gan Dili Minllyn » Llun 12 Chw 2007 1:11 pm
Dwi wedi bod wrthi'n ddiweddar efo llyfr Galloway, I'm not the only one, ac mae'n werth ei ddarllen (er y byddwn i'n awgrymu ei fenthyg o'r llyfrgell yn hytrach na'i brynu. Fel pob hunan-gofiant, mae ynddo ormod o dipyn o hunan-gyfiawnhad. Er hynny, mae fe'n codi nifer o bwyntiau dilys: fel pan mae'n disgrifio'r adeg yn yr 1990au pan oedd awyrennau dwy o wledydd NATO (Prydain ac America) yn hedfan o feysydd awyr yn Nhwrci i amddiffyn Cwrdiaid Irac. Ar yr union un adeg, o'r union un meysydd awyr, roedd awyrennau un arall o wledydd NATO (sef Twrci) yn hedfan i fomio'r Cwrdiaid yr ochr arall i'r ffin.
Mae disgrifiad Galloway o orffennol asgell-chwith sawl Llafuryn Newydd (John Reid, Alister Darling, David Blunkett ac ati) yn ddoniol tu hwnt, hefyd.