Pam mae rhai'n cefnogi'r BNP?

Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri

Cymedrolwr: Mr Gasyth

Rheolau’r seiat
Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri, Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Chwadan » Gwe 28 Ebr 2006 8:33 pm

Ti o ddifri? Ar un llaw ma nhw isio i bobl ddefnyddio llai o'u ceir ond ma nhw'n cynnig tri pholisi sy'n mynd i annog pobl i'w defnyddio...
Rhithffurf defnyddiwr
Chwadan
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2578
Ymunwyd: Sul 16 Maw 2003 12:24 am
Lleoliad: :dailoelL

Postiogan Cath Ddu » Sad 29 Ebr 2006 11:22 pm

Doniol neu dim dwi'n credu fod y BNP yn beryglus iawn. Nos Iau fe gafodd y blaid 17.5% o'r bleidlais yn Nhowyn, Bae Kinmael mewn etholid Cyngor Tref :ofn:

Arwydd o'r hyn sydd i ddod? Gobeithio ddim.
Cath Ddu
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1963
Ymunwyd: Iau 22 Gor 2004 2:23 pm

Postiogan Macsen » Sul 30 Ebr 2006 12:00 am

Diolch i'r drefn y math o bobl sy'n cefnogi'r BNP, y werin anwybodus, yw'r math o bobl sydd byth yn boddran pledleisio. :)Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan Blewyn » Sul 30 Ebr 2006 6:26 am

A dyma'n union pam nad ydy'r tri blaid mawr yn poeni dim am bolisiau i helpu'r dosbarth gweithio (neu dosbarth di-waith). Petawn innau yn blymar neu yn berson ifanc ag awydd dysgu mynd yn blymar - neu hyd yn oed peiriannydd olew bron yn ei ganol oed ac awydd mynd yn blymar neu ffitar unwaith mae'r ty wedi ei brynu, er mwyn cael gwaith symudol a chadw'n heini - mi faswn i'n reit ddig tuag at y dosbarth canol ponslyd ym Mhrydain sydd yn mewnforio tlodion i wneud y gwaith ddylia fynd i mi, achos eu bod yn rhatach. Pa hawl sydd gan y wlad i fewnforio plymars pan mae'na digonedd o bobl ifanc all wneud y gwaith ? Yda ni'n gweld yr un peth yn digwydd efo cyfreithwyr a doctoriaid ?
Rhithffurf defnyddiwr
Blewyn
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 762
Ymunwyd: Sad 31 Gor 2004 12:47 pm
Lleoliad: Brisbane, Queensland, Straya Mate

Postiogan Nanog » Sul 30 Ebr 2006 9:31 am

Blewyn a ddywedodd:A dyma'n union pam nad ydy'r tri blaid mawr yn poeni dim am bolisiau i helpu'r dosbarth gweithio (neu dosbarth di-waith). Petawn innau yn blymar neu yn berson ifanc ag awydd dysgu mynd yn blymar - neu hyd yn oed peiriannydd olew bron yn ei ganol oed ac awydd mynd yn blymar neu ffitar unwaith mae'r ty wedi ei brynu, er mwyn cael gwaith symudol a chadw'n heini - mi faswn i'n reit ddig tuag at y dosbarth canol ponslyd ym Mhrydain sydd yn mewnforio tlodion i wneud y gwaith ddylia fynd i mi, achos eu bod yn rhatach. Pa hawl sydd gan y wlad i fewnforio plymars pan mae'na digonedd o bobl ifanc all wneud y gwaith ? Yda ni'n gweld yr un peth yn digwydd efo cyfreithwyr a doctoriaid ?


Diolch fod rhywun yma sydd yn gallu meddwl dros ei hunan a theimlo empathi gyda'r dosbarth gweithiol.
Nanog
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 708
Ymunwyd: Llun 26 Rhag 2005 9:13 pm

Postiogan Macsen » Sul 30 Ebr 2006 11:17 am

Blewyn a ddywedodd:Yda ni'n gweld yr un peth yn digwydd efo cyfreithwyr a doctoriaid ?

Ym, yndi, mae o. Mae'r NHS yn mewnforio doctoriaid o bob gwlad dan haul.

Diogrwydd sydd wrth sail bod yn ddi-waith yn y pen draw. Mae 'na ddigonedd o waith yn mynd, ac os na mae hi bob tro'n bosib dechrau busnes. Y ffaith syml yw bod y 'menwfudwyr diawledig' yma'n fodlon mynd i fwy o drafferth i gael swydd ac yn fodlon gweithio'n galetach na'r pobl sy'n cwyno amdanynt.
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan Blewyn » Sul 30 Ebr 2006 11:42 am

Macsen a ddywedodd:
Blewyn a ddywedodd:Yda ni'n gweld yr un peth yn digwydd efo cyfreithwyr a doctoriaid ?

Ym, yndi, mae o. Mae'r NHS yn mewnforio doctoriaid o bob gwlad dan haul.

http://news.bbc.co.uk/1/hi/health/4928954.stm
Diogrwydd sydd wrth sail bod yn ddi-waith yn y pen draw.

Ym, na, diffyg gwaith sydd wrth sail bod yn ddi-waith.
Mae 'na ddigonedd o waith yn mynd, ac os na mae hi bob tro'n bosib dechrau busnes.

Just like that ia. Dywed, pa fath o fusnes fyset ti'n ei awgrymu ddylia rhywun diwaith tlawd ddechrau ?
Y ffaith syml yw bod y 'menwfudwyr diawledig' yma'n fodlon mynd i fwy o drafferth i gael swydd ac yn fodlon gweithio'n galetach na'r pobl sy'n cwyno amdanynt.

Ac yn fodlon ei wneud am fymryn y pris, wrth gwrs. Yn wir, mae'na ffatrioedd mewn rhai gwledydd yn llawn o bobl sy'n fodlon gweithio ddydd a nos am bris brechdan (neu lai os ti'n prynu dy fechdan yn Pret-a-Porter). Ydy hyn yn golygu y dylia ni roi y gwaith (a'r sgiliau, a'r technoleg) iddyn nhw, a gadael y dosbarth gweithiol ym Mhrydain i bydru ar y dol ? Pwy sy'n mynd i brynu'r pethau rhad'ma (sori, naci wrth gwrs, be dwi'n feddwl ydy pethau rhatach eu gwneuthuriad) os fod pawb ar y dol ym Mhrydain ?
Rhithffurf defnyddiwr
Blewyn
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 762
Ymunwyd: Sad 31 Gor 2004 12:47 pm
Lleoliad: Brisbane, Queensland, Straya Mate

Postiogan Ari Brenin Cymru » Sul 30 Ebr 2006 12:27 pm


Dwi'n meddwl fod hyn yn syniad eithaf da ar y cyfan. Mae'n rhoi'r cyfle cyntaf i raddedigion or wlad yma ne o Ewrop i gael y swydd sydd yn ddigon teg. Ac os dydynt ddim yn gallu darganfod person ir swydd, wedyn maent yn cael cyfle i chwilio am bobl mewn gwledydd tu allan ir EU.

Ar ol deud hyn, mae'n anheg ar y bobl tu allan ir EU sydd yn ganol astudio i fod yn feddyg yn y wlad yma. A fyddant yn cael aros i orffen y cwrs a chael swydd neu y byddent yn cael eu gorfodi i fynd yn ol iw gwlad nhw eu hunain? Os byddant yn gorfod gadael, bydd gennyn nhw ddyledion mawr a dim gradd i ddangos am ei holl ymdrechion nhw.
Ari Brenin Cymru
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1037
Ymunwyd: Mer 20 Gor 2005 8:32 pm
Lleoliad: Porthmadog/Aberystwyth

Postiogan Nanog » Sul 30 Ebr 2006 12:29 pm

Macsen a ddywedodd: y 'menwfudwyr diawledig' yma'n fodlon mynd i fwy o drafferth i gael swydd ac yn fodlon gweithio'n galetach na'r pobl sy'n cwyno amdanynt.


Dy eiriau di yw'r rhai hynna. Dw i o blaid helpu datblygu economiau gwledydd megis gwlad Pwyl (wel, holl wledydd sydd angen datblygu economaidd). Gofynnaf gwestiwn i ti. Wyt ti'n meddwl fyddai well gan rhywun er engraifft o wlad Pwyl fod yn ei wlad ei hun yn gweithio ymysg ei bobl ei hun a gyda'i deulu neu yn byw mewn ty teras dwy ystafell wely ynghyd a deg arall mewn gwlad estron? Os wyt ti'n ddyngarwr, ac yn wirioneddol eisau helpu'r bobl yma ac hefyd gweithwyr dy wlad dy hun, dylet ddadlau dros yr opsiwn cyntaf.
Nanog
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 708
Ymunwyd: Llun 26 Rhag 2005 9:13 pm

Postiogan Chwadan » Sul 30 Ebr 2006 12:52 pm

Macsen a ddywedodd:Diogrwydd sydd wrth sail bod yn ddi-waith yn y pen draw. Mae 'na ddigonedd o waith yn mynd, ac os na mae hi bob tro'n bosib dechrau busnes.

Waw, ma hynna mor retro! Pre-1900 a deud y gwir :rolio:
Rhithffurf defnyddiwr
Chwadan
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2578
Ymunwyd: Sul 16 Maw 2003 12:24 am
Lleoliad: :dailoelL

NôlNesaf

Dychwelyd i Materion Prydain

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 19 gwestai

cron