docito a ddywedodd:Huw Psych a ddywedodd:Mae o wedi rhoi rhesyma dilys dros fynd i'r ty i geisio agor gwleidyddiaeth i bobl yn eu cartrefi, yn enwedig i'r ifan. Mae gwleidyddiaeth dda gan y dyn yma, does gen i ddim syniad pam ei fod o wedi bod yn y blaid Lafur, ond y peth gora nath o oedd gadael y blaid honno!
Cytuno gyda hwn. O'n i'n eitha cytuno gyda'i ddatganiad ei fod am ddod a gwleidyddiaeth i'r ifanc. Ond dyma'r broblem ti'n gweld!!!!!
Fe driodd e 'fynd lawr gyda'r kids' ond fe brofodd y profiad nad oedd gan George Galloway unrhyw syniad o sut i gyfarthrebu gyda bobl gyffredin.
Dwi ddim yn ystyried y mwyafrif o aelodau Maes-e fel 'pobl cyffredin' yn y cyswllt yma gan bod ganddo ni ar y cyfan ddiddordeb mewn gwleidyddiaeth a roedden ni'n gwbod pwy oedd GG cyn iddo fynd i fewn i'r ty. Dyw'r rhan fwyaf o bobl ddim yn poeni shit am y ffaith ei fod wedi sefyll lan yn erbyn senedd yr UDA, yn wir doedd gan y mwyafrif ddim 'pre-conception' (sori) am ei gymeriad.
quote]
Ond eto, doedd o ddim yn medru trafod materion gwleidyddol yn iawn yn y ty beth bynnag, oherwydd y rheolau sydd gan C4 (a'r sianeli eraill, am 'wn i). Felly, dwi'n credu fod hwn yn fwy o ego trip a pay day hawdd i Galloway na ddim byd arall.
Beth am ceisio siarad hefo'r kids yn ei etholaeth?