Galloway

Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri

Cymedrolwr: Mr Gasyth

Rheolau’r seiat
Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri, Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Prysor » Llun 06 Chw 2006 2:43 pm

Yndi, Krusty gyfaill, mae o yn hynny. Da am entertenment faliw ("i'd rather be a cat than a poodle!"). Ond mae o hefyd yn doji as ffyc.
Rhithffurf defnyddiwr
Prysor
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3181
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 5:37 pm

Postiogan Tegwared ap Seion » Llun 06 Chw 2006 2:49 pm

krustysnaks a ddywedodd:Ahh am ddyn arbennig. Nath o chwalu Charles Skinner, dyn embasi UDA, yn llwyr neithiwr. Oedd o fel gwylio Galloway vs pwyllgor y Senate unwaith eto. Dyn clyfar, ffraeth a huawdl iawn.


Ond wedi deud hynny, toedd Charles Skinner fawr o gop nagoedd?! Sa brwsh dannedd wedi medru chwalu hwnnw.
Aelwyd yr Ynys
Clera - Cymdeithas Offerynnau Traddodiadol Cymru

Sdwff ni a dim rhyw sothach ail-law Seisnig
Rhithffurf defnyddiwr
Tegwared ap Seion
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 3443
Ymunwyd: Maw 22 Chw 2005 5:26 pm
Lleoliad: Môn

Postiogan Dili Minllyn » Llun 12 Chw 2007 1:11 pm

Dwi wedi bod wrthi'n ddiweddar efo llyfr Galloway, I'm not the only one, ac mae'n werth ei ddarllen (er y byddwn i'n awgrymu ei fenthyg o'r llyfrgell yn hytrach na'i brynu. Fel pob hunan-gofiant, mae ynddo ormod o dipyn o hunan-gyfiawnhad. Er hynny, mae fe'n codi nifer o bwyntiau dilys: fel pan mae'n disgrifio'r adeg yn yr 1990au pan oedd awyrennau dwy o wledydd NATO (Prydain ac America) yn hedfan o feysydd awyr yn Nhwrci i amddiffyn Cwrdiaid Irac. Ar yr union un adeg, o'r union un meysydd awyr, roedd awyrennau un arall o wledydd NATO (sef Twrci) yn hedfan i fomio'r Cwrdiaid yr ochr arall i'r ffin.

Mae disgrifiad Galloway o orffennol asgell-chwith sawl Llafuryn Newydd (John Reid, Alister Darling, David Blunkett ac ati) yn ddoniol tu hwnt, hefyd.
Rhithffurf defnyddiwr
Dili Minllyn
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1181
Ymunwyd: Llun 11 Gor 2005 6:30 pm
Lleoliad: Uwchben Ynys Echni

Postiogan Prysor » Llun 12 Chw 2007 1:28 pm

Diolch Dili. Mae'n swnio'n ddifyr iawn.
Rhithffurf defnyddiwr
Prysor
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3181
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 5:37 pm

Nôl

Dychwelyd i Materion Prydain

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 5 gwestai

cron