S.W. a ddywedodd:Mae gan pawb rhyw 'duedd' a 'barn' hyd yn oed y rhai sy'n honni i fod yn casau unrhyw blaid, ond mae o fyny i'r unigolyn gefnogi ei farn mewn modd mor broffesiynol a phosib. Ac yn hynny o beth, tra ei fod yn cefnogi ei farn byddwn yn hapus iddo wneud hyn, hyd yn oed pebai o farn hollol wahanol i mi.
A dyna fy mhwynt. Nid barn sydd gan Dicw am y Ceidwadwyr ond rhagfarn. Dyna pam fod clywed y bonheddwr RWJ yn trathu yn gwylltio dyn gan fod ei farn yn cael ei chyflwyno fel sylwebaeth di-duedd.
S.W. a ddywedodd:O ran pobl tu hwnt i Gymru weles i Golygydd y Mail ar y teledu rhyw flwyddyn yn nol ar Brecwast gyda Frost - sylwebydd hollol biased i'r dde, mwy i'r dde na dwin gobeithio wyt ti - clodfori'r ymerodraeth ayyb
Ac ai fel sylwebydd di-duedd y cafodd ei gyflwyno?
S.W. a ddywedodd:Ti'n dallt y dalltings wan?
Ydw, ond ymddengys nad wyt ti.
Dwi'n gweld yr ymateb yma gan pawb yn ddifyr iawn - yn y bon 'chydig iawn o ymdrech sydd wedi bod i ddadlau NAD yw'r BBC yn biased. Yn hytrach dwi wedi cael dadl fod POB gorsaf deledu yn biased (so what), fod bod yn wrthwynebus i'r BBC yn gyfystyr a bod o blaid difa teledu a Radio trwy gyfrwng y Gymraeg (
) ac hefyd y ddadl fod barn yn OK cyn belled a dy fod yn gallu amddiffyn y farn honno. Bychan iawn yw'r ffin rhwng barn a rhagfarn fe awgrymaf - a dro ar ôl tro mae sylwebydd a staff newyddiadurol y BBC yn croesi'r ffin.