BBC gyda bias 'leftie' - R.Oakley

Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri

Cymedrolwr: Mr Gasyth

Rheolau’r seiat
Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri, Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan cyfrinair » Mer 18 Mai 2005 12:42 pm

[quote="cyfrinair"]Aros funud nawr Cath - 'ma Rod Richards a Hywel Williams ill dau yn cael digon o ddefnydd da'r BBC.


Cath Ddu
A gan dy fod yn gofyn am enw dyma un i ti - beth am Hywel Williams


Ym? Dewis peidio darllen negeseuon pawb? :drwg:
Er mwyn Cymru
Rhithffurf defnyddiwr
cyfrinair
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 141
Ymunwyd: Llun 01 Rhag 2003 7:56 pm
Lleoliad: fan hyn

Postiogan Cath Ddu » Mer 18 Mai 2005 1:05 pm

cyfrinair a ddywedodd:Aros funud nawr Cath - 'ma Rod Richards a Hywel Williams ill dau yn cael digon o ddefnydd da'r BBC.
Dewis anghofio am Rodfeilyr wyt ti? Embaras? :wps: :P


Mae Richards yn casau'r Ceidwadwyr. Dwi ddim yn cofio gweld Hywel Williams ar newyddion BBC yng Nghymru ond os yw'r BBC yn ei ddefnyddio yna da o beth.

Di'r tokenism uchod ddim yn newid fy mhwynt am agweddau staff y BBC.
Cath Ddu
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1963
Ymunwyd: Iau 22 Gor 2004 2:23 pm

Postiogan Cwlcymro » Mer 18 Mai 2005 1:08 pm

Cath Ddu a ddywedodd:
cyfrinair a ddywedodd:Aros funud nawr Cath - 'ma Rod Richards a Hywel Williams ill dau yn cael digon o ddefnydd da'r BBC.
Dewis anghofio am Rodfeilyr wyt ti? Embaras? :wps: :P


Mae Richards yn casau'r Ceidwadwyr.


Fedri di dal ddim ei gyhuddo o fod efo bias adain chwith nalli!
Wales? Whales? Do you mean 'da fish, or them singing bastards?
Cwlcymro
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2874
Ymunwyd: Sul 15 Meh 2003 1:12 pm
Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Mr Gasyth » Mer 18 Mai 2005 1:11 pm

Ym mha ffordd mae Marr yn 'biased'?

Oes gen ti enghreifftiau penodol o ble mae sylwebyddion y BBC yn dangos tuedd yntau jest llyncu'n ddi-gwestiwn yr hyn mae un cyn-aelod o staff a wyddom ni ddim am ei agenda bersonol na'r esgyrn all fod ganddo i'w crafu wyt ti?
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Postiogan Iesu Nicky Grist » Mer 18 Mai 2005 1:11 pm

Mr Gasyth a ddywedodd:Fedrai enwi un, ond dwi'm yn meddwl base fo'n deg gneud yn famma rywsut!


C'mon Mr Gasythm it's Bwyd innit? C fach wrthgwrs. :lol: Fel ti Cath Ddu. :lol:

Sain meddwl bo New Labour loving BBC yn golygu bo nhw'n lefties. Just shit yn gwneud eu gwaith. Hawdd iawn dilyn news feeds Llafur. Y joc fawr fan hyn yw bod y wasg fod yn wrthbwysedd i wleidyddiaeth/lywodraeth.

Gyda llaw, bydden i ddigon parod bod yn pyndit ar Esfforsi. Mind you, 'mond wedi watershed achos sain meddwl fedren i stopo rhegi.
Yn enw'r Tad, y Mab, a Juha Kankkunen
Rhithffurf defnyddiwr
Iesu Nicky Grist
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2744
Ymunwyd: Iau 08 Ebr 2004 10:27 am
Lleoliad: sied go'd

Postiogan Cath Ddu » Mer 18 Mai 2005 1:25 pm

Cwlcymro a ddywedodd:Fedri di dal ddim ei gyhuddo o fod efo bias adain chwith nalli!


Na, ond mae cael Rod neu Portillo fel 'sylwebyddion' y dde yn siwtio agenda'r BBC i'r dim. Mae'r ddau yn sicr o roi mwy o kicking i'r Ceidwadwyr na neb arall tra'n galluogi pobl fel ti i ddadlau nad yw'r BBC yn biased.
Cath Ddu
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1963
Ymunwyd: Iau 22 Gor 2004 2:23 pm

Postiogan Cwlcymro » Mer 18 Mai 2005 1:32 pm

Chwilio am joban ti? :winc:
Wales? Whales? Do you mean 'da fish, or them singing bastards?
Cwlcymro
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2874
Ymunwyd: Sul 15 Meh 2003 1:12 pm
Lleoliad: Caernarfon

Postiogan S.W. » Mer 18 Mai 2005 1:35 pm

Mae gan y BBC biased tuag at Prydeindod adeg etholiad, gyda'r rhan helaeth o amser trafod polisiau yn cael ei rhoi yn trafod y 3 mawr.

Ond yn bersonol maen well gen i nhw nag dim byd arall gan fy mod yn cael fwynhau teledu heb unrhyw hysbysebion. mae'r hysbysebion 'Jamster' Crazy Frog a'r adar ne yn rheswm yn ei hun pan y dylid nid yn unig cadw'r trwydded teledu ond hefyd ei gynyddu i gael gwared ar ITV a Sky.

Yn fy marn i wrth gwrs.
Rhithffurf defnyddiwr
S.W.
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3262
Ymunwyd: Sad 15 Tach 2003 11:02 am

Re: BBC gyda bias 'leftie' - R.Oakley

Postiogan Ray Diota » Mer 18 Mai 2005 1:36 pm

Cath Ddu a ddywedodd:Dwi'n dweud hyn heb falais - ond mae angen diddymu'r drwydded


A gweld diwedd llawer o raglenni teledu cymraeg S4C a Radio Cymru, ie Cath Ddu? Hei, ma'r toris Cymraeg ma'n well na'r rhai o Loegr ondyn nhw? BOLLOCKS.

Diolch yn fawr i ti Mr 80/20 English, ni'n gwbod bod yr iaith yn saff yn dy ddwylo di, de... :rolio:
iaaasu moses!
Rhithffurf defnyddiwr
Ray Diota
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4570
Ymunwyd: Gwe 19 Rhag 2003 3:52 pm
Lleoliad: Bow Street: It's like armageddon!

Postiogan Cath Ddu » Mer 18 Mai 2005 1:41 pm

Mr Gasyth a ddywedodd:Ym mha ffordd mae Marr yn 'biased'?


Mae'r ffordd y bu iddo ymateb i ddatgelu cyngor yr Attorney General yn ystod etholiad 2005 yn dweud cyfrolau am Marr.

Mr Gasyth a ddywedodd:Oes gen ti enghreifftiau penodol o ble mae sylwebyddion y BBC yn dangos tuedd yntau jest llyncu'n ddi-gwestiwn yr hyn mae un cyn-aelod o staff a wyddom ni ddim am ei agenda bersonol na'r esgyrn all fod ganddo i'w crafu wyt ti?


Dau esiampl bach cyflym i ti;

1. Mae y BBC yng Nghymru yn gyson ddefnyddio Nerys Fullalove (sic) o Ysgol Fusnes Aberystwyth fel sylwebydd economaidd. Bron yn ddi-eithriad mae hi'n cael defnydd gan y BBC pan fydd ffactri neu fusnes yn cau ac mae hin'n datgan fod diffyg defnydd Prydain o'r Ewro yn un rhewsm dors broblemau y cwmni dan sylw. Nid yw'r BBC BYTH yn nodi fod Nerys hefyd yn aelod o Britain in Europe. Mae'n cael rhwydd hynt i hyrwyddo'r Ewro a hynny dan orchudd sylwebydd di-duedd. Yr wyf wedi gwneud cwyn am hyn ar fwy nac un achlysur i ddim pwrpas fe ymddengys. Pam ddim gofyn i fi fel aelod o Business for Sterling am sylwadau di-duedd?

2. Mae y BBC yn hoff iawn o ddisgrifio'r Telegraph neu'r Spectator fel 'right wing newspaper' neu 'right wing periodical'. Felly wrth gyflwyno Peter Oborne, gohebydd gwleidyddol y Spectator mae'r BBC yn anfon code i'r gwrandawyr trwy'i gyflwyno fel "Peter Oborne - political editor of the right wing magazine, the Spectator". Yn yr un modd dwi wedi gweld Dominic Lawson yn cael ei gyflwyno fel "Editor of the right wing Sunday Telegraph". Pryd y bu i'r BBC gyflwyno Andrew Rawnsley, sy'n cyflwyno'r Westminster Hour, fel "political editor of the left wing Observer newspaper?" Pryd y bu i Polly Toynbee (sic) gael ei chyflwyno fel "columnist for the left wing Guardian newspaper?" I gloi, fe gafodd golygydd y New Statesman gyflwyno 'The Westminster Hour' gan y BBC heb unrhyw ymdrech i egluro i'r gwrandawyr fod y New Statesman yn gyhoeddiad ar gyfer y chwith. Ni allaf hyd yn oed dychmygu rhywun fel Bruce Anderson, Peter Oborne neu Mathew D'Ancona yn cael cyflwyno y rhaglen hon heb 'health warning' mawr ynghylch cefndir y tri.
Cath Ddu
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1963
Ymunwyd: Iau 22 Gor 2004 2:23 pm

NôlNesaf

Dychwelyd i Materion Prydain

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 27 gwestai

cron