BBC gyda bias 'leftie' - R.Oakley

Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri

Cymedrolwr: Mr Gasyth

Rheolau’r seiat
Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri, Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Mr Gasyth » Mer 18 Mai 2005 9:06 am

Realydd a ddywedodd:oh? Ges i'n ffeithiau o'r News of the World :wps:


ma hyn yn egluro lot fawr iawn
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Re: BBC gyda bias 'leftie' - R.Oakley

Postiogan Cath Ddu » Mer 18 Mai 2005 10:54 am

Sleepflower a ddywedodd:Achos mae teledu annibynnol yn gwbwl ddi-duedd.


Ddaru mi ddweud hyn?

Sleepflower a ddywedodd:A mae Sky News yn hollol ddi-duedd wrth gwrs.


Duw a wyr - dwi'n dewis peidio tanysgrifio

Sleepflower a ddywedodd:...ffyc off teledu annibynnol mai ars! Mae'n well gen i dalu trwydded teledu yn lle cael i smacio yn fy ngwyneb fel hynna.


Onid dyma'r pwynt? Dwi ddim yn hoff o New Labour Loving Murdoch felly dwi'n ymatal rhag tanysgrifio i Sky. Dwi ddim yn hoff o bias chwith y BBC - ond os nad wyf yn talu fy nhrwydded gallwn wynebu carchar. Ti'n dweud fod yn well gent ti dalu'r drwydded - sgen ti'm blydi dewis os am gael teledu.

Mae gan ITV, Sky a Fox yn yr UDA berffaith hawl i ddilyn agenda - maent yn byw yn y byd masnachol ac yn byw neu'n marw ar ei gallu i werthu tanysgrifiadau ac hysbysebion. Nid felly y BBC sy'n destun treth y pen ar berchnogion teledu ym Mhrydain. Os na all y BBC fod yn ddi-duedd yna pam ddylwn i orfod talu am agenda'r chwith i gael ei ddarlledu'n ddi-baid?
Cath Ddu
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1963
Ymunwyd: Iau 22 Gor 2004 2:23 pm

Postiogan Cath Ddu » Mer 18 Mai 2005 10:56 am

Mr Gasyth a ddywedodd:Pwy fase ti'n defnyddio fel pundits annibynnol yn lle DT, Dicw a'u tebyg ta?


Duw a wyr, ond mae defnyddio'r rhain + Dylan Iorweth fel pundits annibynol yn llai na chytbwys.
Cath Ddu
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1963
Ymunwyd: Iau 22 Gor 2004 2:23 pm

Postiogan Mr Gasyth » Mer 18 Mai 2005 11:13 am

Cath Ddu a ddywedodd:
Mr Gasyth a ddywedodd:Pwy fase ti'n defnyddio fel pundits annibynnol yn lle DT, Dicw a'u tebyg ta?


Duw a wyr, ond mae defnyddio'r rhain + Dylan Iorweth fel pundits annibynol yn llai na chytbwys.


Wel dyna ni ta. Rhain ydi'r prif arbenigwyr ar wleidydiaeth Cymru sy'n siarad Cymraeg, felly does gan y BBC fawr o ddewis ond eu defnyddio. Nid bai y BBC ydy fod y rhai sy'n gwybod fwyaf am wleidyddiaeth ddim yn gefnogol i'r Ceidwadwyr.

Dwi'n teimlo baridd dy fod yn sarhau proffesiynoldeb y bobl yma a staff y BBc hefyd efo dy gyhuddiadau ysgubol.
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Postiogan S.W. » Mer 18 Mai 2005 11:26 am

Mr Gasyth a ddywedodd:
Cath Ddu a ddywedodd:
Mr Gasyth a ddywedodd:Pwy fase ti'n defnyddio fel pundits annibynnol yn lle DT, Dicw a'u tebyg ta?


Duw a wyr, ond mae defnyddio'r rhain + Dylan Iorweth fel pundits annibynol yn llai na chytbwys.


Wel dyna ni ta. Rhain ydi'r prif arbenigwyr ar wleidydiaeth Cymru sy'n siarad Cymraeg, felly does gan y BBC fawr o ddewis ond eu defnyddio. Nid bai y BBC ydy fod y rhai sy'n gwybod fwyaf am wleidyddiaeth ddim yn gefnogol i'r Ceidwadwyr.

Dwi'n teimlo baridd dy fod yn sarhau proffesiynoldeb y bobl yma a staff y BBc hefyd efo dy gyhuddiadau ysgubol.


Cytuno Mr Gasyth.

Ac i fod yn ded Cath Ddu, o wylio'r etholiadau diwethaf cei di hi'n anodd ffeindio person sydd wedi bod yr un feirniadol o Blaid Cymru nag Richard Wyn Jones.

Byddai'n andros o anodd cael gafael ar neb sydd a'r un wybodaeth am wleidyddiaeth Cymreig a fo!
Rhithffurf defnyddiwr
S.W.
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3262
Ymunwyd: Sad 15 Tach 2003 11:02 am

Postiogan cyfrinair » Mer 18 Mai 2005 11:34 am

Aros funud nawr Cath - 'ma Rod Richards a Hywel Williams ill dau yn cael digon o ddefnydd da'r BBC.
Dewis anghofio am Rodfeilyr wyt ti? Embaras? :wps: :P
Er mwyn Cymru
Rhithffurf defnyddiwr
cyfrinair
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 141
Ymunwyd: Llun 01 Rhag 2003 7:56 pm
Lleoliad: fan hyn

Re: BBC gyda bias 'leftie' - R.Oakley

Postiogan Sleepflower » Mer 18 Mai 2005 11:43 am

Fi'n cydymdeimlo gyda Cath Ddu, er nad wyf yn cydymdeimlo gyda'i syniadau wleidyddol. Mae'r hyn wyt ti'n dweud fan hyn yn ddiddorol:

Cath Ddu a ddywedodd:Mae gan ITV, Sky a Fox yn yr UDA berffaith hawl i ddilyn agenda - maent yn byw yn y byd masnachol ac yn byw neu'n marw ar ei gallu i werthu tanysgrifiadau ac hysbysebion. Nid felly y BBC sy'n destun treth y pen ar berchnogion teledu ym Mhrydain. Os na all y BBC fod yn ddi-duedd yna pam ddylwn i orfod talu am agenda'r chwith i gael ei ddarlledu'n ddi-baid?


Digon teg, ond mae'n ddsgwyliedig i Katie Couric Fox News dweud

I just want to say, I think Navy SEALS rock!


Byddet ti'n disgwyl i Natasha Kaplinsky ddweud
I just want to say, I think Peace protestors rock!


Sai'n meddwl.

Ai'r broblem yn y bon yw fod y chwith yn dewis gwylio'r BBC am ei sylwebaeth ddi-duedd, dyna pam maent yn hysbysebu yn Guardian, ac mae'r Dde yn dewis gwylio FOX, Sky News ag ati achos maent eisau llyncu rwtsh a phropaganda y rhyfel?
Rhithffurf defnyddiwr
Sleepflower
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1442
Ymunwyd: Iau 20 Tach 2003 6:23 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan dafydd » Mer 18 Mai 2005 11:48 am

Cath Ddu a ddywedodd:Duw a wyr, ond mae defnyddio'r rhain + Dylan Iorweth fel pundits annibynol yn llai na chytbwys.

Fel gwyliwr cyffredin sydd ddim yn cymryd rhan mewn Poli Tics, be dwi isie gan 'pundits' yw dadansoddiad craff o safbwyntiau neu bolisiau pob plaid. Mae Rod Richards (cyn ohebydd yn y 'leffti' BBC!) yn un da ond mae e dal yn wleidydd yn y bôn felly mae ei duedd yn gallu lliwio ei sylwadau weithiau.

Dwi ddim wedi gweld llawer o sylwebyddion 'ceidwadol' (yng Nghymru nac ym Mhrydain) sydd yn gallu osgoi'r demtasiwn i wthio syniadau adain-dde pan maent yn sylwebu'n 'annibynnol'. Ond mae yna ddigonedd o rai canolig (sef i'r chwith o lywodraeth Llafur) sydd yn gallu cyflwyno polisiau'r pleidiau i'r gwyliwr (neu'r darllenwr) yn ddi-duedd.

Mae'n rhyfedd sut mae gwleidyddion o bob plaid yn gwneud ffys pan mae rhyw adroddiad neu stori yn y cyfryngau yn anghytuno gyda'i safbwynt ond yn cadw'n dawel os yw'r stori yn eu ffafrio nhw.
Rhithffurf defnyddiwr
dafydd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2146
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:21 pm
Lleoliad: Anfeidredd

Postiogan Cath Ddu » Mer 18 Mai 2005 12:18 pm

Mr Gasyth a ddywedodd:Wel dyna ni ta. Rhain ydi'r prif arbenigwyr ar wleidydiaeth Cymru sy'n siarad Cymraeg, felly does gan y BBC fawr o ddewis ond eu defnyddio. Nid bai y BBC ydy fod y rhai sy'n gwybod fwyaf am wleidyddiaeth ddim yn gefnogol i'r Ceidwadwyr.

Dwi'n teimlo baridd dy fod yn sarhau proffesiynoldeb y bobl yma a staff y BBc hefyd efo dy gyhuddiadau ysgubol.


Caca llwyr Mr Gasyth. Dwi'n credu y bydde ti'n lloerig pe byddai pundits gwleidyddol mor amlwg biased o blaid agenda'r dde yn cael monoploi o'r cyfryngau Cymreig.

Ydw, dwi yn gofyn cwestiwn ynghylch pa mor ddi-duedd yw'r BBC ac ydw dwi'n gofyn cwestiwn ynghylch pam na all y BBC gyda'r adnoddau sydd ganddynt ddarganfod pundits ychwanegol i'r rhai a enwyd er mwyn cael ymateb ychydig yn llai di-duedd.

A gan dy fod yn gofyn am enw dyma un i ti - beth am Hywel Williams, colofnydd yn y Guardian a chyn gynghorydd i John Redwood?
Cath Ddu
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1963
Ymunwyd: Iau 22 Gor 2004 2:23 pm

Postiogan Cath Ddu » Mer 18 Mai 2005 12:23 pm

dafydd a ddywedodd:Dwi ddim wedi gweld llawer o sylwebyddion 'ceidwadol' (yng Nghymru nac ym Mhrydain) sydd yn gallu osgoi'r demtasiwn i wthio syniadau adain-dde pan maent yn sylwebu'n 'annibynnol'.


Anhygoel - wrth weld Marr neu Dicw yn traddodi yr oll dwi'n weld yw apologist's i safbwynt y chwith. Mae awgrymu fod y sylwebyddion hyn yn ddi-duedd yn dweud mwy am yr hyn ti'n ystyried fel barn annibynol yn hytrach na'r hyn fyddai'n dderbyniol i bawb.

dafydd a ddywedodd:Mae'n rhyfedd sut mae gwleidyddion o bob plaid yn gwneud ffys pan mae rhyw adroddiad neu stori yn y cyfryngau yn anghytuno gyda'i safbwynt ond yn cadw'n dawel os yw'r stori yn eu ffafrio nhw.


Does yna ddim stori dan sylw yma ag eithrio cofiant cyn newyddiadurwr y BBC sy'n honni fod y BBC yn institutionalised left wing. Felly beth yn union yw dy bwynt?
Cath Ddu
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1963
Ymunwyd: Iau 22 Gor 2004 2:23 pm

NôlNesaf

Dychwelyd i Materion Prydain

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 22 gwestai