Jac yr Undeb yn 400 oed heddiw

Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri

Cymedrolwr: Mr Gasyth

Rheolau’r seiat
Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri, Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Jac yr Undeb yn 400 oed heddiw

Postiogan Dili Minllyn » Mer 12 Ebr 2006 9:45 am

Mae Jac yr Undeb yn 400 oed heddiw. Tybed beth yw'r ffordd orau i nodi'r achlysur mawr. :?
Rhithffurf defnyddiwr
Dili Minllyn
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1181
Ymunwyd: Llun 11 Gor 2005 6:30 pm
Lleoliad: Uwchben Ynys Echni

Postiogan Reufeistr » Mer 12 Ebr 2006 9:55 am

Delwedd

Gai nodi, nid hiliaeth yw hwn ond bygwth y cysyniad o Brydeindod o ran hunaniaeth ydw i (gan fod doesna'm byd yn gwahaniaethu Hunaniaeth Brydeinig a Hunaniaeth Saesneg - felly mae'n ddi-ddiben).
http://myspace.com/pwsimerimewfunk
The boy who cried 'ball-bearing' / 'Gretsch White Falcon'.
Rhithffurf defnyddiwr
Reufeistr
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 752
Ymunwyd: Llun 09 Ion 2006 12:19 pm

Postiogan Meiji Tomimoto » Mer 12 Ebr 2006 10:04 am

Unig bwrpas swyddogol y faner oedd i'r brenin Sior (dwi'm yn cofio pa un) fedru ddeud y gwahaniaeth rhwng ei longau o a llongau'r llynges. Does dim deddf yn ei gwneud hi'n swyddogol. Oedd Cymru eisioes yn dywysogaeth pan y dyfeisiwyd hi, fellu does dim arwyddocad iddi o ran Cymru.
Tawn i'n smecs Alec! Y Meicroffilm!
Rhithffurf defnyddiwr
Meiji Tomimoto
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 485
Ymunwyd: Iau 16 Hyd 2003 3:45 pm

Postiogan Dili Minllyn » Mer 12 Ebr 2006 10:06 am

Meiji Tomimoto a ddywedodd:Unig bwrpas swyddogol y faner oedd i'r brenin Sior (dwi'm yn cofio pa un) fedru ddeud y gwahaniaeth rhwng ei longau o a llongau'r llynges.

Brenin Iago I Lloegr (Iago VI yr Alban).
Rhithffurf defnyddiwr
Dili Minllyn
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1181
Ymunwyd: Llun 11 Gor 2005 6:30 pm
Lleoliad: Uwchben Ynys Echni

Postiogan HBK25 » Mer 12 Ebr 2006 10:21 am

Dydi'r faner ddim yn fy ngwylltio i o gwbl. Yn wir, dwi ddim yn teimlo unrhywbeth amdani. Mae'r faner neis o ran cynllun, ond mae'n golygu'r un peth i mi a mae baner Namibia h.y. naff all.

Mae'r un peth yn wir am y termau "Welsh", "Wales" a "Celt".

Mae'r syniad o Brydeinidod yn un hollol dryslyd bellach. Dwi'n Brydeining, ond ddim trwy ddewis.
Rhithffurf defnyddiwr
HBK25
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1876
Ymunwyd: Llun 18 Ebr 2005 2:42 am

Postiogan Meiji Tomimoto » Mer 12 Ebr 2006 11:56 am

Dili Minllyn a ddywedodd:
Meiji Tomimoto a ddywedodd:Unig bwrpas swyddogol y faner oedd i'r brenin Sior (dwi'm yn cofio pa un) fedru ddeud y gwahaniaeth rhwng ei longau o a llongau'r llynges.

Brenin Iago I Lloegr (Iago VI yr Alban).


Ia, ahem, dylswn i 'di darllan y linc gytaf :rolio:
Tawn i'n smecs Alec! Y Meicroffilm!
Rhithffurf defnyddiwr
Meiji Tomimoto
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 485
Ymunwyd: Iau 16 Hyd 2003 3:45 pm

Postiogan Mici » Mer 12 Ebr 2006 12:25 pm

Darllenais ychydig amdano ar wefan BBC ddoe a gwelais eitem bore ma, roedd yna bobol ex-navy a ballu yn mynd yn wallgo oherwydd union flag ydi o nid union Jack, mae o ond yn cael ei alw yn union Jack ar y mor :P

Last night of the proms, BNP a'r cwin fyddai yn meddwl am wrth weld y fflag, rhyw delwedd anghynnes, imperialaidd o goncwest drwy drais.
Rhithffurf defnyddiwr
Mici
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 846
Ymunwyd: Gwe 21 Ion 2005 11:47 am
Lleoliad: Galway

Postiogan Ray Diota » Mer 12 Ebr 2006 12:46 pm

pan on i'n gwylio arsenal v juve wthnos dwetha, sylwes i nad oedd yr UN jac yr undeb da cefnogwyr arsenal (a dim achos bo nhw'n ffrensh chwaith, cyn i ryw clefer dic weud 'ny). baner sant sior odd da pawb.

ma jac yr undeb ar y ffor mas. a jolch byth am hynny 'fyd.
iaaasu moses!
Rhithffurf defnyddiwr
Ray Diota
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4570
Ymunwyd: Gwe 19 Rhag 2003 3:52 pm
Lleoliad: Bow Street: It's like armageddon!

Postiogan anffodus » Mer 12 Ebr 2006 2:57 pm

Dwi'n cytuno efo Reufeistr. Dyna'n union sut y byddwn i'n dathlu'r diwrnod hefyd.

Ar Taro'r Post heddiw roedd 'na rywun o Lysgenhadaeth Glyndwr yn dweud nid yn unig y dylai baner Jac yr Undeb beidio cael ei chydnabod gan Gymru ond y dylai baner Owain Glyndwr gael ei chydnabod fel baner Cymru yn hytrach na'r Ddraig Goch oherwydd bod baner Glyndwr yn hen un teulu Tywysogion Gwynedd a'i bod hi'n hyn na'r Ddraig Goch ac mai honno ddylai gael ei chyfri'n swyddogol fel baner Cymru. Dwi'n gweld pwynt pwy bynnag ddywedodd hynny ond dwi'n meddwl ei bod hi'n rhy hwyr i newid petha'n
Cod ar dy draed y llipryn! Lle ti'n feddwl wt ti?! Butlins?!!
anffodus
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 265
Ymunwyd: Maw 07 Maw 2006 7:31 pm
Lleoliad: trefor (yn y tywyllwch - newydd gal powercut)

Postiogan Fe Godwn Eto » Mer 12 Ebr 2006 5:58 pm

Cytuno yn union!! Nid yw Jac yr Undeb yn cael ei gefnogi gan unrhywbeth swyddogol!! pam y dylid ei "ddathlu"?

Wedi'r cyfan 150 mlynedd ers cyfansoddi hen Wlad fy Nhadau ydy prif ddigwyddiad 2006, ac er gofynion helaeth nid oes unrhyw fath o ddathliad am fod. Os hoffai bobl ymuno a'r ymgyrch am ddathliad ysgrifennwch at y Post Brenhinol yn gofyn pam mae ganddynt agwedd mor hiliol at y Cymry........... Mae'n nhw'n ddigon parod i gynhyrchu stampiau i'r saeson - Digwyddiadau Brenhinol, Ennill cystadleuaeth criced yr Ashes llynnedd a.y.y.b.
Fe Godwn Eto
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 17
Ymunwyd: Sul 08 Ion 2006 4:01 pm
Lleoliad: Caerdydd

Nesaf

Dychwelyd i Materion Prydain

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 18 gwestai