Tudalen 13 o 15

PostioPostiwyd: Iau 02 Meh 2005 3:25 pm
gan Mr Gasyth
Dylan a ddywedodd:"positif" yn golygu ateb cadarnhaol, hy "ia"

dim byd i'w wneud â "da" neu "ddrwg" o be' wela' i

cytuno'n llwyr. mae paranoia'r Gath yn dechrau mynd allan o reolaeth dwi'n ofni.

PostioPostiwyd: Gwe 03 Meh 2005 2:15 pm
gan Cath Ddu
Mr Gasyth a ddywedodd:
Dylan a ddywedodd:"positif" yn golygu ateb cadarnhaol, hy "ia"

dim byd i'w wneud â "da" neu "ddrwg" o be' wela' i

cytuno'n llwyr. mae paranoia'r Gath yn dechrau mynd allan o reolaeth dwi'n ofni.

Paranoia'r Gath?

Onid y BBC sydd wedi derbyn fod yna ffaleddau gwirioneddol yn eu dehongliad o fater Ewrop?

Pam fod BBC News 24 yn defnyddio siaradwr o Britain in Europe (sef yr ymgyrch ia) a hynny fel arbenigwr (!?) heb neb o'r ymgyrch NA? Paranoia? Na, ffaith Mr Gasyth, ffaith.

Dim ond yn dilyn derbyn cwyn gan ymgyrch NA Cymru y cafwyd lleisiau yr ymgyrch Na fel rhan o'r drafodaeth yma yng Nghymru ar donfeddi Radio Cymru. Dwi'n sylwi eto nad oes NEB wedi ateb fy mhrif bwyntiau am y defnydd o siaradwyr. Tybed pam?

PostioPostiwyd: Iau 09 Meh 2005 10:36 pm
gan Realydd
Falle fod y BBC wedi gwrando ar fy nghwyn... ar panel Question time heno Peter Hitchens, John Redwood, Americanes, Lib Dem a Llafur. Dyna welliant. 8)

PostioPostiwyd: Gwe 10 Meh 2005 9:32 am
gan Annibyniaeth RWAN
Realydd a ddywedodd:Falle fod y BBC wedi gwrando ar fy nghwyn... ar panel Question time heno Peter Hitchens, John Redwood, Americanes, Lib Dem a Llafur. Dyna welliant. 8)

sy'n profi bo chdi'n siarad drw dy din yn lle cynta

PostioPostiwyd: Gwe 10 Meh 2005 11:47 am
gan Realydd
Annibyniaeth RWAN a ddywedodd:
Realydd a ddywedodd:Falle fod y BBC wedi gwrando ar fy nghwyn... ar panel Question time heno Peter Hitchens, John Redwood, Americanes, Lib Dem a Llafur. Dyna welliant. 8)

sy'n profi bo chdi'n siarad drw dy din yn lle cynta

Ddim o gwbl- panel anarferol iawn, iawn oedd hwnna neithiwr. A llawer mwy o sens yn cael ei siarad hefyd. 8)

PostioPostiwyd: Sul 12 Meh 2005 1:02 pm
gan Dylan
Heh. Mae Peter Hitchens wir yn wallgof. Be oedd y testunau trafod felly?

PostioPostiwyd: Maw 19 Meh 2007 7:11 pm
gan Cath Ddu
Cath Ddu a ddywedodd:
Mr Gasyth a ddywedodd:
Dylan a ddywedodd:"positif" yn golygu ateb cadarnhaol, hy "ia"

dim byd i'w wneud â "da" neu "ddrwg" o be' wela' i

cytuno'n llwyr. mae paranoia'r Gath yn dechrau mynd allan o reolaeth dwi'n ofni.

Paranoia'r Gath?

Anodd peidio gwenu heddiw wrth weld y trafod ar adroddiad mewnol y BBC sydd yn derbyn dro ar ôl tro fod y gorfforaeth yn gweithredu o safbwynt y chwith ar bron bob pwnc! Tystiolaeth pobl megis Andrew Marr yn datgan fod y sefyllfa mor ddrwg nes fod bygythiad i ddyfodol y BBC fe corff - paranoia'r Gath ta rhagfarn cyfranwyr megis Mr Gasyth?

Cawm weld os bydd newid - dwi'n amheus er fod y BBC mwy na heb wedi derbyn adroddiad heddiw sy'n eu cyhuddo o fod yn 'institutionalised lefty'.

PostioPostiwyd: Mer 20 Meh 2007 8:36 am
gan Owain Llwyd

Ai dyma ydi'r adroddiad wyt ti'n meddwl amdano fo?

PostioPostiwyd: Mer 20 Meh 2007 8:53 am
gan Cath Ddu
Owain Llwyd a ddywedodd:Ai dyma ydi'r adroddiad wyt ti'n meddwl amdano fo?

Ia wir. Fel man cychwyn awgrymaf eich bod yn darllen tudalen 62-70 lle mae gohebwyr y BBC ac uwch swyddogion mwy na heb yn cytuno gyda pob pwynt y bu i mi wneud yn yr edefyn hwn ddwy flynedd yn ôl. Os ydi Andrew Marr a Justin Webb yn gweld gogwydd chwith ryddfrydol yn y BBC yna digywilydd braidd fyddai datgan fod y ffaith fy mod yn rhannu'r gofid yn esiampl o 'baranoia y Gath'.

Ymddiheuriad Mr Gasyth? :winc:

PostioPostiwyd: Mer 20 Meh 2007 9:14 am
gan Macsen
Ym, dim oherwydd dy fod ti'n gweld bias yn y BBC wnaeth Mr Gasyth dy alw di'n paranoid, ond oherwydd hyn:

Cath Ddu a ddywedodd:Esiampl arall - aroddiad gan newyddiadurwraig brynhawn heddiw ar 'The World at One' yn datgan 'a second vote might result in a more positive outcome'. Positive? I pwy? Ai agwedd y BBC yw fod Na yn beth drwg ac Ia yn beth da?

Fel y dywedodd rywun ar y pryd:

"positif" yn golygu ateb cadarnhaol, hy "ia"

dim byd i'w wneud â "da" neu "ddrwg" o be' wela' i

Dwi'm yn gwadu bod bias yn y BBC, ond mi'r oedd hwnna braidd yn paranoid.