Y Ceidwadwyr wedi neud chydig yn well nag oeddwn in meddwl. Wedi neud yn dda iawn yn Llundain a wedi cael cynrychiolaeth mewn ardaloedd fel Wigan ond mae'n edrych yn debyg mae wedi torri'n nol mewn i'w ardaloedd traddodiadol ar y cyfan yn lle'r chwyldro roedd Cameron wedi ei gobeithio - dim newid aruthrol yn ardaloedd mwy dinesig Gogledd Lloegr.
Mi wnaeth y Ceidwadwyr gipio un sedd gan dynnu'r amlen cywir allan o het ar ol i'r Blaid Lafur a nhw ddod yn hollol gyfartal.
Buddugoliaeth y BNP dim byd mor arthrol a hynny - wedi ennill 11 o'r 13 sedd wnaethon nhw sefyll ynddo fo yn Dagenham ac ati ond mae ganddynt dal llai nag hyd yn oed y Blaid Werdd. Respect wedi cipio 10 hefyd mae'n debyg.
Dem Rhydd wedi neud yn wael.