Galloway

Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri

Cymedrolwr: Mr Gasyth

Rheolau’r seiat
Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri, Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Galloway

Postiogan docito » Mer 25 Ion 2006 9:48 am

Beth yw dyfodol George Galloway bellach? Fel rhywun oedd yn barchu'n fawr ar ol ei sefylliad ar Iraq a'i amddiffyniad o'i hun yn sennedd yr Unol Daleithiau ma'i weld ar B>B wedi bod yn drist ac yn agoriad llygad i'w weld yn gwneud ffwl o'i hun ar rhaglen bop . Baswn i ddim yn pleidleisio i fwli, hunan gyfiawn o'r fath!
I'm a great lover, I'll bet.

Probably the toughest time in anyone's life is when you have to murder a loved one because they're the devil.

You know what I hate? Indian givers... no, I take that back
Rhithffurf defnyddiwr
docito
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 900
Ymunwyd: Maw 13 Rhag 2005 10:58 am
Lleoliad: jyst off albany rd

Postiogan Llefenni » Mer 25 Ion 2006 10:47 am

Cytuno'n llwyr :x Mae o'n gneud ffwl o'i hunan, ac o'r holl wnaeth bleidleisio drosto - pa uffar o weth d'io i'w etholaeth yn fanno? Hmm, d
I'm Brian Fantana.
Rhithffurf defnyddiwr
Llefenni
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1658
Ymunwyd: Maw 16 Maw 2004 2:35 pm
Lleoliad: Gwêl Y Stadiwm, Rhif 9

Re: Galloway

Postiogan Blewyn » Mer 25 Ion 2006 11:07 am

docito a ddywedodd:Baswn i ddim yn pleidleisio i fwli, hunan gyfiawn o'r fath!

Be mae o wedi'i wneud ? (fedra i ddim gweld CBB)
Rhithffurf defnyddiwr
Blewyn
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 762
Ymunwyd: Sad 31 Gor 2004 12:47 pm
Lleoliad: Brisbane, Queensland, Straya Mate

Re: Galloway

Postiogan docito » Mer 25 Ion 2006 11:28 am

Blewyn a ddywedodd:
docito a ddywedodd:Baswn i ddim yn pleidleisio i fwli, hunan gyfiawn o'r fath!

Be mae o wedi'i wneud ? (fedra i ddim gweld CBB)


Wel.
Fe ath e ar y rhaglen er mwyn a "gwleidyddiaeth at y bobl". Yn anffodus iddo e fe wynebodd e'r broblem o'i fod ar y dechre - yn ymddangos fel snob, canol oed ysgolheigaidd diflas - oedd yn poeni fwy am gadw ei hunan barch nag i ymuno a'r hwyl. Roedd hyn yn fy marn i yn ymddygiad ddigon teg gan mai A.S yw e wedi'r cyfan.

Fel ma' rhaglenni o'r fath yn neud fe ddechreuodd y "selebs!!!!" arall ddysgu ei fod braidd yn ddau-wynebog. Yn hytrach na derbyn y feirniadaeth mae e wedi dechre ymladd yn ol trwy ddadlau ac ymosod yn eiriol ar bobl.

Yn anffodus mae ef a Pete Burns (sef 2 gymeriad cryfa'r ty) wedi pigo ar y gwanaf sef barrymore a'r 2 blentyn ifanc. Felly ma'r teledu yn dangos Aelod Seneddol sydd yn ymfalchio am ei ddawn diplomyddol yn bwlio "plant" 20 mlwydd oed ac yn defndyddio "addiction" M Barrymore fel arf y ei erbyn. Dyma un enghraifft:
We'll see what the viewers thought of your double standards and the aplomb with which you become a lying plutocrat in your gentleman's club


Dwy trio peido cytuno gyda teledu 'low brow' o'r fath ond roedd neithiwr yn hollol anghredadwy!!
I'm a great lover, I'll bet.

Probably the toughest time in anyone's life is when you have to murder a loved one because they're the devil.

You know what I hate? Indian givers... no, I take that back
Rhithffurf defnyddiwr
docito
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 900
Ymunwyd: Maw 13 Rhag 2005 10:58 am
Lleoliad: jyst off albany rd

Re: Galloway

Postiogan Garnet Bowen » Mer 25 Ion 2006 11:44 am

Blewyn a ddywedodd:
docito a ddywedodd:Baswn i ddim yn pleidleisio i fwli, hunan gyfiawn o'r fath!

Be mae o wedi'i wneud ? (fedra i ddim gweld CBB)


Dangos i'r byd mai bwli hunan-bwysig ydi o, a dim arall. Er gymaint fy nghasineb tuag ato, dwi'n falch ei fod o ar y rhaglen. Gobeithio bydd etholwyr Bethnal Green and Bow yn cofio am hyn pan ddoith yr etholiad nesaf.
Rhithffurf defnyddiwr
Garnet Bowen
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2085
Ymunwyd: Mer 29 Hyd 2003 11:45 am
Lleoliad: Y Fro Gymraeg

Postiogan Dave Thomas » Mer 25 Ion 2006 12:38 pm

Rhaid i mi amddiffyn Galloway rywfaint.

Nid ymddwyn fel cath neu neidio o gwmpas mewn leotard oedd ei ddewis ef- mae nhw'n gorfod gwneud pethau rhyfedd yn y sioe yna er mwyn ennill bwyd a gwobrau i'r bobl yn y ty. Roedd Galloway mewn sefyllfa no-win ynglyn a'r tasgau yma- wrth gymryd rhan roedd pobl ar y newyddion yn gallu cymryd clip a chwerthin ar ei ben. Ar y llaw arall, petae wedi gwrthod cymryd rhan fe fyddai gwylwyr Big Brother a'r bobl yn y ty yn cymryd yn ei erbyn ac yn ei ddisgrifio fel gwleidydd sych ayyb. Felly fedr y boi ddim curo beth bynnag wneith o.

Mae ganddo fo ddawn hefo'i eiriau i grisialu disgrifiad byr ond effeithiol o'r rhei eraill yn y ty ac mae'n debyg fod y gwir yn brifo. Fuasech chi'n anghytuno gyda'i asesiad o Jodie Marsh?

Fe bleidleisiodd nhw i dynnu ei hawl i nominyddu. Fuasai neb yn hapus iawn gyda hynna ac roedd BB yn gwybod yn iawn y byddai hyn yn corddi Galloway.

Barrymore, mae o wedi ymddwyn fel bwli e.e. weloch chi fo'n bwlio Jodie Marsh gyda Pete? Ydych chi ddim wedi diflasu gyda'r sympathi mae o'n amlwg yn chwilio amdano? Fe daflodd Barrymore y sylwad "no wonder Blair threw you out" yng ngwyneb Galloway hefyd. Mae'n anhygoel faint o bobl sy'n disgyn am act Barrymore- mae'n actiwr cofiwch.

Mae Pete a George yn dweud yn union beth mae nhw'n feddwl wrth bobl yn eu gwynebau. Mae'n debyg fod rhai gwylwyr yn ffeindio hynna'n anodd i'w lyncu.

Garnet: glywais i na fydd Galloway yn sefyll y tro nesaf?
Dave Thomas
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 500
Ymunwyd: Mer 13 Gor 2005 10:26 pm

Re: Galloway

Postiogan Dave Thomas » Mer 25 Ion 2006 12:42 pm

docito a ddywedodd:
We'll see what the viewers thought of your double standards and the aplomb with which you become a lying plutocrat in your gentleman's club



Wrth Preston ddwedodd o hynna
Dave Thomas
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 500
Ymunwyd: Mer 13 Gor 2005 10:26 pm

Postiogan docito » Mer 25 Ion 2006 12:53 pm

Dave

Ma dy bwyntie yn rhai dilys a sylwgar. Cytuno gyda ti bod yn rhaid iddo fe wneud y pethe fel actio fel cath ayb. Os buase fe di gwrthod base fe di edrych yn wath fyth

Ond rwy ti'n cymharu Galloway gyda safonne gweddill unigolion y ty ac yn anffodus fel cynrychiolydd seneddol ma'n rhaid iddo gadw at safone uwch.

Allai ddim credu ei fod wedi parhau i ddadlau ac ymosod yn bersonnol ar Preston a Michael Barrymore. Fe wnaeth e bwynt mawr am y ffaith ei fod yn mynegi ei farn er mwyn cefnogi Dennis ond roedd yn gwrthod gwrando ar eraill. Ma'n amlwg i bawb bod preston ar ferch blonde yn anaeddfed a bod gan barrymore brobleme enfawr. Ond yn hytrach na derbyn hyn ma wedi mynnu tanlinellu a gwawdio y beie yma.

Ydy, ma pawb arall yn biahfio'n warthus. Ond pwy i nhw?? Washed up wannabes!!!
I'm a great lover, I'll bet.

Probably the toughest time in anyone's life is when you have to murder a loved one because they're the devil.

You know what I hate? Indian givers... no, I take that back
Rhithffurf defnyddiwr
docito
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 900
Ymunwyd: Maw 13 Rhag 2005 10:58 am
Lleoliad: jyst off albany rd

Postiogan Dave Thomas » Mer 25 Ion 2006 1:02 pm

docito a ddywedodd:Ond rwy ti'n cymharu Galloway gyda safonne gweddill unigolion y ty ac yn anffodus fel cynrychiolydd seneddol ma'n rhaid iddo gadw at safone uwch.


Difyr iawn, mae'r pwnc yna'n haeddu edefyn ei hun ddwedwn i.

Allai ddim credu ei fod wedi parhau i ddadlau ac ymosod yn bersonnol ar Preston a Michael Barrymore.


Mae'n debyg beth sy'n gwneud y sioe yma'n ddiddorol yw fod gan pawb eu ffefrynau a'r rhei dyw nhw ddim yn hoffi. Felly os oes rhywun yn ymosod ar ffefryn rhywun yna mae pobl yn dweud fod y person arall yn bwlio ayyb.
Dave Thomas
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 500
Ymunwyd: Mer 13 Gor 2005 10:26 pm

Postiogan Chwadan » Mer 25 Ion 2006 1:12 pm

Dave Thomas a ddywedodd:Nid ymddwyn fel cath neu neidio o gwmpas mewn leotard oedd ei ddewis ef- mae nhw'n gorfod gwneud pethau rhyfedd yn y sioe yna er mwyn ennill bwyd a gwobrau i'r bobl yn y ty. Roedd Galloway mewn sefyllfa no-win ynglyn a'r tasgau yma- wrth gymryd rhan roedd pobl ar y newyddion yn gallu cymryd clip a chwerthin ar ei ben. Ar y llaw arall, petae wedi gwrthod cymryd rhan fe fyddai gwylwyr Big Brother a'r bobl yn y ty yn cymryd yn ei erbyn ac yn ei ddisgrifio fel gwleidydd sych ayyb. Felly fedr y boi ddim curo beth bynnag wneith o.

Dwi'n anghytuno'n llwyr, fedrai ddim cydymdeimlo efo'r busnes leotard a chath 'ma. Ma hyd yn oed y rhai sydd ddim yn gwylio BB yn gwybod fod rhaid i'r cystadleuwyr neud tasgau gwirion - ac felly cyn mynd i mewn mi fasa George yn hollol ymwybodol o'r hyn fasa yn ei wynebu. Mi nath o benderfyniad hollol wirfoddol i fynd mewn i'r ty er mwyn "dod a gwleidyddiaeth yn nes at y bobl" neu be bynnag, a does gen i ddim amheuaeth ei fod o wedi ystyried yr embaras o orfod gneud y tasgau wrth wneud ei benderfyniad.

Mewn geiria eraill - os ti'n penderfynu mynd mewn i'r ty, ti'n penderfynu gneud beth bynnag ma BB yn ei ddeutha ti am ei wneud. Felly ei ddewis o, by proxy, oedd gwisgo fel cath ac ati.
Rhithffurf defnyddiwr
Chwadan
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2578
Ymunwyd: Sul 16 Maw 2003 12:24 am
Lleoliad: :dailoelL

Nesaf

Dychwelyd i Materion Prydain

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 32 gwestai

cron