y lefel isaf bosibl?
NA. Dyw hyn ddim yn rhan o fy nghenedlaetholdeb i! Mae gwleidyddiaeth yr asgell dde yn rhoi pwyslais ar yr unigolyn uwchben hawliau cymdeithas (boed hyn yn blwyf, sir neu wlad!), mae Cenedlaetholwyr yn rhoi pwyslais ar hawliau'r Gymdeithas h.y. hawl y Cymry i reoli eu buddiannau! Dwi'n cytuno gyda ti fod datganoli grym i'r lefel isaf o ran cymdeithas yn holl bwysig, ond nid i lefel yr unigolyn. Dyma lle mae'r gwahaniaeth sylfaenol yn bodoli!