docito a ddywedodd:Rwy'n gweld ymateb pobl i'r edefyn hyn yn od. Fel rhywun sydd ddim yn genedlaetholwr cryf does gen i ddim lawer o ddiddordeb mewn diwrnodau dathlu ayb. Ond baswn i'n meddwl y byddai Cenedlaetholwyr Cymreig cryf yn cytuno bod dathliad o'r ffath yn syniad positif ar gyfer hybu hunaniaeth gwlad hyd yn oed os nad ydynt hwy yn teimlo ei fod yn gynrychioladol o hwythau.
Yn groes i farn Gordon Brown, dydy Prydeindod
ddim yn
inclusive. Mae'n fodd i anwybyddu bodolaeth Cymru a Chymreictod (a'r Alban, wrth gwrs). Petai o o ddifri yn ei ddymuniad i greu awyrgylch positif ynglyn a bod yn ddinesydd Prydeinig ar draws y DU, byddai wedi galw am gydnabod dyddiau Cenedlaethol Lloegr, Cymru, a'r Alban fel gwyliau banc yn lle anwybyddu ein bodolaeth trwy siarad am "Y Genedl Brydeinig" a galw am "Dydd Prydain".