Realydd a ddywedodd:Rydw i o'r farn fod y llais adain dde ar Question time yn fwy aml na pheidio yn lais unig. Hefyd mae'r mwyafrif llethol o bwyntiau sy'n cael eu gwneud gan y gynulleidfa, sy'n llawer rhy biased i'r chwith na'r cyhoedd, felly o safbwynt y chwith.
Pam na wneith y BBC wneud pol opiniwn ar ddechrau pob rhaglen yn dangos i'r bobl adref beth yw teimladau gwleidyddol y gynulleidfa? Gan fel arall mae o'n gamarweiniol fod y Lib Dems yn cael clap hir am bob dim mae nhw'n ddweud o ystyried eu diffyg poblogrwydd yn y wlad.
felly rwyt ti'n cytuno dylai cynulleidfa Question Time gael ei rhannu'n 2/1 chwith/dde? Be am staff y BBc yn gyffredinol, faset ti'n cytuno efo cydbwysedd tebyug yno, gan ei fod yn adlewyrchu'r boblogaeth?
y broblem efo'r Lib Dems dwi'n meddwl ydi fod dim ond y Toris yn clapio'r Tori, Llafurwyr yn clapio'r LLafurwr ond neith unrhywun glapio Lib Dem gan ei fod reit di-niwed, neu, yn achos Menzies Campbell y gwleidydd gorau gei di ar y teledu. Mae'r Tories hefyd yn cael gwell clap pam mae Boris Johnson ymlaen o'i gymharu gyda John Redwood er enghraifft. Falle bod nhw jest angen gwleidyddion mwy public-friendly.
Y person sy'n cael y gymerdwyaeth orau wrth gwrs ydi'r gwestai anwleidyddol, a does ganddo fo ddim cefnogaeth o gwbl ymysg yr etholwyr!