BBC gyda bias 'leftie' - R.Oakley

Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri

Cymedrolwr: Mr Gasyth

Rheolau’r seiat
Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri, Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Cath Ddu » Mer 20 Meh 2007 9:17 am

Macsen - fel un sydd wedi bod mewn ysgol newyddiadurol fe fyddwn yn disgwyl i ti weld fod y defnydd o'r gair positif yn amwys a dweud y lleiaf. Yn wahanol i ti a Mr Gasyth yr oeddwn yn gwrando ar yr eitem a doedd yna ddim byd amwys am y bwriad wrth ddefnyddio'r gair. Dim paranoia ydi datgan fod defnydd o air megis positif yng nghyd-destun canlyniad positif / negatif i refferendwm yn arwydd o newyddiaduraeth wan (dehongliad caredig) neu bias sefydliadol (y gwir).
Cath Ddu
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1963
Ymunwyd: Iau 22 Gor 2004 2:23 pm

Postiogan Macsen » Mer 20 Meh 2007 9:31 am

Cath Ddu, ti'n darllen gormod mewn i un gair. Digon teg os mae'r BBC yn llawn lefties ddiawl, ond wnaeth y gorfforaeth gyfan ddim cloi ei hun mewn myfyrgell am hanner awr a phenderfynu ar y gair 'positive'. Os mae o'n dangos bias, bias un dyn sgwennu autocue yn unig, neu un newyddiadurwraig, oedd o.
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan Owain Llwyd » Mer 20 Meh 2007 9:56 am

Cath Ddu a ddywedodd:Macsen - fel un sydd wedi bod mewn ysgol newyddiadurol fe fyddwn yn disgwyl i ti weld fod y defnydd o'r gair positif yn amwys a dweud y lleiaf. Yn wahanol i ti a Mr Gasyth yr oeddwn yn gwrando ar yr eitem a doedd yna ddim byd amwys am y bwriad wrth ddefnyddio'r gair. Dim paranoia ydi datgan fod defnydd o air megis positif yng nghyd-destun canlyniad positif / negatif i refferendwm yn arwydd o newyddiaduraeth wan (dehongliad caredig) neu bias sefydliadol (y gwir).


Dw i'n digwydd cytuno efo chdi yma, ond, gen inna, mae bias sefydliadol, bias chwith a bias rhyddfrydol (cymdeithasol?) yn bethau gwahanol. Bosibl eu bod nhw'n gorgyffwrdd ar adegau, ond fyswn i ddim yn mynd ati i gyffredinoli am hynny. Croeso i chdi wneud, wrth gwrs.
Where is the horse and the rider? Where is the Horn that was blowing? They have passed like rain on the mountain, like a wind in the meadow. The days have gone down in the West, behind the hills, into Shadow.
Rhithffurf defnyddiwr
Owain Llwyd
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 335
Ymunwyd: Gwe 09 Mai 2003 9:50 am
Lleoliad: Llanrug

Postiogan Cath Ddu » Mer 20 Meh 2007 10:40 am

Macsen a ddywedodd:Cath Ddu, ti'n darllen gormod mewn i un gair. Digon teg os mae'r BBC yn llawn lefties ddiawl, ond wnaeth y gorfforaeth gyfan ddim cloi ei hun mewn myfyrgell am hanner awr a phenderfynu ar y gair 'positive'. Os mae o'n dangos bias, bias un dyn sgwennu autocue yn unig, neu un newyddiadurwraig, oedd o.


Falle wir, ond nid dyna dy ddadl Macsen. Y pwynt ddaru ti wneud oedd fy mod yn arddangos paranoia wrth ddefnyddio'r esiampl uchod fel un darn arall o dystiolaeth ynghylch agwedd y BBC.

Beth bynnag, darllen yr adroddiad - holl fwrdwn y neges yw fod 'mindset' y BBC yn left-liberal ac fod hynny'n dylanwadu ar y modd y mae gohebwyr unigol yn gwneud eu gwaith.
Cath Ddu
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1963
Ymunwyd: Iau 22 Gor 2004 2:23 pm

Postiogan Macsen » Mer 20 Meh 2007 11:03 am

Dwi'm yn dadlau hynny o gwbwl. Jesd dweud bod angen bod yn ofalus wrth dewis a dethol esiamplau mor fach i wneud cyffredinoliadau am gorfforaeth mor fawr.

Fe fyddwn i'n mynd ymhellach na dweud bod 'mindset' y BBC yn left-liberal a'n dweud bod mindset y rhan fwyaf newyddiadurwyr yn y wlad yma'n gasgliad o pinkos
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan Cath Ddu » Mer 20 Meh 2007 11:26 am

Macsen a ddywedodd:Dwi'm yn dadlau hynny o gwbwl. Jesd dweud bod angen bod yn ofalus wrth dewis a dethol esiamplau mor fach i wneud cyffredinoliadau am gorfforaeth mor fawr.


Un esiampl oedd hwn Macsen ond hwn oedd yr esiampl a ddefnyddiwyd gan Mr Gasyth fel esiampl o fy paranoia ac fe fu i ti gytuno. Pe byddai fy holl ddadl wedi ei hadeiladu ar yr un esiampl hwn yna digon teg ond nid dyna'r sefyllfa.

Ta waeth, geiriau Andrew Marr;

"the BBC is a publicly funded urban organisation with an abnormally large proportion of younger people, of people in ethnic minorities and almost certainly of gay people compared with the population at large. All this creates an innate liberal bias within the BBC"

Dweud y cyfan dwi'n credu.
Cath Ddu
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1963
Ymunwyd: Iau 22 Gor 2004 2:23 pm

Postiogan Ray Diota » Mer 20 Meh 2007 11:40 am

Cath Ddu a ddywedodd:
Macsen a ddywedodd:Dwi'm yn dadlau hynny o gwbwl. Jesd dweud bod angen bod yn ofalus wrth dewis a dethol esiamplau mor fach i wneud cyffredinoliadau am gorfforaeth mor fawr.


Un esiampl oedd hwn Macsen ond hwn oedd yr esiampl a ddefnyddiwyd gan Mr Gasyth fel esiampl o fy paranoia ac fe fu i ti gytuno. Pe byddai fy holl ddadl wedi ei hadeiladu ar yr un esiampl hwn yna digon teg ond nid dyna'r sefyllfa.

Ta waeth, geiriau Andrew Marr;

"the BBC is a publicly funded urban organisation with an abnormally large proportion of younger people, of people in ethnic minorities and almost certainly of gay people compared with the population at large. All this creates an innate liberal bias within the BBC"

Dweud y cyfan dwi'n credu.


Hir oes i'r bias, felly!
iaaasu moses!
Rhithffurf defnyddiwr
Ray Diota
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4570
Ymunwyd: Gwe 19 Rhag 2003 3:52 pm
Lleoliad: Bow Street: It's like armageddon!

Postiogan Macsen » Mer 20 Meh 2007 12:09 pm

Cath Ddu a ddywedodd:"the BBC is a publicly funded urban organisation with an abnormally large proportion of younger people, of people in ethnic minorities and almost certainly of gay people compared with the population at large. All this creates an innate liberal bias within the BBC"

Petai pob busnes ym Mhrydain gyda enw da fel y BBC am degwch tuag at pobol hoyw ac o leafrifoedd ethnic mi fyddai'r grwpiau rheini wedi eu taenu'n fwy cyrfatal ar draws gweithleoedd Prydain.
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan Cath Ddu » Mer 20 Meh 2007 9:45 pm

Ray a Macsen.

Nid gender equality ydi ffôn fesur y BBC yn y drafodaeth hon ond cydbwysedd gwleidyddol corff sy'n derbyn cyllid gan drethdalwyr. Falle fod agweddau y BBC yn iach tuag at faterion megis rhywioldeb ayb ond nid dyna'r pwynt mae Andrew Marr yn wneud. Triwch ddeallt! :winc:
Cath Ddu
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1963
Ymunwyd: Iau 22 Gor 2004 2:23 pm

Postiogan Griff-Waunfach » Iau 21 Meh 2007 10:21 am

Cath Ddu a ddywedodd: ffôn fesur


Dwi wedi clywed bod yr iPhone yn gallu neud lot o bethau!
Rhithffurf defnyddiwr
Griff-Waunfach
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 940
Ymunwyd: Mer 03 Maw 2004 11:28 am
Lleoliad: Aberystwyth

NôlNesaf

Dychwelyd i Materion Prydain

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 9 gwestai

cron