Ware teg, os ydy 'Prydeinwyr' am gael diwrnod i drio gweithio mas beth yn union ydyn nhw (a dwi ddim yn trio dweud nag oes pethau sydd yn ein clymu ni at ein gilydd) wel, rwydd hynt iddyn nhw.
Ond mae rhyw syniad gyda fi mae 'siwd i fod yn Saes' bydd byrdwn y dydd.
Ond mae troi diwrnod o gofio marwolaeth miliynau yn rhyw ffair 'dwy ryfel byd ac un cwpan y byd' tsiep yn ddim byd llai na gwarthus.
Does dim lle i imperialaeth na hyd yn oed cenedlaetholdeb (yn genedlaetholdeb Cymreig, Prydeinig, neu unrhyw wlad arall) ar ddiwrnod mor bwysig. Wedi'r cyfan, cenedlaetholdeb o fath sydd wedi achosi pob un rhyfel y mae Prydain wedi bod yn rhan ohoni drwy hanes.