Dili Minllyn a ddywedodd:Dweud rydw i, chwedl 'rhen Enoch, fod "y byd yn llawn dynion dieflig yn gwneud pethau cas," a finnau'n teimlo'n annifyr iawn am ba anghyfiawnderau sy'n cael sylw (a) gan y cyfryngau (b) gan y Pwerau Mawr (c) gan wahanol garfannau adain-chwith
Sef, o'i gyfieithu yn fras, pam mae'r pethau annifyr mae llywodraeth Israel yn eu gwneud yn cael sylw cyhoeddus ym Mhrydain o gwbl? Ia? Ynta ydi hynna yn ddehongliad rhy sinicaidd?
Parthed y sylw mae Israel yn ei gael ar "y cyfryngau" - wel, mi wyt ti wedi gweld
hyn o'r blaen, ond dyma dynnu sylw ato fo eto.
Dili Minllyn a ddywedodd:A faswn i ddim yn bychanu gwrthod dinasyddiaeth i ryw garfan ethno-grefyddol.
Fyswn i ddim yn gwneud hynna chwaith.
Dili Minllyn a ddywedodd:O ran lladd genod ysgol, mae digon o ladd pob ifanc ddiniwed wedi bod ar y ddwy ochr ers hanner can mlynedd a rhagor, yswaeth.
Onid bychanu llofruddiaethau gan yr IDF ydi hyn? Mae pawb arall yn ei wneud o, felly mae'n iawn? Tasai aelodau Hamas yn neidio oddi ar glogwyn, fysai'r IDF yn ei wneud o hefyd? Hmm?
Where is the horse and the rider? Where is the Horn that was blowing? They have passed like rain on the mountain, like a wind in the meadow. The days have gone down in the West, behind the hills, into Shadow.