Tudalen 1 o 15

BBC gyda bias 'leftie' - R.Oakley

PostioPostiwyd: Sul 15 Mai 2005 10:08 pm
gan Realydd
Robin Oakley, cyn-ohebydd newyddion y BBC, yn y papurau heddiw'n disgrifio'r "Institutional leftism" yn y sefydliad lle treuliodd 25 mlynedd yn gweithio.

Mae wedi sgwennu llyfr sy'n rhoi esiamplau manwl o hyn.

"I couldn't have raised a cricket team of Tories from the London news operation" - R.Oakley

Mae'r BBC yn llyncu £2.8bn o arian y talwyr leisans. Yn rhyfedd iawn methais gael linc i'r stori yma o wefan y BBC. :lol:

PostioPostiwyd: Llun 16 Mai 2005 8:51 am
gan Chwadan
Dwi'n cymryd mai am Robin Oakley ti'n son? Hwnnw oedd yn uffernol o flin a chwerw wedi cael cic-owt er mwyn i Andrew Marr gael ei swydd fel golygydd gwleidyddol y BBC? Fawr o ryfedd fod o'n cwyno nagoes :rolio: :P

PostioPostiwyd: Maw 17 Mai 2005 9:25 pm
gan Realydd
Ie, Oakley. Ti'n dweud fod o'n anghywir? Ti'n dweud fod o'n dweud celwydd?

PostioPostiwyd: Maw 17 Mai 2005 11:12 pm
gan Cath Ddu
Realydd a ddywedodd:Ie, Oakley. Ti'n dweud fod o'n anghywir? Ti'n dweud fod o'n dweud celwydd?


Naci, nid Oakley sy'n gyfrifol am y lyfr ond gohebydd arall oedd yn gweithio ar y Today programme tan yn ddiweddar. Serch hynny dwi'n credu fod gan Oakley bob hawl bod yn chwerw pan benodwyd Andrew 'We need New Labour' Marr fel prif ohebydd gwleidyddol.

PostioPostiwyd: Maw 17 Mai 2005 11:23 pm
gan Realydd
oh? Ges i'n ffeithiau o'r News of the World :wps:

Re: BBC gyda bias 'leftie' - R.Oakley

PostioPostiwyd: Maw 17 Mai 2005 11:26 pm
gan dafydd
Realydd a ddywedodd:"I couldn't have raised a cricket team of Tories from the London news operation" - R.Oakley

Beth yw'r ots beth yw safbwynt gwleidyddol personol staff y BBC os yw'r adroddiadau newyddion yn gytbwys. A dyw'r llywodraeth Lafur ddim wedi cael amser 'hawdd' gan ohebiaeth y BBC o bell ffordd. Roedd gwleidyddiaeth Robin Oakley (ffrind i J.Archer) yn adnabyddus iawn hefyd, ar ôl gweithio i'r Times a'r Daily Mail.

Re: BBC gyda bias 'leftie' - R.Oakley

PostioPostiwyd: Maw 17 Mai 2005 11:36 pm
gan Cath Ddu
dafydd a ddywedodd:Beth yw'r ots beth yw safbwynt gwleidyddol personol staff y BBC os yw'r adroddiadau newyddion yn gytbwys.


Dyna'r pwynt - tydi o ddim. Mae hyd yn oed y Llywodraethwyr wedi derbyn fod agenda pro Ewropeaidd y BBC yn gamarweiniol ac wedi anfon rheolau newydd i'r staff er mwyn osgoi problemau.

dafydd a ddywedodd:A dyw'r llywodraeth Lafur ddim wedi cael amser 'hawdd' gan ohebiaeth y BBC o bell ffordd.


Yn bennaf ar faterion megis Irac, preifateiddio yn y gwasanaeth iechyd ac ymdrechion tila i weddnewid y Wladwriaeth Les. Mewn geiriau eraill mae Llafur yn cael stic gan y BBC am fod yn rhy asgell dde.

Dylid nodi hefyd mai yn y Guardian yn unig yr oedd y BBC yn Lloegr yn hysbysebu am staff. Dim bod darllenwyr y Guardian yn debygol o goleddu unrhyw safbwynt wleidyddol penodol :lol:

Dwi hefyd yn dy wahodd i enwi UNRHYW ohebydd Cymreig sydd a cydymdeimlad gyda'r Ceidwadwyr yng Nghymru. Gofyn hefyd pam fod y BBC yn arfer defnyddio Dafydd Trystan fel pundit 'annibynnol' - yr oedd yn aelod o PC! Beth am Dylan Iorweth fel sylwebydd 'annibynnol' - blydi joc. Ac i groni'r cyfan Dicw! :lol: :rolio: :ofn: , dyn sydd yn amlwg yn HYNOD gydymdeimladol gydag agenda'r Ceidwadwyr.

Dwi'n dweud hyn heb falais - ond mae angen diddymu'r drwydded. Dwi'n hapus iawn i glywed am sabwynt y Guardian, y Sun neu'r News of the World - mater iddynt hwy a'i cwsmeriaid yw'r agenda wleidyddol maent yn ddilyn, ond nid felly y BBC sy'n derbyn £120 genyf bob blwyddyn a hynny dan fygythiad carchar. Ni welaf UNRHYW rswm dros dalu am bropoganda y chwith Brydeinig (a Chymreig weithiau).

Re: BBC gyda bias 'leftie' - R.Oakley

PostioPostiwyd: Maw 17 Mai 2005 11:58 pm
gan Realydd
Cath Ddu a ddywedodd:Dylid nodi hefyd mai yn y Guardian yn unig yr oedd y BBC yn Lloegr yn hysbysebu am staff. Dim bod darllenwyr y Guardian yn debygol o goleddu unrhyw safbwynt wleidyddol penodol :lol:


:lol: :lol: :lol: :lol: :lol:

Re: BBC gyda bias 'leftie' - R.Oakley

PostioPostiwyd: Mer 18 Mai 2005 8:55 am
gan Sleepflower
Cath Ddu a ddywedodd:Dwi'n dweud hyn heb falais - ond mae angen diddymu'r drwydded.


Achos mae teledu annibynnol yn gwbwl ddi-duedd.

Katie Couric, cyflwynwraig Fox News yn cyfweld a Capten ym Morlu America, yn Irac a ddywedodd:I just want to say, I think Navy SEALS rock!


A mae Sky News yn hollol ddi-duedd wrth gwrs. A wnaeth rhywun gwylio eu sylwebaeth o agoriad y Cynulliad am y tro cyntaf?

Gwrandawyd i araith Rhodri Morgan, siaradwyd dros araith Dafydd Wigley, gwrandawyd i araith Mike German, gwrandawyd i araith Nick Bourne, siaradwyd dros araith Dafydd El...

...ffyc off teledu annibynnol mai ars! Mae'n well gen i dalu trwydded teledu yn lle cael i smacio yn fy ngwyneb fel hynna.

PostioPostiwyd: Mer 18 Mai 2005 9:03 am
gan Mr Gasyth
Cath Ddu a ddywedodd:Dwi hefyd yn dy wahodd i enwi UNRHYW ohebydd Cymreig sydd a cydymdeimlad gyda'r Ceidwadwyr yng Nghymru. Gofyn hefyd pam fod y BBC yn arfer defnyddio Dafydd Trystan fel pundit 'annibynnol' - yr oedd yn aelod o PC! Beth am Dylan Iorweth fel sylwebydd 'annibynnol' - blydi joc. Ac i groni'r cyfan Dicw! , dyn sydd yn amlwg yn HYNOD gydymdeimladol gydag agenda'r Ceidwadwyr.


Fedrai enwi un, ond dwi'm yn meddwl base fo'n deg gneud yn famma rywsut!

Pwy fase ti'n defnyddio fel pundits annibynnol yn lle DT, Dicw a'u tebyg ta?