Realydd a ddywedodd:Ni allant gyfiawnhau'r panel a gafwyd y noson honno. Ychwanegu'r SNP a Galloway - dau wleidydd hynod o asgell chwith - tuag at y Tori, Llafur a Lib Dem. Y pwynt yw fod y panel a'r gynulleidfa yn gyson yn biased tuag at yr adain chwith.
Realydd bach, mae na lot fwy i wleidyddiaeth Prydeinig na'r ffraeo rhwng y dde a'r chwith, nid gwleidyddiaeth y Rhyfel Oer ydy hwn.
Pebaent wedi gadael yr SNP allan yna byddai'n unochrog yn erbyn cenedlaetholdeb, pe bai'r Dem Rhydd wedi'u gadael allan byddai'n erbyn biased yn erbyn 3ydd plaid gwleidyddiaeth Prydain, pe bai Llafur allan yna byddai'n erbyn y Llywodraeth a pe bai'r Ceidwadwyr allan yna ni fyddai gan y Prifwrthblaid Prydeinig gyfle i dweud eu dweud. Mae George Galloway yn ffigwr amlwg ar hyn o bryd gan bod o wedi curo'i gynblaid a wedi rhoi chwip din i'r UDA (hyd yn oed os ti'n anghytuno a fo, elli di ddim gwadu).
Pe bai'r rhaglen yng Nghymru ar ITV Wales byddwn yn synnu pe bai 'line up' delfrydol nhw yn wahanol, oni bai bod Peter Law yn eistedd yn hytrach nag Galloway.