Rhods, trist dy fod wedi llyncu holl sbwriel y Blaid Geidwadol. Does gennyt ti ddim gobaith mul o weld y Ceidwadwyr yn cefnogi Cymru Rydd. Neith o just ddim digwydd.
Pe bai chwyldro o fewn y Toriaid yng Nghymru a'u bod yn deffro fory a meddwl "ni isio Cymru annibynol" yna nid y Blaid Geidwadol fydd hi bellach!
Mae David Cameron yn spinfeistr yn yr un ffordd a Tony Blair. Dyn neis, ffrind pawb sy'n credu be bynnag wyt ti isio iddo fo gredu. Ond nid Annibyniaeth y Gymru mo hynny! Gwna'n fawr o Cameron, gyda'r agenda (nid polisiau does ganddo fo ddim) rhyddfrydol yn gelyniaethu ambell un o fewn ei blaid sy'n parhau i fod a agenda eu hunain bydd Cameron yn gweld ei hun yn mynd yr un ffordd a IDS, William Hague a Michael Howard.
Bydd y Ceidwadwyr yn cael ambell i fuddugoliaeth yn eu hen ardaloedd arferol yn Llundain heno ond dim byd gwerth son amdano. Y Democratiaid Rhyddfrydol eith a rhanfwyaf o bleidleisiau'r Blaid Lafur. Gyda Respect a'r BNP yn cael 1 neu 2 o seddi ar draws Lloegr ond dim byd iddynt glochdar yn ormodol amdano - er byddant yn siwr o drio.