Blewyn a ddywedodd:Dw i o blaid helpu datblygu economiau gwledydd megis gwlad Pwyl (wel, holl wledydd sydd angen datblygu economaidd).
Pam ?
Er mwyn codi safon byw pobl mewn gwledydd tlotach. Pam arall? Dwi ddim eisiau swnio'n nawddoglyd ond mae 'na lot o bobl tlawd allan yn y byd mawr 'na. Ta beth, ymdrin a pam mae pobl yn meddwl am bleidlseisio i'r BNP mae'r edefyn yma amdano ac gobeithio wnei di fy maddau i mi am beidio ag ymhelaethu gormod ar ddatblygiad economaidd....yn bennaf gan nad wyf yn fawr o economegydd.
Dros y penwythnos mi gwrddais a dau wahnanol berson wnaeth son am y BNP. Dim un annogaeth wrthyf i er taw gwleidyddiaeth oedd y pwnc. Un gwr canol oed oedd yn ol bob tebyg yn mynd i bleidleisio iddynt (y BNP) yn yr etholiadau nesaf er dwi ddim yn siwr os fydd posib gwneud hyn yng Nghorllewin Cymru. A'r ail, cwrddais ag rhyw ddyn oedd yn mynnu fod llawer o bobl yr oedd yn ei adnabod yn golygu cefnogi'r BNP o hyn ymlaen. Roedd y gwr yma yn eitha adnabyddus i'r rhan fwyaf ohonnom yma fel actor ac yn gefnogwr i'r Blaid dros y blynyddoedd. Y rheswm am hyn...dim byd yn newid pwy bynnag plaid oedd mewn pwer. Mwy o wahaniaeth rhwng y cyfoethog a'r tlawd dan Lafur. Mewnlifiad. Y glweidyddion yna i leinio pocedi eu hunain............Dyna beth ydw i'n eu cofio.
Welsoch y Politics Show ddoe o Lyn Ebbwy? Welsoch chi'r teimlad o ddigalondid ymysg y bobl wnaethant siarad gyda? Ac mi rydym yn byw mewn cyfnod lle mae'r economi yn ol y gwybodusion yn ffynnu. Mae'r blaid Lafur wedi cael 8 mlynedd mewn pwer, ond maer' diflastod mewn llawer o ardaloedd yn parhau. Pwy ddylai'r bobl 'ma droi ato? Efallai taw anobaith sydd yn gwneud i bobl droi at y BNP.