dafydd a ddywedodd:Beth yw'r ots beth yw safbwynt gwleidyddol personol staff y BBC os yw'r adroddiadau newyddion yn gytbwys.
Dyna'r pwynt - tydi o ddim. Mae hyd yn oed y Llywodraethwyr wedi derbyn fod agenda pro Ewropeaidd y BBC yn gamarweiniol ac wedi anfon rheolau newydd i'r staff er mwyn osgoi problemau.
dafydd a ddywedodd:A dyw'r llywodraeth Lafur ddim wedi cael amser 'hawdd' gan ohebiaeth y BBC o bell ffordd.
Yn bennaf ar faterion megis Irac, preifateiddio yn y gwasanaeth iechyd ac ymdrechion tila i weddnewid y Wladwriaeth Les. Mewn geiriau eraill mae Llafur yn cael stic gan y BBC am fod yn rhy asgell dde.
Dylid nodi hefyd mai yn y Guardian yn unig yr oedd y BBC yn Lloegr yn hysbysebu am staff. Dim bod darllenwyr y Guardian yn debygol o goleddu unrhyw safbwynt wleidyddol penodol
Dwi hefyd yn dy wahodd i enwi UNRHYW ohebydd Cymreig sydd a cydymdeimlad gyda'r Ceidwadwyr yng Nghymru. Gofyn hefyd pam fod y BBC yn arfer defnyddio Dafydd Trystan fel pundit 'annibynnol' - yr oedd yn aelod o PC! Beth am Dylan Iorweth fel sylwebydd 'annibynnol' - blydi joc. Ac i groni'r cyfan Dicw!
, dyn sydd yn amlwg yn HYNOD gydymdeimladol gydag agenda'r Ceidwadwyr.
Dwi'n dweud hyn heb falais - ond mae angen diddymu'r drwydded. Dwi'n hapus iawn i glywed am sabwynt y Guardian, y Sun neu'r News of the World - mater iddynt hwy a'i cwsmeriaid yw'r agenda wleidyddol maent yn ddilyn, ond nid felly y BBC sy'n derbyn £120 genyf bob blwyddyn a hynny dan fygythiad carchar. Ni welaf UNRHYW rswm dros dalu am bropoganda y chwith Brydeinig (a Chymreig weithiau).