gan GT » Sul 30 Ebr 2006 10:56 am
(1) Clarke
(2) Prescott
(3) Blair
Clarke am resymau amlwg - dylai fod wedi mynd yr wythnos diwethaf. Mae'n debyg bod mwy o storiau am ddod i'r wyneb am bobl mae ei adran wedi eu rhyddhau yn mynd ati i dorri'r gyfraith. Byddai'n llawer haws i'r llywodraeth ddelio a'r rhain os nad Clarke sydd wrth y llyw. 'Dydi'r ffaith bod y bwli anymunol wedi gwneud mor a mynydd o fod yn tough ddim llawer o help iddo bellach.
Prescott hefyd am resymau amlwg. Nid oes pwrpas iddo bellach. Roedd o yn ei job er mwyn apelio at gefnogwyr traddodiadol dosbarth gweithiol y Blaid Lafur. Bellach mae'n gartwn o holl ragfarnau Middle England am y dosbarth hwnnw. Fydd o ddim efo ni am hir.
Blair oherwydd bod ei awdurdod bellach yn diflanu o ddiwrnod i ddiwrnod, o awr i awr. Y peth gorau iddo fo ei wneud fyddai disgwyl i bethau ddistewi - tros yr haf efallai- a chodi ei bac yn fuan yn y sesiwn seneddol gyntaf.
Bydd y ddau arall yn cael swydd newydd (neu cael ei hel i'r meinciau cefn yn achos Reid efallai) yng nghabinet cyntaf Brown.
Beth bynnag gwynt teg ar ol y tri cyntaf. Bydd bywyd cyhoeddus yn y DU yn well o beth coblyn hebddynt.